Cliciwch yma i ddarllen Ymateb Dyfodol I’r Iaith i Ymgynghoriad DCMS ar Ieithoedd Lleiafrifol.
Ymateb Dyfodol I’r Iaith i “Dyfodol cymunedau Cymraeg: galwad am dystiolaeth” y Comision Cymunedau Cymraeg
Tai Cymdeithasol i Siaradwyr Cymraeg
Mae angen sicrhau fod siaradwyr Cymraeg yn cael blaenoriaeth o ran cael mynediad at dai cymdeithasol mewn cymunedau Cymraeg – dyna un o alwadau Dyfodol i’r Iaith yn ei ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Ymysg hanner cant o awgrymiadau eraill, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am sicrhau fod holl gynlluniau adeiladu tai yn y dyfodol yn seiliedig ar anghenion lleol yn unig yn hytrach nac ar sail rhagamcanion Swyddfa Ystadegau Gwladol o dwf yn y boblogaeth.
Galwad arall yw bod angen dynodi cymunedau Cymraeg fel Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol Arbennig (‘AAIA’) a chryfhau y broses o ystyried effeithau ar y Gymraeg o fewn y drefn Cynllunio yn yr un modd â materion amgylcheddol a chadwraethol. Dylai’r broses hefyd gynnwys gosod uchafswm nifer tai haf ymhob cymuned a monitro effeithiau ieithyddol gwirioneddol datblygiadau preswyl, hamdden ac economaidd sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio.
Medd Dylan Bryn Roberts, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith, “Efallai mai dyma’r cyfle olaf sydd gennym i geisio sicrhau dyfodol i’n cymunedau Cymraeg. Mae eu bodolaeth o dan fygythiad gwirioneddol yn sgil patrymau allfudo a mewnfudo.
“Yn ogystal â’r pwyntiau polisi uchod, mae angen creu amodau economaidd fydd yn cadw a denu pobl leol i weithio yn y broydd Cymraeg.
“Rydym ni’n edrych ymlaen at weld awgrymiadau’r Comisiwn maes o law, ac at weld y Llywodraeth yn cymryd camau gwirioneddol i ddiogelu parhad defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd cymunedau Cymraeg. Heb ymyrraeth bydd y cymunedau hyn i gyd wedi diflannu am byth.”