Mae sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg yn bwysicach na llwyddiant unrhyw fudiad. Mae’n ymwneud â hunaniaeth y bobl hynny sy’n perthyn neu sy’n teimlo eu bod yn perthyn i’r cilcyn hwn o ddaear, a thrwy hynny yn rhan o gynhysgaeth y ddynoliaeth oll. Mae hi wrth reswm yn dreftadaeth i’r rheiny ohonom sy’n hanu o linach ddi-dor o siaradwyr Cymraeg. Mae hynny yn dipyn o ryfeddod. Mwy fyth o ryfeddod fodd bynnag yw’r ffaith fod cynifer wedi mynd ati i ddysgu ac i gofleidio’r Gymraeg, er na chawsant eu magu ynddi o’r crud.
Archifau Categori: Dyfodol
Araith Beti George i gyfarfod lansio Dyfodol i’r Iaith, Eisteddfod Genedlaethol 2012
Dwy i ddim yn siwr – a fydde Saunders wedi mynnu siarad Cymraeg gyda’i feddyg neu nyrs hanner can mlynedd yn ol.
Fel roedd nyrs cymuned yn y gogledd yn dweud wrthyf yn ddiweddar – mae’r bobl hŷn yn credu mai Saesneg yw iaith doctor a nyrs ac ysbyty a fysen nhw byth yn breuddwydio gofyn am gael trafod eu probleme iechyd yn Gymraeg – er mai dyna’r iaith mae’n nhw’n fwya cyffyrddus ynddi.
Araith Emyr Lewis i gyfarfod lansio Dyfodol i’r Iaith, Eisteddfod 2012
Yng nghyfansoddiad Dyfodol i’r Iaith, un amcan sydd yna, sef gweithredu er lles y
Gymraeg.
Ein bwriad yw gwneud hyn yn agored, yn annibynnol ac yn gyfansoddiadol.
Fe drafodaf y tair elfen hon yn eu tro.