Cafodd Dyfodol gyfarfod buddiol iawn gyda’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Llun Awst y 5ed.
Gofynnodd Dyfodol i’r Prif Weinidog am gynnwys y Gymraeg ar glawr y Bil Cynllunio arfaethedig. Bu Carwyn Jones yn sgwrsio gyda Llywydd y mudiad, Bethan Jones Parry; y Cadeirydd, Heini Gruffudd a’r Ysgrifennydd, Simon Brooks.
Cyflwynodd y mudiad ddogfen i Carwyn Jones am y berthynas rhwng cynaliadwyedd y Gymraeg a chynllunio.
Cynllunio a’r Gymraeg
Mae cynaliadwyedd y Gymraeg yn rhan annatod o faes cynllunio. Oherwydd hyn mae angen datblygu fframwaith cadarn fydd yn gallu asesu effaith datblygiadau cynllunio ar y Gymraeg. Mae yna lawer o enghreifftiau o ddatblygiadau sydd wedi arwain at wanhau’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol. Ac eto, ceir esiamplau o gynllunio sydd wedi cryfhau sefyllfa’r Gymraeg. Parhau i ddarllen