GWRTHWYNEBIAD DYFODOL I YSGOL GYNRADD SAESNEG YM MHONTARDAWE

Nid oedd asesiad effaith ieithyddol wedi’i gwblhau, a heb ei gyflwyno felly pan gafodd y cynllun ei gyflwyno (Hydref 2020). Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Ionawr 2021.   Ymddangosodd yr asesiad effaith ieithyddol 16 Chwefror, 2021, ac nid oedd yn rhan o’r ystyriaeth wreiddiol.

Mae hyn yn groes i safonau 88, 89, 90, 91 a 92 Safonau Iaith Llywodraeth Cymru.

Nid oedd y ddogfen ymgynghori’n cynnwys ystyriaethau a fyddai wedi deillio o’r asesiad effaith ieithyddol.

Ein barn ni yw bod y broses wedi bod yn ddiffygiol, ac os yw’r Sir am barhau gyda’r cynllun, mae angen cychwyn y broses ymgynghori o’r dechrau.

  1. Niferoedd disgyblion:

Yn ôl y cyfrif diweddaraf (gan y Sir), 481 o ddisgyblion amser llawn sydd yn y tair ysgol y bwriedir eu cau.  Mae’r cynllun ar gyfer 700 o ddisgyblion, sef mwy na 200 yn fwy nag sydd yn yr ysgolion hyn yn awr.  Mae’n dra amheus nad oes 200 o lefydd gwag yn ysgolion Cymraeg yr ardal, ac mae’n amlwg bod perygl y bydd yr ysgol Saesneg am ddenu disgyblion ychwanegol. Ni roddwyd ystyriaeth i hyn yn yr adroddiad, ac ni roddwyd ystyriaeth i hyn chwaith yn yr asesiad ieithyddol.

  1. Mae’r asesiad ieithyddol yn ddiffygiol mewn sawl man:

Mae’r asesiad yn honni y byddai tair Thema ystyriaethau Cymraeg 2050 yn uniongyrchol berthnasol pe bai’r cynnig yn ymwneud ag addysg Gymraeg. Anuniongyrchol, meddir, yw perthnasedd ystyriaethau Cymraeg 2050 am fod y cynnig yn ymwneud ag addysg Saesneg.  Mae hyn yn gyfeiliornus am ddau reswm:

  1. Mae’r cynnig yn debygol iawn o gael effaith ieithyddol ar yr iaith yng Nghwm Tawe. Mae Pontardawe ynghanol y brif ardal o sensitifrwydd ieithyddol a ddiffinnir gan y Cyngor, a bydd cael ysgol gynradd Saesneg newydd fawr ym Mhontardawe’n debygol iawn o effeithio’n niweidiol ar niferoedd sy’n mynychu ysgolion Cymraeg Trebannws a Phontardawe, sydd â hen adeiladau, er gwaetha rhai ychwanegiadau.
  2. Nid yw’r asesiad effaith ieithyddol yn ystyried y cyfraniad y gall ysgol Saesneg ei wneud i gyflwyno sgiliau Cymraeg i’w disgyblion. Sonnir am ddysgu’r Gymraeg yn ‘ail iaith’, heb ystyried cyflwyno’r Gymraeg ar un continwwm, a heb ystyried chwaith y posibilrwydd o greu ysgol drosiannol, lle y gall ysgol droi fesul blwyddyn tuag at fod yn ysgol Gymraeg. Mae adolygiad o gategorïau ysgolion ar y gweill gan y Llywodraeth, i’w gynnwys, o bosib, mewn deddf addysg, a dylai unrhyw asesiad o iaith ysgolion ystyried y newidiadau arfaethedig yn hwn.
  • Nodir yn glir yn yr asesiad sut mae Pontardawe ynghanol ardal a ystyrir yn ieithyddol sensitif:

Nid yw’r asesiad yn ystyried sut y gall lleoli ysgol gynradd o 700 o blant gael effaith negyddol bellgyrhaeddol ar y Gymraeg yng nghwm Tawe. Dylai ystyriaeth o’r fath nodi posibiliadau ieithyddol codi gwahanol fathau o ysgol yn yr ardal.  Nid oes awgrym o’r posibilrwydd o drosi’r ysgolion cynradd presennol yn rhai trosiannol, nac o sefydlu ysgol o’r fath ym Mhontardawe.  Mae’r asesiad yn perthyn i hen ddull o feddwl am ddatblygiad addysg yng Nghymru, ac mae’n brin o gyflwyno senarios a allai gyfrannu’n llawn at weledigaeth y Llywodraeth.

Posibilrwydd nad ystyriwyd oedd sefydlu ysgol Gymraeg newydd i 700 o blant ym Mhontardawe, gan gymryd lle ysgolion Trebannws a Phontardawe, a chadw Godre’r Graig, yr Alltwen a Llangiwg, a’u trosi hwythau’n ysgolion trosiannol.  Byddai cynnig o’r fath yn debygol o gyfrannu’n helaeth at adfer y Gymraeg yng nghwm Tawe.

  1. Mae’r asesiad yn gwneud sawl sylw camarweiniol. Meddir mewn un man nad oedd codi adeiladau newydd i ysgolion Saesneg wedi effeithio ar nifer disgyblion ysgolion Cymraeg yn y sir.  Nid oedd yr adeiladau newydd hyn yn yr ardal ieithyddol sensitif, ac nid yw’r gymhariaeth yn dal dŵr.  Wedi dweud hynny, mae’n gwbl gyfiawn dadlau bod yr adeiladau newydd hyn wedi cael effaith negyddol ar niferoedd disgyblion ysgolion Cymraeg y sir.  Mae twf cyson wedi bod yn nifer disgyblion ysgolion Cymraeg siroedd eraill yn ne Cymru, rhwng 2009 a 2019. e.e.

Abertawe                                2,480 –             3,205

Caerdydd                                3,730 –             5,455

Caerffili                                  2,395 –             2945

Casnewydd                             465 –                785

Merthyr Tudful                       545 –                780

Ac mewn ardal debyg yn y gogledd:

Wrecsam                                 1,215 –             1,710

Ond mae gostyngiad yng Nghastell-nedd Port Talbot:

Castell-nedd Port Talbot        2,120 –             1,980

https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Pupil-Level-Annual-School-Census/Welsh-Language/pupilswelshclasses-by-localauthority-welshcategory

  1. Ein barn ni yw bod yr ymgynghoriad cychwynnol wedi bod yn ddiffygiol, a bod yr asesiad effaith ieithyddol yn ddiffygiol iawn.

Gofynnwn i chi dynnu’r cynllun hwn yn ôl, ac ail ystyried cynlluniau ysgolion ar gyfer yr ardal hon, gan roi ystyriaeth lawn o’r cychwyn i’r goblygiadau ieithyddol, ac i’r cynnydd ieithyddol y gellir eu gwneud trwy gyflwyno cynlluniau addysgol â gweledigaeth, a fydd yn rhoi i ddisgyblion Cwm Tawe y gorau o ran eu datblygiad personol ac ieithyddol yn y ddwy iaith, ac a fydd yn rhoi’n gyflawn iddynt eu hetifeddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol.

 

DENU POBL IFANC I AROS A GWEITHIO YNG NGHYMRU

Mae Dyfodol i’r Iaith yn cefnogi galwad yr economegydd Gerald Holtham am weithredu polisïau i ddenu pobl ifainc i aros a gweithio yng Nghymru.

Meddai Dyfodol, “ Mae’r gwaedlif parhaus o bobl ifainc o Gymru, yn enwedig yr ardaloedd gorllewinol, yn nychu’r Gymraeg ac yn bygwth tanseilio’r gobaith am ei hadfywhau.”

Mewn erthygl yn rhifyn Mehfin o Barn, mae’r Athro Holtham yn tynnu sylw at y ffaith i Gymru ddioddef colled net o 35,000 o bobl 15-29 oed rhwng 2001 a 2019. Cynyddodd y boblogaeth gyfan dros yr un cyfnod drwy fewnfudiad o 107,000.

Meddai Dyfodol, “Mae’r anghydbwysedd yna’n sicr o fod yn fwy yn yr ardaloedd Gorllewinol. Rhaid gweithredu’n gadarn ac ar fyrder i atal y gwaedlif. Dyna pam yr ydyn-ni’n cefnogi galwad yr Athro Holtham am weithredu pecyn o fesurau i wneud Cymru yn wlad ddeniadol i’r ifainc i fyw a gwneud bywioliaeth, gan gynnwys

  • Addysg uwch a phellach am ddim i fyfyrwyr sy’n aros a gweithio yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl graddio
  • Dileu dyled bresennol myfyrwyr sy’n cychwyn busnes yng Nghymru a darparu gwasanaeth mentora ar eu cyfer”.

Mae’r Athro Holtham hefyd yn galw am gymorth i bobl ifainc gael cartrefi ac am gyfyngu ar dwf ail gartrefi fel ag  i ostwng pris tai mewn ardaloedd megis Gwynedd.

Ynghylch awgrym yr Athro y dylid hefyd ddenu pobl ifainc o’r tu allan i Gymru er mewn datblygu busnesau, mae Dyfodol yn cydnabod yr achos economaidd dros hynny, ond yn mynnu y dylai ymrwymiad i ddysgu Cymraeg fod ynghlwm wrth gymorth felly, yn enwedig yn yr ardaloedd Gorllewinol.

Mae Dyfodol hefyd am ail-ddatgan ei chefnogaeth

  • i sefydlu Arfor, Asiantaeth gyhoeddus arbennig i’r Gorllewin a fyddai’n cydblethu datblygu economi cynaliadwy a chynllunio twf y Gymraeg
  • gweithredu argymhellion adroddiad Seimon Brooks ar dai gwyliau.

APÊL I AELODAU’R SENEDD NEWYDD DDEFNYDDO’R GYMRAEG

Mae Cynog Dafis, ar ran Dyfodol i’r Iaith, wedi gosod apêl i Aelodau’r Senedd newydd i ddefnyddio’r Gymraeg hyd eithaf eu gallu a’r amgylchiadau wrth fynd o gwmpas eu gwaith. Mewn llythyr agored a gyhoeddwyd yn rhifyn cyfredol y cylchgrawn Golwg, mae’r cyn-Aelod Seneddol a Chynulliad yn galw ar y gwleidyddion i roi dyhead y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg ar waith yn ymarferol drwy osod esiampl o ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus.

Awgrymir y canllaw canlynol i Aelodau’r Senedd:

  • i siaradwyr rhugl eu Cymraeg, ei defnyddio’n ddieithriad, yn normal a naturiol, yn hy ac yn hyderus, wrth annerch ac ateb y Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd er mwyn hyrwyddo dwyieithrwydd cydradd
  • i siaradwyr Cymraeg llai rhugl, ei defnyddio’n achlysurol ond yn fwyfwy mynych, gan gofio mai defnydd sy’n gwella meistrolaeth
  • i’r di-Gymraeg, o leiaf ei defnyddio’n symbolaidd ac o bosibl fynd ati i’w dysgu – fel y gwnaeth Glyn Davies a David TC Davies yn y Cynulliad Cenedlaethol cyntaf rhwng 1999 a 2003.

Pwysleisia Cynog Dafis nad ar sail gwroldeb na dyletswydd y dylid ymgymryd â chynyddu eu defnydd o’r Gymraeg, ond yn hytrach mewn ysbryd o: “hyder a balchder – llawenydd, hyd yn oed – yn nhrysor rhyfeddol ein  heniaith”, a thrwy hynny, “ei hyrwyddo a’i gloywi i ateb gofynion oes newydd.”

Dyma’r llythyr yn llawn:

Y Gymraeg yn ein Senedd Genedlaethol

Yn Senedd Cymru, sefydliad dwyieithog yng ngwir ystyr y gair, mae pob cyfleustra i ddefnyddio’r Gymraeg – mewn pwyllgor, yn y sesiwn lawn, ar bapur ac ar sgrîn. Ac mae cyfran anghymesur o’r Aelodau etholedig yn medru’r iaith i raddau amrywiol o rwyddineb a huodledd.

Yr argraff sy gen-i fodd bynnag – heb unrhyw ystadegau i brofi’r pwynt – yw mai ymylol, ac yn sicr nid normal, yw’r defnydd ohoni. Yn gyffredin fe glywn-ni siaradwyr Cymraeg rhugl yn optio am y Saesneg, y lingua franca ryngwladol honno y mae ei lledaeniad yn erydu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg o ddydd i ddydd ac o flwyddyn i flwyddyn.

Gadewch i ni gymryd am funud y bydd y Llywodraeth Lafur newydd yn cymryd y syniad o “filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050” o ddifrif ac yn darparu adnoddau digonol at y gwaith. Beth yw pwynt hynny meddech chi os nad yw defnydd o’r iaith yn cynyddu? Proses fyddai hynny o fwy a mwy bobl yn dewis defnyddio’r Gymraeg yn gynyddol, yn ddieithrad hyd oed lle bo hynny’n ymarferol, yn eu bywydau. Y term technegol yw “gwrthdroi shift iaith”. Creu caseg eira twf y Gymraeg. Nid dim ond ym mryniau Bro Afallon y Gorllewin neu yn nyfodol dychmygedig y miliwn siaradwyr, ond nawr, yma, yn y realiti dwyieithog ffafriol-i’r-Saesneg y mae’r mwyafrif mawr ohonon-ni’n byw ynddo o ddydd i ddydd?

Nawr te, ble sy’n well i gychwyn y broses, gan osod esiampl i’r genedl gyfan, na’n Senedd genedlaethol – a honno rywsut wedi ennill arwyddocâd newydd yn dilyn Covid ac etholiad 2021? Senedd lle mae’r amgylchiadau’n ddelfrydol?

Beth amdani gydwladwyr? Dyma’r sialens (neu apêl os yw “sialens” yn air rhy gryf):

  • i siaradwyr rhugl eu Cymraeg, ei defnyddio’n ddieithriad, yn normal a naturiol, yn hy ac yn hyderus, wrth annerch ac ateb y Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd. Dwyieithrwydd cydradd, hwnna ydi-o
  • i siaradwyr Cymraeg llai rhugl, ei defnyddio’n achlysurol ond yn fwyfwy mynych, gan gofio mai defnydd sy’n gwella meistrolaeth
  • i’r di-Gymraeg, o leiaf ei defnyddio’n symbolaidd ac o bosibl fynd ati i’w dysgu – fel y gwnaeth Glyn Davies a David TC Davies yn y Cynulliad Cenedlaethol cyntaf rhwng 1999 a 2003

Mi allwn apelio ar sail gwroldeb neu ddyletswydd, ond diflas fyddai hynny. Beth am hyder a balchder? Neu’n well fyth, beth am lawenydd cyffrous wrth goleddu trysor rhyfeddol ein heniaith, prif ffynhonnell fyrlymus ein hunanieth genedlaethol, ei hyrwyddo a’i gloywi i ateb gofynion oes newydd? A mwynhau’ch hunain, ymhyfrydu, wrth wneud hynny?

Dymuniadau da i chi yn eich gwaith yn ein Senedd genedlaethol

Yn gywir

Cynog Dafis