GALW AM WEINIDOG I’R GYMRAEG

Tra’n llongyfarch Eluned Morgan ar ei chyfrifoldebau iechyd newydd, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Brif Weinidog Cymru i sefydlu Gweinidog penodol i’r Gymraeg.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni ers blynyddoedd lawer wedi gweld y Gymraeg yn faes cyfrifoldeb gweinidogion sydd o dan bwysau mawr o gyfeiriadau eraill.

“Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones, er tegwch iddo, wedi ysgwyddo baich y Gymraeg, ond roedd yn amhosib iddo roi blaenoriaeth i’r Gymraeg.  Yna daeth Brexit ac yn awr Covid-19 a materion iechyd cysylltiedig.  Dyw hi ddim yn bosib i’r holl feysydd sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg gael tegwch gan Weinidog mewn trefn fel hon.

“Cawsom addewid gan y Llywodraeth y byddai is-adran y Gymraeg yn datblygu’n gorff dylanwadol o fewn y Llywodraeth.  Mae tawelwch wedi bod ers hynny.

“Mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw’n gyson am Awdurdod Cenedlaethol i gydlynu cynllunio ieithyddol yng Nghymru ar draws holl feysydd cyfrifoldebau’r llywodraeth.  Rydyn ni am i’r Awdurdod fod yn un annibynnol heb ddibynnu fod ar fympwy llywodraeth.  Mae’r sylw ymylol a gaiff y Gymraeg yn nhrefn y Llywodraeth yn profi’r angen am Awdurdod Cynllunio Ieithyddol hyd braich. Mae’n hanfodol ei fod yn cydweithio â Gweinidog fydd yn gallu rhoi ei holl sylw i’r Gymraeg.

“Mae Covid-19 wedi peri argyfwng i gymunedau Cymraeg, ac i weithgareddau diwylliannol y Gymraeg.  Mae brys ychwanegol, felly i sefydlu Awdurdod Iaith Cenedlaethol fydd ag adnoddau a grym i gydlynu a sbarduno adfywiad yr iaith. Ac mae angen Gweinidog y Gymraeg fydd yn gallu rhoi ei sylw cyfan i hyn.”

 

DYFODOL YN GALW AM ADOLYGU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL GWYNEDD A MÔN

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Gynghorau Gwynedd a Môn i adolygu’r targed a nodir yn eu Cynllun Datblygu Lleol cyfredol i adeiladu 7,184 o gartrefi newydd yn yr ardal hyd at 2026.

Lluniwyd y Cynllun Datblygu yng nghyd-destun y disgwyliad i ddatblygu atomfa’r Wylfa. Yn sgil y cyhoeddiad na fydd y cynllun hwn yn bwrw ymlaen, cred y mudiad ei bod yn angenrheidiol, er lles y Gymraeg yn yr ardaloedd hyn, i adolygu targedau sydd bellach yn amherthnasol i anghenion y ddwy sir.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“O’r cychwyn, roddem yn grediniol bod Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn yn gosod targedau cwbl anaddas o safbwynt adeiladu tai newydd, ac yn sicr bellach, does dim cyfiawnhad dros barhau gyda fframwaith sydd nid yn unig yn gwbl anghynaladwy, ond sy’n bygwth y Gymraeg fel cyfrwng cymdeithasol yn ogystal.

Galwn ar y ddau Gyngor i adolygu’r Cynllun Datblygu ar fyrder, gan roi blaenoriaeth i anghenion economaidd ac ieithyddol lleol, a gosod pwyslais ar ynni cynaliadwy a chefnogi busnesau lleol.”

YMGYNGHORIAD CYNLLUNIO ADFERIAD Y GYMRAEG PWNC TRAFOD 9: STRWYTHURAU

Y testun trafod diweddaraf yn ein hymgynghoriad ar Gynllunio Adferiad y Gymraeg yw pa STRWYTHURAU sydd angen er mwyn gweinyddu a chyd-lynu adferiad y Gymraeg.

Fel o’r blaen, byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni. Mae croeso i chwi ddefnyddio’r templed cwestiynau isod neu anfon eich sylwadau atom ar unrhyw ffurf arall.

Isod, ceir crynodeb o ofynion Dyfodol ynglŷn â’r angen am Strwythurau addas i roi ein gweledigaeth ar waith. Os ydych am weld y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn ei chrynswth, mae copi ar gael i’w darllen ar ein gwefan, dyfodol.net

Diolch drachefn i bawb sydd wedi ymateb hyd yma. Edrychwn ymlaen at glywed gennych – cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau:

[email protected]

neu ffoniwch 01248 811798

 

PWNC TRAFOD 9: STRWYTHURAU

Dyma farn Dyfodol:

Wrth fynd ati, mae’n bwysig bod y strwythur sefydliadol yn addas i bwrpas. Yn genedlaethol ar hyn o bryd, dau gorff sydd â’r cyfrifoldeb am arwain/gweithredu polisi i’r Gymraeg

1) Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol yn bennaf am sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg drwy system y Safonau. Mae’r ddeddfwriaeth yn gosod cyfrifoldeb am hyrwyddo arni/o yn ogystal, ond hyd yma ar reoleiddio y canolbwyntiwyd.

2) Is-adran y Gymraeg o fewn y Llywodraeth sy’n gyfrifol am bopeth nad yw’r Comisinydd yn ei wneud. Mae’r Is-adran wedi’i lleoli yng nghrombil gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ac yn atebol i bennaeth adran Addysg, sy’n atebol i Gyfarwyddydd Cyffredinol y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, sydd yn ei thro’n atebol i’r Ysgrifennydd Parhaol. Yn wleidyddol, mae’r Is-adran yma yn atebol i weinidog y Gymraeg, sef ar hyn o bryd Eluned Morgan.

Bu peth gorgyffwrdd yn y gorffennol rhwng cyfrifoldebau’r ddau gorff ond y gobaith yw bod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r dryswch.

Barn Dyfodol i’r Iaith yw bod angen diwygio’r strwythur yma.

Rydyn ni’n galw am sefydu Awdurdod neu Asiantaeth Iaith. Ein dewis ni fyddai fod hwnnw yn gorff hyd-braich i Lywodraeth Cymru – cwango i ddefnyddio’r ymadrodd hen-ffasiwn. Yr ail ddewis fydd iddo fod yn rhan o wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru, ond

  • yn uchel ei statws er mwyn dylanwadu’n rymus ar holl adrannau’r Llywodraeth a chyrff perthnasol eraill
  • yn hysbys i’r cyhoedd ac yn dryloyw
  • yn atebol yn uniongyrchol i’r Ysgrifennydd Parhaol, pennaeth y Gwasanaeth Sifil, ac wrth gwrs i’r Gweinidog perthnasol

 Opsiwn arall i gael Asiantaeth, allanol neu fewnol, fyddai creu Cyfarwyddiaeth y Gymraeg, yn gyfysgwydd â phedair cyfarwyddiaeth arall y Gwasanaeth Sifil.

Byddai angen i’r Asiantaeth yma feddu ar gapásiti digonol, ac arbenigedd yn y meysydd y cyfeiriwyd atynt yn ogystal ag mewn Cymdeithaseg Iaith a Chynllunio Ieithyddol yn gyffredinol. Byddai rhaid trefnu bod elfen o barhad a sefydlogrwydd yn ei harweinyddiaeth. (Teg nodi i’r Gweinidog gyhoeddi ddechrau Awst 2019 y bydd yr Is-adran yn cael ei chryfau drwy benodi pennaeth amser-llawn a nifer o aelodau staff eraill yn meddu ar arbenigedd mewn cynllunio ieithyddol. Gwelwn hyn fel cam, ond cam yn unig, i’r cyfeiriad iawn.)

O roi’r cyfan a amlinellwyd uchod at ei gilydd, ac ychwanegu ewyllys ac arweiniad gwleidyddol diamwys ac egnïol, ynghyd ag adnoddau ariannol digonol i’r dasg, mi fydden ni, fel y dywedir, ‘mewn busnes’.

Dydy peth fel hyn erioed wedi cael ei wneud o’r blaen yng Nghymru. Fel y mae esiampl y Basgiaid ac eraill yn dangos, fe  all weithio. Mae’n brosiect blaengar, cyffrous. Mae’n hanfodol i’r ymdrech genedlaethol.

YDYCH CHI’N CYTUNO Â NI FOD ANGEN STRWYTHURAU NEWYDD A GRYMUS I ARWAIN Y GWAITH O ADFYWIO’R GYMRAEG? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU AR SUT I SICRHAU TREFN EFFEITHIOL AR GYFER Y GWAITH HERIOL HWN?