Cefnogaeth

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb ac rydym yn falch iawn am bob cyfle i feithrin perthynas a chyd-weithio gyda mudiadau eraill sydd am gyrraedd at yr un nod i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg.

Daeth nifer o negeseuon o gefnogaeth atom yn ddiweddar. Yn eu plith neges pwysig oddi wrth Mudiad Meithrin ac edrychwn ymlaen at gyd-weithio pellach dros y misoedd nesaf.

Mae’r Gymraeg yn rodd y gallwn ei rhoi i bob plentyn yng Nghymru –  rhodd fydd yn cyfoethogi bywydau, yn allwedd i ffordd unigryw o  weld y byd, yn ehangu sgiliau ac yn fodd i uno cenedl.

Ein braint ni fel Mudiad Meithrin yw bod yno ar ddechrau taith  gymaint o blant bach pan gânt eu trochi yn y Gymraeg wrth dderbyn  gofal ac addysg gynnar o’r radd flaenaf, a’u gweld nhw a’u  teuluoedd yn cymryd camau cyntaf i berchnogi’r iaith eu hunain. Credwn mai o enau plant bychain yr ail-godir y Gymraeg!

Cawn ein calonogi fod rhieni o bob cefndir yn dewis cofleidio’r  Gymraeg dros eu plant, a’n bod yn gweld egin dinasyddiaeth sifig,  aml-ddiwylliannol Gymreig a Chymraeg gan nad yw cefndir, dosbarth,  hil, crefydd na gallu yn rwystr i siarad Cymraeg.

Yn anffodus mae gormod o blant yn dal i gael eu hamddifadu o’r  cyfle i gaffael y Gymraeg. Nid oes deddfwriaeth o hyd sy’n gosod y  Gymraeg fel cyfrwng addysg y Cyfnod Sylfaen. Mae’n rhaid herio pan  fo pobl yn meddwl bod y Gymraeg i grwp bach yn unig, pwyntio at yr  angen am fwy o adnoddau i hybu a hyrwyddo, a galw am gynllunio  strategol i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

Edrychwn ymlaen i gydweithio gyda Dyfodol a phawb sy’n rhannu’r un  dyheadau a ni i fynd tu hwnt i’r miliwn a gwireddu Cymru  gwirioneddol Gymraeg ac amlieithog.

Gwenllian Lansdown Davies – Prif Weithredwr Mudiad Meithrin  www.meithrin.cymru

 

Diolch i Robin Gwyndaf am ei gerdd a’i eiriau o gefnogaeth:


 

Derbyniwyd nifer o ymatebion gan unigolion, mudiadau a sefydliadau wrth i ni gynnal ein hymgynghoriad i’n dogfen ‘Creu Adferiad y Gymraeg’ yn ddiweddar:

* Fe ddylai’r asiantaeth fod yn hyd-braich o’r llywodraeth (a’r
Senedd) gyda chynrychiolaeth o un neu ragor o’n Prifysgolion yn rhan
ohono.
* Fe ddylai gynnwys arbenigwyr cydnabyddedig yn y maes adfywio ac adfer
ieithoedd lleiafrifol nid yn unig o Gymru ond o wledydd sydd wedi – neu yn
– llwyddo adfer ieithoedd o’r fath.
* Fe ddylai’r asiantaeth wneud ymdrech wirioneddol i ddysgu wrth y
gwledydd yma, megis Gwlad y Basg, Israel, Latfia, ayyb.
* Mi fyddai angen canfod ffynonellau ariannu i’r asiantaeth.  Beth am
Lywodraeth Cymru a chyfraniadau wrth bob un o Brifysgolion Cymru fel man
cychwyn?                                  Gwyn Hopkins, Cyn-Gynghorydd Cyngor Sir Gâr

 

a neges Trydar o gefnogaeth gan Dafydd Iwan:


Mae gan Dyfodol i’r Iaith gefnogaeth pobl o bob rhan o’r wlad. Pan sefydlwyd Dyfodol i’r Iaith fel mudiad yn 2012, fe wnaethant ddatgan “bod angen sefydlu mudiad iaith all-lywodraethol (NGO) ac iddo ddulliau o ddwyn pwysau fydd yn ymateb yn greadigol i gyd-destun deddfwriaethol a gwleidyddol y Gymru newydd”.

Ymhlith cefnogwyr unigol y mudiad mae’r enwau a restrir isod. Ymunwch â nhw yn y daith gyffrous hon i fynnu llais i’r iaith a dyfodol i’r Gymraeg!:

Dr Huw Lewis 
Angharad Mair
Emyr Lewis
Cynog Dafis
Heini Gruffudd
Yr Athro Richard Wyn Jones
Elin Wyn
Ron Jones
Dr Bleddyn Huws
Beti George
Dr Simon Brooks
Angharad Dafis
Nick Bennett
Hywel Williams (hanesydd)
Dr Elin Royles
Barry Morgan, Cyn-Archesgob Cymru