RHAGLEN WEITHREDU CYMRAEG 2050: YMATEB DYFODOL

Ymddengys bod digon o ewyllys da tuag at y Gymraeg yn y Senedd, ond erys yr her sicrhau bod geiriau teg yn troi’n weithredu cadarn.Yn ein barn ni mae’r Rhaglen newydd ar gyfer Gweithredu Cymraeg 2050 yn codi llu o gwestiynau ac yn pwysleisio’r angen i fwrw ymlaen ar fyrder. Mae nifer o’r amcanion a’r targedau’n gyfarwydd iawn ers 2017 ac yn amlygu mesur arswydus o oedi. Mae’r gwaith yn gymhleth ac mae angen ei fapio’n ofalus, gam fesul cam, gan bennu cyllid a chyfrifoldeb ar gyfer pob elfen o’r gwaith. Yn hyn o beth, rhaid datgan drachefn yr angen am Awdurdod rymus i’r Gymraeg er mwyn gosod cyfeiriad a chyd-lynu cyfrifoldebau a chyfraniad pob adran, asiantaeth a phartner tuag at yr agenda aruthrol hwn.

Dywed Gweinidog y Gymraeg ei bod yn ddyddiau cynnar ar y Llywodraeth newydd ac mai dyna sydd i’w gyfrif am y diffyg manylion. Pwysleisiwn ninnau drachefn y byddai Awdurdod Iaith yn caniatáu datblygiad polisi a gweithredu cyson a di-dor. Dyna beth sydd ar goll a beth sydd wir ei angen.

 

YMATEB DYFODOL I GYNLLUNIAU’R LLYWODRAETH AR AIL GARTREFI

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi sy’n tanseilio hyfywedd yn Gymraeg mewn cymaint o gymunedau. Mae’r mudiad yn pwysleisio, fodd bynnag, bod rhaid i gynllun y Llywodraeth bennu ail gartrefi fel dosbarth defnydd, sef rhywbeth sydd ddim yn gallu digwydd ar hyn o bryd.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Gobeithiwn bydd y cynllun peilot yn sefydlu cam ymlaen, ond os am wneud hynny, mae’n rhaid, yn unol ag argymhelliad Dr Simon Brooks, gosod ail gartrefi fel dosbarth defnydd newydd fel rhan o unrhyw dreial. Yn dilyn hynny, byddai modd gosod cyfyngiadau ar droi tai annedd yn ail gartrefi ac yn y pen draw cyfyngu ar y nifer o ail gartrefi yn y cymunedau rheiny lle mae’r broblem ar ei gwaethaf.”

Yn y cyfamser, mae Dyfodol hefyd yn galw ar y Llywodraeth i fabwysiadu ymateb cynhwysfawr i’r broblem, gan gynnwys bwrw ymlaen ar fyrder gyda chynlluniau tai cymdeithasol ac ecwiti i gynorthwyo pobl leol i brynu tai yn eu cymunedau.

DENU POBL IFANC I AROS A GWEITHIO YNG NGHYMRU

Mae Dyfodol i’r Iaith yn cefnogi galwad yr economegydd Gerald Holtham am weithredu polisïau i ddenu pobl ifainc i aros a gweithio yng Nghymru.

Meddai Dyfodol, “ Mae’r gwaedlif parhaus o bobl ifainc o Gymru, yn enwedig yr ardaloedd gorllewinol, yn nychu’r Gymraeg ac yn bygwth tanseilio’r gobaith am ei hadfywhau.”

Mewn erthygl yn rhifyn Mehfin o Barn, mae’r Athro Holtham yn tynnu sylw at y ffaith i Gymru ddioddef colled net o 35,000 o bobl 15-29 oed rhwng 2001 a 2019. Cynyddodd y boblogaeth gyfan dros yr un cyfnod drwy fewnfudiad o 107,000.

Meddai Dyfodol, “Mae’r anghydbwysedd yna’n sicr o fod yn fwy yn yr ardaloedd Gorllewinol. Rhaid gweithredu’n gadarn ac ar fyrder i atal y gwaedlif. Dyna pam yr ydyn-ni’n cefnogi galwad yr Athro Holtham am weithredu pecyn o fesurau i wneud Cymru yn wlad ddeniadol i’r ifainc i fyw a gwneud bywioliaeth, gan gynnwys

  • Addysg uwch a phellach am ddim i fyfyrwyr sy’n aros a gweithio yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl graddio
  • Dileu dyled bresennol myfyrwyr sy’n cychwyn busnes yng Nghymru a darparu gwasanaeth mentora ar eu cyfer”.

Mae’r Athro Holtham hefyd yn galw am gymorth i bobl ifainc gael cartrefi ac am gyfyngu ar dwf ail gartrefi fel ag  i ostwng pris tai mewn ardaloedd megis Gwynedd.

Ynghylch awgrym yr Athro y dylid hefyd ddenu pobl ifainc o’r tu allan i Gymru er mewn datblygu busnesau, mae Dyfodol yn cydnabod yr achos economaidd dros hynny, ond yn mynnu y dylai ymrwymiad i ddysgu Cymraeg fod ynghlwm wrth gymorth felly, yn enwedig yn yr ardaloedd Gorllewinol.

Mae Dyfodol hefyd am ail-ddatgan ei chefnogaeth

  • i sefydlu Arfor, Asiantaeth gyhoeddus arbennig i’r Gorllewin a fyddai’n cydblethu datblygu economi cynaliadwy a chynllunio twf y Gymraeg
  • gweithredu argymhellion adroddiad Seimon Brooks ar dai gwyliau.