POLISÏAU’R LLYWODRAETH YN ANELU AT 620,000 O SIARADWYR CYMRAEG, NID MILIWN

620,000 yw’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg sy’n debygol erbyn 2050, yn ôl papur trafod gan Dyfodol i’r Iaith. Er twf ysgolion Cymraeg a gwella dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg yn cyfrannu at y nifer, bydd y nod o filiwn ymhell o gael ei gyrraedd.

Hyd yn oed pe bai twf addysg Gymraeg yn dyblu, a chynlluniau eraill yn llwyddo, mae’r papur yn awgrymu mai 750,000 o siaradwyr Cymraeg yw’r nod mwyaf gobeithiol.

Mae’r papur yn nodi bod angen buddsoddi’n llawer mwy helaeth yn y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar, mewn recriwtio staff ac mewn datblygu cyrsiau dwys dysgu Cymraeg.

Os bydd y nod presennol o sefydlu 23 ysgol Gymraeg newydd a 25 dosbarth Cymraeg ychwanegol erbyn 2033 yn parhau, dywed Dyfodol i’r Iaith y bydd 28% o blant cynradd mewn addysg Gymraeg erbyn 2040. Targed y Llywodraeth oedd cael 30% mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.

Medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’n glir o ystadegau addysg, a’r niferoedd sy’n dysgu’r Gymraeg fel oedolion, bod angen buddsoddi’n llawer mwy helaeth i gael unrhyw obaith o nesáu at y miliwn.

“Mae angen gwneud y proffesiwn dysgu’n un atyniadol unwaith eto, ac mae angen cynllunio rhaglen gynhwysfawr o ddysgu Cymraeg ar gyrsiau dwys i ddarpar athrawon ac i staff cylchoedd chwarae.”

Bydd Dyfodol i’r Iaith yn holi’r Llywodraeth am gyfarfod ar sail y papur trafod, gan ofyn am dargedau penodol ar sut caiff y miliwn ei gyrraedd.

“Y peth pwysig,” medd Heini Gruffudd, “yw bod targedau credadwy a chyraeddadwy’n cael eu gosod er mwyn sicrhau twf cadarn, yn hytrach na thaflu ffigyrau lled obeithiol i’r awyr.”

Darllenwch y papur trafod llawn yma: Papur trafod: TUAG AT Y MILIWN – RÔL ADDYSG

Tai Gwyliau, Cartrefi Cymdeithasol a’r Gymraeg: Argymhellion Dyfodol i’r Iaith

Mewn ymateb i’r her o leihau’r nifer tai gwyliau ac ail gartrefi mewn cymunedau Cymraeg, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig £2f i Wynedd, a £1m yr un i Ynys Môn, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr i geisio lliniaru peth ar yr argyfwng.

Barn Dyfodol i’r Iaith yw bod angen gweithredu sylweddol ar frys. Mae cynnig ariannol presennol y Llywodraeth yn cyfateb yn fras i i brynu neu godi 24 o dai, swm pitw o ystyried maint yr argyfwng.

Mae Cynog Dafis, aelod o Fwrdd Dyfodol i’r Iaith wedi llunio adroddiad sy’n amlinellu’r hyn sydd angen o safbwynt cyllid a chamau gweithredu er mwyn mynd i’r afael o ddifrif ag argyfwng cartrefi mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gymdeithasol fyw.

Mae’r adroddiad yn argymell dull newydd* o ddefnyddio’r diwydiant twristiaeth i greu ffrwd incwm ychwanegol er mwyn darparu cartrefi i bobl leol a hybu’r economi.

1 Ffynhonnell Newydd o Gyllid

Mae Dyfodol yn galw ar Lywodraeth Cymru i glustnodi £200m o gyfalaf i’w gwario’n bennaf yn yr ardaloedd gorllewinol (Môn, Gwynedd, Ceredigion, Sir Benfro a Chaerfyrddin) lle mae’r argyfwng tai ar ei fwyaf dwys a’r effaith niweidiol ar yr iaith Gymraeg i’w theimlo gryfaf. A siarad yn fras fe alluogai hyn i 800 o gartrefi gael eu prynu neu eu codi.

Byddai’r tai yma’n cael eu defnyddio mewn dwy ffordd

  • Cyfran yn gartrefi cymdeithasol i ateb y galw lleol, gydag opsiwn rhan-berchnogaeth
  • Cyfran yn dai gwyliau mewn perchnogaeth gyhoeddus

 

Byddai’r elw o’r ail gategori yn cael ei ddefnyddio i greu cronfa i sybsideideiddio’r cartrefi cymdeithasol a/neu i hyrwyddo datblygiadau o fudd i’r gymdeithas leol ac i’r rhanbarth gorllewinol yn gyffredinol.

O safbwynt goruchwylio’r gwaith, awgrymir y canlynol fel posibiliadau:

  • Consortiwm o’r siroedd perthnasol
  • Prosiect Arfor, sydd i’w ddatblygu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf
  • Unnos, y corff y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei sefydlu maes o law i ddarparu tai

Yn y dyfodol gellid ystyried trosglwyddo’r stoc dai yma i berchnogaeth cwmnïau cymunedol ond yn y tymor byr a chanolig mae’n bwysig sicrhau mai’r sector cyhoeddus sy’n rheoli’r gwaith.

2 Gweithredu Prydlon

Mae Dyfodol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth fanwl, a hynny ar frys, i botensial ac agweddau ymarferol y bras-gynllun uchod. Dylai fod modd cyhoeddi canlyniadau astudiaeth o’r fath erbyn Pasg 2022 er mwyn symud ymlaen wedyn i’w roi mewn gweithrediad

Yn y cyfamser mae’n bwysig peidio gohirio. Tra bod y syniad yn cael ei archwilio, dylid darparu adnoddau digonol i awdurdodau lleol ymyrryd yn y farchnad, drwy brynu ac adnewyddu neu godi tai newydd fel sy’n addas.

Mae’r mudiad yn llwyr gefnogol i argymhellion adroddiad Simon Brooks ac yn edrych ymlaen at weld eu gweithredu’n llawn.

*Lansiwyd y syniad y llynedd mewn  erthyglau gan Cynog Dafis yn Golwg a’r Western Mail – (gweler yr Atodiad). Yn dilyn hynny cafwyd ar ddeall bod Llywodraeth Cymru yn eu hystyried.

 

ATODIAD

Troi Tai Gwyliau yn Ased Cymreig

 Daeth yr argyfwng cartrefu yn y Fro Gymraeg yn destun trafod tanllyd a’r galw am weithredu effeithiol i’w thaclo yn daer. Gadewch i ni’n atgoffa’n hunain o rai o elfennau’r argyfwng.

  • Incwm isel cyfartalog pobl leol yn peri eu bod yn cael eu prisio allan o’r farchnad
  • Nifer cynyddol o dai yn mynd yn ail gartrefi – ar y cyfan i bobl o ganolfannau trefol
  • Gwanhau economïau a hoen cymunedol
  • Gwanhau’r Gymraeg drwy broses o ddisodli’r boblogaeth frodorol
  • Rheolaeth ar y diwydiant ymwelwyr a’r elw ohono yn cael eu sugno allan o ddwylo pobl a chymunedau lleol

O’r diwedd cafwyd cyfres o flaengareddau gan awdurdodau cyhoeddus i fynd i’r afael â’r broblem: codi treth uwch ar ail gartrefi; codi cartrefi cymdeithasol a chyfran uwch o dai “fforddadwy”; prynu tai gan Gyngor Gwynedd i’w gosod i bobl leol; galw am yr hawl, drwy ddeddwriaeth gynllunio, i gyfyngu ar y gyfran o ail gartrefi mewn ardaloedd penodol  Gall fod blaengareddau o’r fath yn werthfawr. Fy marn i serch hynny yw bod eisiau meddwl yn fwy strwythurol-radical o’r hanner.

Dyma awgrym ynghylch sut  wneud hynny gan gipio elfen o reolaeth ar ac elw o’r diwydiant ymwelwyr i gymunedau lleol a diwallu anghenion eu trigolion ar yr un pryd.

Yr allwedd yw cael gafael ar gymaint â phosibl o’r elw sylweddol digamsyniol sy’n cael ei wneud o gartrefi gwyliau, i’w ddefnyddio i ddarparu cartrefi i bobl leol ac i ddibenion cymunedol eraill. Byddai’n gweithio fel a ganlyn:

Byddai corff cyhoeddus neu gymunedol yn pwrcasu eiddo (a’i adenwyddu yn ôl yr angen) ac yna’n gosod cyfran o’r unedau yn dai gwyliau a chyfran yn dai cymdeithasol i bobl leol. Byddai’r elw o’r tai gwyliau yn sybsideiddio’r tai cymdeithasol (gan gofio bod prynu ac adnewyddu am amryw resymau yn ddrutach na chodi tai newydd).

Dychmygwch dÿ tair ystafell-wely yn cael ei brynu am £200,000 (y cyfartaledd Cymreig ar hyn o bryd). Mae rhent wythnosol tÿ felly yn gartref cymdeithasol oddeutu’r £90. Dros flwyddyn dyna £4,680. Mae tÿ felly (byngalo dymunol ond digon diddychymyg) ar arfordir Ceredigion yn codi rhent o £500 yr wythnos. Dros 40 wythnos (dyweder) y flwyddyn, dyna £20,000.

Ffigyrau crynswth amrwd ac anghyflawn wrth gwrs. Rhaid ystyried amywiol orbenion, treth y cyngor, taliadau morgaes, adnewyddu, cost cynnal-a-chadw ac ati ac i dÿ gwyliau gost marchnata a llogi a glanhau wythnosol. Ar y llaw arall gallai fod elfen o gymorthdal cyhoeddus a/neu fuddsoddi cymunedol yn briodol. Bid a fo am hynny mae’r gwahaniaeth o ran elw rhwng y ddau fath o weithgarwch yn fawr a’r cyfle i groes-sybsideiddio yn amlwg.

Pa fath o gorff neu gyrff a allai wneud hyn? Dyma rai posibiliadau:

  • Awdurdodau lleol, yn unigol neu’n gonsortiwm, i sefydlu is-gwmi i’r perwyl
  • Cymdeithasau Tai i wneud yr un modd.
  • Cwmnïau cymunedol nid-er-elw, naill ai o’r cychwyn neu i awdurdod cyhoeddus drosglwyddo stoc iddyn maes o law
  • Arfor, prosiect ar-y-cyd rhwng siroedd y gorllewin y mae son am ei ail-greu yn asiantaeth ddatblygu go-iawn, i greu is-gwmni.

Byddai rhaid dechrau’n fach a thyfu’n raddol yn y lle cyntaf, ond pam na ddylai corff cyhoeddus/ cyumunedol o’r fath dyfu’n sector sylweddol a dylanwadol? Ystyriwch y manteision yma

  • Defnyddio cyfran o’r stoc tai i drigolion lleol yn lle cynyddu’r stoc yn barhaus mewn ardal lle mae gormodedd o dai sy’n bod i ateb y galw lleol
  • Cadw tir glâs yn lâs a’i ddefnyddio i arddwriaeth neu yn gynefin naturiol neu’n gyfleustra hamdden
  • Uwchraddio stoc tai sy’n bod o ran ansawdd, effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewydfol graddfa-fach
  • Cymryd meddiant cymunedol a chipio’r elw o adran bwysig o’r diwydiant ymwelwyr
  • Defnyddio crefftwyr lleol i adnewyddu eiddo a lleihau gafael y datblygwyr masnachol mawr ar y farchnad.

Mae angen gwaith dadansoddi a modelo sylweddol i archwilio ymarferoldeb  y syniad rwy’i wedi’i fras-amlinellu. Beth am fynnu ymrwymiad gan y pleidiau gwleidyddol wrth iddyn-nhw baratoi eu polisïau erbyn etholiad Senedd Cymru o leiaf i gomisiynu astudiaeth ar frys? Neu beth am i ryw awdurdod lleol fwrw ati wneud hynny rhag blaen?

Cynog Dafis Chwefror 2021.