DYFODOL YN CEFNOGI SEFYDLU AWDURDOD IAITH

Mae angen cael awdurdod iaith fydd yn arwain y gwaith o adfywio’r Gymraeg. Dyna honiad Dyfodol i’r Iaith yn dilyn galwad Gareth Jones am sefydlu corff o’r fath.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni ers yr haf wedi galw am gorff o’r fath.  Daeth yn fwyfwy amlwg bod angen trefn newydd a fydd ar y naill law yn gwarchod y Gymraeg, fel y caiff yr amgylchedd ei gwarchod, ond trefn a fydd ar y llaw arall yn mapio dyfodol llewyrchus i’r iaith.”

“Er pob ewyllys da o du’r Llywodraeth, daeth yn amlwg bod penderfyniadau tameidiog yn cael eu gwneud, ac nad oes cyswllt yn aml rhyngddyn nhw.  Mae angen polisïau ar draws adrannau’r Llywodraeth sy’n cysylltu â’i gilydd ac sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn greadigol.”

“Dyw trefniadaeth y Comisiynydd – er mor werthfawr yw hyn – nac ewyllys da gweision sifil ddim eto wedi gosod system sy’n gwneud gwahaniaeth i’r Gymraeg. Mae cael awdurdod iaith, wedi’i redeg gan arbenigwyr mewn cynllunio iaith, a gyda mwy o bwerau na hen Fwrdd yr Iaith, yn angenrheidiol.”

“Bydd gwaith yr Awdurdod yn ymwneud â chael y Gymraeg yn iaith gwaith awdurdodau lleol, gosod rhaglen twf uchelgeisiol i’r system addysg, hyrwyddo gweithgareddau pobl ifanc, a chryfhau Cymraeg i Oedolion ymysg materion eraill.”

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at argyhoeddi’r pleidiau gwleidyddol bod hyn yn fater o flaenoriaeth i’r Cynulliad ac i’r iaith.”

MEIRION PRYS JONES I GLORIANNU YMDRECHION IAITH Y LLYWODRAETH

Bydd Meirion Prys Jones, cyn bennaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn rhoi’r Llywodraeth yn y glorian yng nghynhadledd flynyddol Dyfodol i’r Iaith.

Bydd Meirion yn pwyso a mesur pa mor llwyddiannus fu trosglwyddo hyrwyddo’r iaith i weision sifil y Llywodraeth.

Cafodd y Llywodraeth ei beirniadu gan Ddyfodol i’r Iaith am gwtogi’r arian sydd ar gael i Gymraeg i Oedolion, a’i llongyfarch am gynnig arian i gychwyn Canolfannau Cymraeg.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni fel mudiad yn credu bod angen hyrwyddo’r Gymraeg ar raddfa eang, a bod angen sefydlu corff a fydd yn gyfrifol am hyn ac yn gwarchod y Gymraeg.

Ychwanegodd, “Rydyn ni wedi anfon tystiolaeth i bwyllgor craffu’r Cynulliad ar y Bil Cynllunio ac yn gobeithio gweld y Gymraeg yn cael ei chydnabod mewn deddf gynllunio.”

“Bydd clywed sylwadau Meirion, sydd â phrofiad eang o hyrwyddo’r Gymraeg, ac sy’n gwybod yn fanwl am ymdrechion gwledydd eraill yn Ewrop, yn fodd i ystyried beth y mae angen ei flaenoriaethau yn y blynyddoedd nesaf.”

Caiff cynhadledd Dyfodol i’r Iaith ei chynnal fore Sadwrn, Tachwedd 15 yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth, am 11.30.