Yn Nhachwedd 2020 cyhoeddwyd ein dogfen Troi Dyhead yn Realiti – gofynion Dyfodol i’r Iaith ar gyfer Senedd Cymru 2021-2026. Mae’r ddogfen yn gosod glasbrint ymarferol i wleidyddion o bob plaid ar sut i wrthdroi shifft iaith tuag at y Gymraeg drwy gynllunio cyfannol a lledaenu dealltwriaeth o ddwyieithrwydd ac ymwybyddiaeth iaith.
Trafodir pwysigrwydd:
- Addysg
- Cymraeg i Oedolion
- Cymunedau’r Gymraeg
- Economi ffyniannus (gan gynnwys gweithleoedd Cymraeg, cynllunio, defnydd tir a chartrefi)
- Y Cyfryngau a Diwylliant
Amlynellir, hefyd, yn y ddogfen, yr ymrwymiadau rydym ni am i’r pleidiau gwleidyddol eu gwneud erbyn sefydlu llywodraeth newydd Cymru ym Mai 2021.
Gallwch lawrlwytho Troi dyhead yn realiti