EISTEDDFOD AMGEN 2021

Ail Gartrefi a’r Gymraeg

Gyda’r argyfwng tai yn hawlio sylw ledled Cymru ac yn mynnu atebion gan ein gwleidyddion, dyma gyfle i glywed Cynog Dafis o Fwrdd Dyfodol i’r Iaith yn holi’r academydd Simon Brooks am ei Adroddiad ar ail gartrefi a gyflwynwyd i’r Llywodraeth yn gynharach eleni.

Beth yw’r goblygiadau i’n cymunedau a pholisïau’r dyfodol?

Sesiwn yng ngofal Dyfodol i’r Iaith, Dydd Gwener 06/08/2021 am 16:00. Ymunwch yma.

 

RHAGLEN WEITHREDU CYMRAEG 2050: YMATEB DYFODOL

Ymddengys bod digon o ewyllys da tuag at y Gymraeg yn y Senedd, ond erys yr her sicrhau bod geiriau teg yn troi’n weithredu cadarn.Yn ein barn ni mae’r Rhaglen newydd ar gyfer Gweithredu Cymraeg 2050 yn codi llu o gwestiynau ac yn pwysleisio’r angen i fwrw ymlaen ar fyrder. Mae nifer o’r amcanion a’r targedau’n gyfarwydd iawn ers 2017 ac yn amlygu mesur arswydus o oedi. Mae’r gwaith yn gymhleth ac mae angen ei fapio’n ofalus, gam fesul cam, gan bennu cyllid a chyfrifoldeb ar gyfer pob elfen o’r gwaith. Yn hyn o beth, rhaid datgan drachefn yr angen am Awdurdod rymus i’r Gymraeg er mwyn gosod cyfeiriad a chyd-lynu cyfrifoldebau a chyfraniad pob adran, asiantaeth a phartner tuag at yr agenda aruthrol hwn.

Dywed Gweinidog y Gymraeg ei bod yn ddyddiau cynnar ar y Llywodraeth newydd ac mai dyna sydd i’w gyfrif am y diffyg manylion. Pwysleisiwn ninnau drachefn y byddai Awdurdod Iaith yn caniatáu datblygiad polisi a gweithredu cyson a di-dor. Dyna beth sydd ar goll a beth sydd wir ei angen.

 

YMATEB DYFODOL I GYNLLUNIAU’R LLYWODRAETH AR AIL GARTREFI

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi sy’n tanseilio hyfywedd yn Gymraeg mewn cymaint o gymunedau. Mae’r mudiad yn pwysleisio, fodd bynnag, bod rhaid i gynllun y Llywodraeth bennu ail gartrefi fel dosbarth defnydd, sef rhywbeth sydd ddim yn gallu digwydd ar hyn o bryd.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Gobeithiwn bydd y cynllun peilot yn sefydlu cam ymlaen, ond os am wneud hynny, mae’n rhaid, yn unol ag argymhelliad Dr Simon Brooks, gosod ail gartrefi fel dosbarth defnydd newydd fel rhan o unrhyw dreial. Yn dilyn hynny, byddai modd gosod cyfyngiadau ar droi tai annedd yn ail gartrefi ac yn y pen draw cyfyngu ar y nifer o ail gartrefi yn y cymunedau rheiny lle mae’r broblem ar ei gwaethaf.”

Yn y cyfamser, mae Dyfodol hefyd yn galw ar y Llywodraeth i fabwysiadu ymateb cynhwysfawr i’r broblem, gan gynnwys bwrw ymlaen ar fyrder gyda chynlluniau tai cymdeithasol ac ecwiti i gynorthwyo pobl leol i brynu tai yn eu cymunedau.