ACHOS PELLACH O GOSB PARCIO UNIAITH SAESNEG
Mae Dyfodol i’r Iaith yn hynod siomedig bod achos pellach o gwmni parcio ceir yn dangos amharch llwyr i’r Gymraeg.
Cysylltodd Gwen Williams â ni ar ôl cael hysbysiad cosb parcio yng ngwesty ‘Yr Eryrod’ yn Llanrwst canol mis Rhagfyr 2023. 6 wythnos yn ddiweddarach derbyniodd gosb parcio uniaith Saesneg am £60 gan Smart Parking Ltd.
Meddai Gwen Williams,
“Mae’n bwysig nodi fy mod i wedi esbonio trwy’r amser fy mod am dalu’r ddirwy pe byddai’n cael ei gyfieithu ac awgrymais sawl un allai wneud hynny iddynt ond collais yr apêl.
Os byddaf yn penderfynu talu’r ddirwy ai peidio, mi fyddaf yn parhau i ymgyrchu dros arwyddion a hysbysiadau cosb dwyieithog drwy lobïo’r awdurdodau sydd â’r pŵer a’r cyfle i wella’r gyfraith. Nid yw Mesur yr iaith Gymraeg 2011 a’r safonau iaith yn mynd yn ddigon pell i hyrwyddo dwyieithrwydd yn y sector preifat….”
CYNGOR SIR CAERFYRDDIN YN SIOMI PENTREF PORTH-Y-RHYD
Mae Dyfodol i’r Iaith yn hynod siomedig fod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cymeradwyo cais i adeiladu 42 o dai newydd ym mhentref Porthyrhyd dydd Iau (25/4/24).
Gyda Mudiad Amddiffyn Porthyrhyd roedd Dyfodol i’r Iaith wedi cyflwyno tystiolaeth gadarn y byddai caniatáu’r datblygiad yn siŵr o arwain at Seisnigeiddio pentref lle mae 68.5% yn gallu’r Gymraeg. Mae’n un o wardiau cynyddol brin hynny lle mae’r Gymraeg yn rhan o wead y gymuned ac yn iaith feunyddiol y mwyafrif. Ym mis Hydref 2023 nodwyd bod 68.5% o drigolion y pentref yn siarad Cymraeg. Mae’r ganran hon o siaradwyr Cymraeg yn perthyn i 10% uchaf cymunedau Cymru o ran canran siaradwyr. Mae gan y pentref, felly, arwyddocâd ieithyddol arbennig. Gyda 68.5% o siaradwyr Cymraeg, mae modd i’r pentref gynnal cymuned Gymraeg ei hiaith yn effeithiol, a’r Gymraeg yn chwarae rhan amlwg ym mywyd y gymuned. Dim ond 73 o adrannau etholiadol trwy Gymru gyfan sydd â rhagor na 60% yn siarad y Gymraeg.