Cafwyd bore buddiol gydag Alun Davies a’i swyddogion, fore Gwener 31 Ionawr. Dyma rai o’r materion a drafodwyd a pheth o’r ymateb a gawson ni:
Strategaeth Iaith y Llywodraeth
Roedd cytundeb bod angen cael mwy o sylw ar y Gymraeg yn gymunedol.
Sonion ni am fewnddyfodiaid, cynllunio tai, addysg, dysgu’r Gymraeg i oedolion, iaith y stryd fawr a iaith gwaith fel elfennau i gael sylw.
Asiantaeth y Gymraeg
Bydd gan y Llywodraeth £2 filiwn i’w wario eleni, ond nid oes cytundeb am arian y flwyddyn nesaf. Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi Papur Gwyn ar gyfer bil / mesur iaith newydd, a bydd lle yno i sefydlu Asiantaeth. Roedd Alun Davies yn ffafrio asiantaeth hyd braich. O gael llwyddiant gyda gweithgareddau a ddaw yn sgil gwario £2 filiwn eleni, y gobaith yw cael Asiantaeth y Gymraeg yn sefydlog, gyda’r posibilrwydd o dyfu’n gorff ehangach a fydd yn gallu pontio gwaith gwahanol adrannau’r Llywodraeth. Ceir datganiad ar y Bil cyn y Nadolig yn dilyn ymgynghoriad ar y Papur Gwyn.
Cafwyd croeso i bwyntiau hyrwyddo y sonion ni amdanyn nhw, y gellid gweithredu arnyn nhw eleni:
- Hyrwyddo addysg Gymraeg
- Hyrwyddo’r Gymraeg ymysg darpar rieni
- Ehangu datblygiad Canolfannau Cymraeg i gynnwys caffis / tafarnau mewn pentrefi a threfi llai
- Gwobrwyo sefydliadau o bob sector am eu defnydd o’r Gymraeg
- Cynnal ymgyrch hyrwyddo barhaus gyda chaffis, tafarnau a siopau, a’u cael i arddangos arwydd bod croeso i gwsmeriaid ddefnyddio’r Gymraeg
- Cynnig gwasanaeth cyfieithu rhad
Meddai swyddogion y Llywodraeth bod y Llywodraeth ar hyn o bryd yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Mentrau Iaith i gynnal peilot i hyrwyddo’r Gymraeg mewn busnesau bach
TAN 20
Deallwyd yr angen am gael modd i ystyried cynlluniau tai unigol, er eu bod o fewn cwmpas Cynlluniau Datblygu Lleol.
Meddai Swyddogion y Llywodraeth eu bod yn gobeithio bod gwaith sydd ar y gweill gyda Horizon (Wylfa) yn debygol o esgor ar fethodoleg asesu effaith ieithyddol y gellid ei defnyddio ledled Cymru. Bu Dyfodol eisoes mewn cyswllt â Lesley Griffiths, Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynglŷn a TAN 20, a byddwn yn holi am ddiweddariad yn sgil cwblhau’r gwaith hwn.
Addysg Gymraeg
Cytunwyd bod Cynlluniau’r Cynghorau Lleol yn annelwig, ac y bydd angen i’r Llywodraeth adolygu’r rhan fwyaf. Bydd angen i’r Llywodraeth wedyn drafod y cynlluniau eto gyda’r Cynghorau. Derbyniwyd nad oedd cael targed i gynyddu nifer plant 7 oed mewn addysg Gymraeg o fewn tair blynedd yn gynhyrchiol, gan fod y plant hyn eisoes yn y system. Roedd y Gweinidog yn awyddus i weld Cynlluniau cryfach.
Meddai swyddogion y Llywodraeth bod y Llywodraeth yn gobeithio y bydd sgiliau Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn gwella o ganlyniad i gyflwyno’r continwwm ieithyddol. Roedden ni’n amheus a fyddai hyn yn debygol o gael llwyddiant mawr.