Dewch i glywed mwy am weledigaeth Dyfodol ar gyfer y Llywodraeth newydd
Archifau Categori: Y Cynulliad
CYHOEDDI CANLYNIADAU ETHOLIAD: DYFODOL YN GALW AM FWY O YSTYRIAETH I’R GYMRAEG
Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau etholiadau’r Cynulliad bore Gwener ddiwethaf, mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn am eglurder ynglŷn â’r disgwyliadau mewn perthynas â’r Gymraeg ar achlysuron o’r math.
Wrth i’r canlyniadau ddod i mewn, daeth yn glir fod amrywiaeth sylweddol yn y pwyslais a roddir i’r Gymraeg ac yn safon y Gymraeg a ddefnyddiwyd o etholaeth i etholaeth. Er ei bod yn glodwiw clywed dysgwyr yn defnyddio’r iaith, cafwyd cyhoeddwyr yn cael trafferth sylweddol gyda’r Gymraeg, a throeon eraill, cafwyd y cyhoeddiad yn llawn yn y Saesneg, gyda’r Gymraeg yn dilyn fel ôl-ystyriaeth, gan adael i sylwebyddion y cyfryngau siarad drosti.
Mae’n allweddol bwysig fod y Gymraeg yn cael ei chlywed a’i pharchu ar achlysuron cyhoeddus fel hyn, ac mae Dyfodol wedi holi’r Comisiynydd ynglŷn â pha safonau iaith sy’n berthnasol i gyhoeddi etholiadau. Maent hefyd wedi pwyso ar i’r Comisiynydd lunio canllawiau clir, er mwyn osgoi anghysondebau o’r math at y dyfodol.
YR ERGYD DDIWEDDARAF? DYFODOL YN CONDEMNIO BYGYTHIADAU I’R COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
Yn dilyn cyfres o ergydion i wariant ar y Gymraeg yn ddiweddar, mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan pryder ynglŷn â’r bygythiadau posib i gyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sgil cyllideb ddrafft y Llywodraeth.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol, “ Mae cyllideb ddrafft diweddaraf y Llywodraeth wedi dangos yn glir y diffyg parch a sylw a roddir i’r Gymraeg. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn cynrychioli bygythiad arall: y tro hwn yn erbyn corff sydd wedi gwneud cymaint i ddatblygu a hyrwyddo addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ar draws ystod eang o bynciau.
Cawn yma sefyllfa cwbl hurt lle mae darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei fygwth, tra bo’r Llywodraeth yn berffaith hapus i barhau i wario ar gefnogi myfyrwyr Cymru i astudio yn Lloegr.
Edrychwn ymlaen at drafod hyn ymhellach gyda’r Llywodraeth a’r Corff ariannu Addysg Uwch.”