Adolygiad y Cwricwlwm Cenedlaethol

Cafodd yr Athro Graham Donaldson ei benodi gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trwyadl o’r Cwrwiclwm Cenedlaethol a dulliau asesu yng Nghymru. Yn ei ymateb i’r adolygiad mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw am roi gwell cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fod yn gwbl ddwyieithog ac am drawsnewid dysgu Cymraeg fel ail iaith

Mae’r ymtaeb yn llawn yma: Adolygu’r Cwricwlwm Ymchwiliad Donaldson Ymateb Dyfodol:

Cynllunio a’r Gymraeg gan Emyr Lewis

Mae’n argyfwng ar y Gymraeg fel iaith hyfyw, yn yr ychydig gymunedau a threfi lle y mae hi’n dal i fod yn iaith y mwyafrif.  Mae cefnogaeth eang yng Nghymru i’r syniad o gynnal yr iaith Gymraeg fel iaith gymunedol.  Mae nifer fawr o Gymry nad ydynt yn ei siarad yn rhyfedd o falch o’r ffaith fod yna lefydd yn ein gwlad lle “na chlywch chi ddim byd ond y Gymraeg”.  Hynny yw mae bodolaeth y cymunedau ieithyddol hyn yn fater dirfodol i bobl Cymru, y tu hwnt i’r rhai sy’n siarad yr iaith.

Yn yr erthygl hon, rwy’n gobeithio agor cil y drws ar sut y gellir defnyddio cyfraith cynllunio er mwyn diogelu’r iaith yn y cymunedau hynny, o leiaf drwy reoli datblygiadau sy’n arwain at gynyddu poblogaeth y cyfryw gymunedau y tu hwnt i’r angen lleol.  Ar hyn o bryd, mae cyfraith cynllunio yn milwrio yn erbyn hynny.

Heb gyfraith cynllunio, byddai rhyddid llwyr gan berchnogion a datblygwyr eiddo i wneud beth bynnag a fynnent ar eu tir, o godi adeiladau i brosesu cemegolion gwenwynig.  Diben cyfraith cynllunio yw gosod rhyddid tirfeddianwyr a datblygwyr yn y glorian a’i bwyso yn erbyn ystyriaethau eraill.  Mae’r rhain yn cynnwys  buddiannau cymdogion, yr amgylchedd neu’r gymuned, yn ogystal â materion sy’n cael eu hystyried i fod yn rhai y dylid eu diogelu o ran egwyddor e.e. henebion neu ystlumod.  Felly er enghraifft, yn achos tyrbeini gwynt, rhoddir yn y glorian ar y naill law hawl y tirfeddiannwr a’r angen am ynni glân, ac ar y llall ymyrraeth â byd natur a harddwch naturiol. Parhau i ddarllen

Safonau Iaith

ANGEN I’R SAFONAU IAITH WNEUD Y GYMRAEG YN IAITH GWAITH

Mae angen gwneud y Gymraeg yn iaith gwaith bob dydd mewn sefydliadau cyhoeddus – dyna ddylai’r Safonau Iaith sicrhau, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.

Mewn ymateb i Safonau Iaith y Llywodraeth, mae Dyfodol i’r Iaith am weld

  • Y Gymraeg yn iaith gwaith bob dydd mewn sefydliadau cyhoeddus
  • Darpriaeth helaeth o weithgareddau Cymraeg i bobl ifanc
  • Camau pendant i hybu’r Gymraeg yn y gymuned

Mae Dyfodol i’r iaith yn croesawu sawl adran o’r Safonau Iaith, ond yn hawlio mai ychydig iawn o’r Safonau fydd yn help i wneud y Gymraeg yn iaith arferol yn y gweithle, ac i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.

Meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae llawer o’r safonau’n ymwneud â ffurflenni a dogfennau a hawl unigolion i gael gwasanaeth Cymraeg.  Does dim o’i le yn hynny, ond mae pethau llawer pwysicach y mae angen rhoi sylw iddyn nhw.

“Dim ond Gwynedd sy’n defnyddio’r Gymraeg yn fewnol.  Mae angen i’r Safonau osod targedau i gynghorau eraill Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn iaith gwaith bob dydd.

“Er bod un o’r safonau’n nodi bod angen i sefydliadau cyhoeddus ddarparu cyrsiau i bobl ifanc ac oedolion, mae angen gwneud yn siŵr bod pethau fel gwersi nofio, clybiau pobl ifanc ac ati ar gael mor helaeth yn y Gymraeg ag yn y Saesneg.”

“Mae angen dal y cyfle yma i hybu’r Gymraeg yn iaith y cartref, y gymuned a’r gweithle. Bydd methu â gwneud hyn yn rhywbeth y byddwn yn edifar iawn amdano yn y dyfodol.”