CAMAU I’R CYFEIRIAD IAWN
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu’r cytundeb cydweithio a gyhoeddwyd rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Mae’r mudiad yn falch o nodi bod ymrwymiad i dwf y Gymraeg yn cael ei ategu yn y ddogfen a’i bod yn cynnwys nifer o gamau cadarnhaol i’r cyfeiriad iawn o safbwynt polisïau’n ymwneud â’r Gymraeg.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:
“Mae’n dda gweld fod y cytundeb yn cynnwys nifer o fesurau sy’n mynd i’r afael â sicrhau ffyniant y Gymraeg a bod hyn, fe ymddengys, yn rhan o’r weledigaeth ehangach ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Croesawn y cadarnhad ynglŷn â chymryd y broblem ail gartrefi o ddifrif ac, wrth gwrs, y cynigion o safbwynt ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau sylw dyledus i hanes Cymru o fewn y Cwricwlwm.
Mae yma hefyd ddatblygiadau sy’n allweddol i gefnogi ffyniant y Gymraeg; Cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, er enghraifft yn ogystal â’r bwriad i ehangu prosiect Arfor a’r pwyslais ar ddiwylliant a darlledu cynhenid. Afraid dweud, cefnogwn yn ogystal y bwriad i ehangu ac ystwytho Safonau’r Gymraeg a gwarchod enwau lleoedd Cymraeg.
Wrth groesawu hyn oll, fodd bynnag, rhaid bod yn wyliadwrus nad ewyllys da a geiriau teg a gynrychiolir gan y ddogfen. Rhaid mynnu ar lefel ddigonol o gyllid, adnoddau ac ymrwymiad ar gyfer pob un o’r mesuriadau sy’n addawol i’r Gymraeg.”
ADRODDIAD Y COMISIYNYDD YN “WYNEBU SEFYLLFA’R GYMRAEG YN EI HOLL GYMHLETHDOD.”
Mae’r mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi canmol Adroddiad pum mlynedd Comisiynydd y Gymraeg fel dogfen gynhwysfawr a threiddgar, sy’n hoelio’r heriau sy’n wynebu’r iaith ar hyn o bryd a thua’r dyfodol.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:
“Mae neges gadarn y Comisiynydd yn gwbl addas ac amserol, wrth i Gymru a’r Gymraeg barhau i ymdopi ag effeithiau Covid. Mae’r Adroddiad yn amlygu ac ategu ein hunion bryderon ninnau drwy osod y Gymraeg yn ei chyd-destun cymdeithasol ac economaidd ehangaf a gosod pwyslais cadarn ar ei defnydd. Mynnwn fod y Llywodraeth yn cymryd y ddogfen hon o ddifrif a gweithredu ar fyrder yn unol â’i hargymhellion.
Cytunwn fod ehangu addysg cyfrwng Gymraeg yn hanfodol i dwf y Gymraeg, a da yw nodi fod y Comisiynydd yn galw am fynd i’r afael â’r diffyg athrawon sy’n gymwys i addysgu drwy’r Gymraeg. Heb hynny, ni cheir unrhyw fath o sail i wireddu uchelgais strategaeth y Llywodraeth.
Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Comisiynydd am wynebu ac amlinellu sefyllfa’r Gymraeg yn ei holl gymhlethdod.”