Mae’r ymadrodd ‘datblygu cynaliadwy’ yn deillio o’r mudiad amgylcheddol. Ymgais yw i geisio sefydlu egwyddor sy’n sicrhau nad yw twf economaidd yn digwydd ar draul yr amgylchedd naturiol. Ond mae’n ymadrodd sydd hefyd wedi cael defnydd ehangach mewn cyd-destunau eraill lle ofnir bod datblygu yn digwydd ar draul rhywbeth y dymunir ei gynnal megis cyfiawnder, tegwch cymdeithasol, diwylliant – ac wrth gwrs iaith leiafrifol.
Cafodd papur gwyn Llywodraeth Cymru am fil datblygu cynaliadwy ei feirniadu’n hallt am nad oes sôn ynddo am yr iaith Gymraeg. Ac yn sgil canlyniadau cyfrifiad 2011, lle gwelwyd cwymp sylweddol yng nghanrannau’r nifer sy’n siarad Cymraeg yn y siroedd hynny a ystyrir yn gadarnleoedd yr iaith, cafwyd galwadau pellach i fynnu lle teilwng i’r Gymraeg yn y bil. Continue reading