GALW AM OEDI ARIANNU YSGOLION OHERWYDD PERYGL I DWF ADDYSG GYMRAEG

Caiff datblygiad addysg Gymraeg ei rwystro tan 2024 heb obaith i’r Llywodraeth gyrraedd ei nod o 30% o ddisgyblion mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.  Dyna ofn Dyfodol i’r Iaith wrth i Awdurdodau Lleol gyflwyno ceisiadau am gyllid erbyn diwedd Gorffennaf.

Mae ceisiadau am gyllid y Llywodraeth i ddatblygu ysgolion i fod i’w cyflwyno’n fuan, ac awdurdodau am gyflwyno’u ceisiadau erbyn diwedd Gorffennaf, a chael dyfarniad erbyn yr hydref.  Cyllid ail rownd Cyllid Ysgolion yr 21ain ganrif yw hyn, sy’n rhoi arian i ddatblygu ysgolion o 2019-2024.  Mae £600 miliwn ar gael gan y Llywodraeth ac mae disgwyl i awdurdodau lleol gyfrannu’r un swm.

Pryder Dyfodol i’r Iaith yw bod y cyllid hwn i gael ei ddosbarthu cyn i lawer o Gynlluniau Datblygu Addysg Gymraeg awdurdodau lleol gael eu derbyn gan y Llywodraeth.  Pryder arall yw nad yw hyn yn rhoi amser i awdurdodau lleol ystyried Strategaeth Iaith y Llywodraeth, a gyhoeddwyd wythnos yn ôl.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae lle mawr i ofni nad yw gwahanol adrannau’r Llywodraeth yn cydweithio.  Mae’n glir i ni fod awdurdodau lleol yn paratoi eu cynlluniau heb fod eu Cynlluniau Addysg Gymraeg wedi cael eu derbyn, ac yn amlwg heb iddynt gael unrhyw gyfle i ystyried Strategaeth Iaith y Llywodraeth.”

“Canlyniad hyn yw y bydd ceisiadau am arian yn cael eu cyflwyno heb fod addysg Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Cynghorau.  Yn rownd cyntaf Cyllid Ysgolion yr 21ain, gwariodd rhai cynghorau y nesaf peth i ddim ar addysg Gymraeg.  Gall hyn ddigwydd eto.”

“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i oedi proses gyllido ail rownd Ysgolion 21ain ganrif, ac yn gofyn i’r broses hon gael ei chlymu wrth Gynlluniau Addysg Gymraeg y Siroedd ac wrth Strategaeth Iaith y Llywodraeth.”

CYDWEITHIO RHWNG Y LLYWODRAETH AC AWDURDODAU LLEOL YN HANFODOL I GYRRAEDD NODAU’R STRATEGAETH IAITH

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu nod y Llywodraeth o weld twf addysg Gymraeg.  Bydd cael 40% o ddisgyblion Cymru mewn addysg Gymraeg erbyn 2050 yn ennill sylweddol iawn i’r Gymraeg ac i bobl Cymru, medd y Mudiad.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhybuddio, fodd bynnag, bod angen i’r Llywodraeth ddelio’n llwyddiannus ag awdurdodau lleol.  Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith,

“Mae’r Llywodraeth wedi gosod nodau ar gyfer twf addysg Gymraeg yn y gorffennol, a’r targedau heb eu cyflawni.  Digwyddodd hyn am na lwyddodd y Llywodraeth i ysgogi awdurdodau lleol i weithredu, yn enwedig yn ne a dwyrain Cymru.  Mae angen i’r Llywodraeth ddangos yn awr sut y bydd yn gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn mynd i gael cefnogaeth a chyllid i gyrraedd y nodau uchelgeisiol.

“Mae rhai awdurdodau, fel Gwynedd, ac eraill yn y gorllewin, wedi gwneud addysg Gymraeg yn flaenoriaeth.  Mae angen i’r Llywodraeth argyhoeddi awdurdodau ledled Cymru bod angen i addysg  Gymraeg fod yn flaenoriaeth am y deng mlynedd ar hugain nesaf.  Oni wna hyn, bydd y strategaeth hon yn mynd i’r gwellt.”

DYFODOL YN GALW AM NAWDD DIGONOL AR GYFER Y CYMRO

Gyda thrafodaethau ar y gweill ynglŷn ag ail-lansiad Y Cymro, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar i Lywodraeth Cymru roi nawdd digonol i’r papur newydd eiconig hwn er mwyn sicrhau ei ddyfodol a’i ddatblygiad.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

Y Cymro yw’r unig bapur newydd cenedlaethol cyfrwng Cymraeg, ac mae ei oroesiad a’i ffyniant yn cynrychioli cyfraniad allweddol i’n diwylliant ac i fyd y cyfryngau yng Nghymru. Byddwn yn galw ar i’r Llywodraeth roi cefnogaeth ddigonol i’r papur ar ei newydd wedd drwy ganiatáu grant sydd o leiaf yn cyfateb â’r nawdd a roddir i Golwg. Byddwn yn gobeithio y byddai modd rhoi grant brys i ddechrau, i’w ffurfioli maes o law drwy’r Cyngor Llyfrau.”