Wrth ymateb i Adolygiad S4C, Mae Dyfodol i’r Iaith wedi pwyselisio’r angen i ffurfioli rôl y sianel yn y genhadaeth o adfer a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Mae’r mudiad yn galw am fabwysiadu datganiad, ar fodel teledu’r Maori yn Seland Newydd, i gyfrannu at ffyniant yr iaith.
Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:
“Byddai gweithredu ar sail datganiad o’r fath ar draws holl weithgareddau’r Sianel yn rhoi cyfeiriad pendant i’r gwasanaeth a’i berthynas â’r Gymraeg, a byddai’n gosod holl gynnyrch y Sianel yng nghalon yr ymdrech i gryfhau’r iaith.”
Pwysleisia’r mudiad bod ystyriaethau ariannol yn hanfodol os yw’r sianel am wneud cyfraniad cadarn i hyrwyddo’r Gymraeg. Mae angen sicrhau rhyddid a chefnogaeth i S4C ehangu ac arloesi er mwyn ymateb i farchnad sy’n prysur newid, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt.
Rhaid sicrhau cyllid digonol a sefydolog i ddatblygu’n hyderus ac arloesol. Rhaid anelu at sicrhau annibyniaeth olygyddol y sianel, ond gan ymorol yr un pryd na fyddai unrhyw drefniant newydd yn cyfaddawdu sicrwydd ariannol y dyfodol.