Ymateb i’r Cyfrifiad

ANGEN GWEITHREDU CADARNHAOL

Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn profi’r angen am weithredu cadarnhaol o blaid y Gymraeg.  Dyna neges Dyfodol i’r Iaith ar ddiwrnod cyhoeddi’r canlyniadau.

Mae gweithredu cadarnhaol  yn ôl natur ieithyddol y gwahanol ardaloedd yn awr yn dod yn hanfodol, yn ôl Bethan Jones Parry, Llywydd Dyfodol i’r Iaith. Mae’r mudiad yn mynnu bod rhaid i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i ddulliau o hybu’r iaith dros y deng mlynedd nesaf.

Sefydliad Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion

Mae angen creu Sefydliad cenedlaethol i drefnu holl faes dysgu Cymraeg i Oedolion. Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith mewn cyflwyniad i’r grŵp sy’n adolygu’r ddarpariaeth ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Dyfodol i’r Iaith am weld y maes yn cael ei redeg gan sefydliad cenedlaethol a fydd yn cyflogi arbenigwyr.  Bydd hyn yn ei gwneud hi’n bosibl gosod safonau a thargedau newydd.

Bydd hyn yn cynnwys cynnig cyrsiau 1,200 o oriau a rhyddhau pobl o’u gwaith.  Y nod yw targedu rhieni a fydd maes o law yn newid iaith eu cartref i’r Gymraeg, a gweithwyr sy’n delio â’r cyhoedd.

Dyfodol: Llais i’r Iaith? Crynodeb o araith yr Athro Richard Wyn Jones yn y cyfarfod cyffredinol

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi deillio o’r canfyddiad fod yna chwyldro wedi digwydd yng Nghymru dros yr hanner canrif diwethaf o ran sefydliadau gwleidyddol ac agweddau poblogaidd. Adeg traddodi ‘Tynged yr Iaith’ nid oedd yna Swyddfa Gymreig, hyd yn oed, heb sôn am ddeddfwrfa a Llywodraeth Gymreig nerthol.

Ni chafwyd er hynny chwyldro cymesur yn agweddau, trefniadaeth a dulliau y mudiad iaith. Mae’r Cymry Cymraeg yn dal i’w hystyried eu hunain yn ymylol; yn bobl heb eu sefydliadau gwladwriaethol eu hunain. Hyn er gwaetha’r ffaith na fu neb yn fwy creiddiol i’r broses o lunio’r sefydliadau cenedlaethol democrataidd na’r Gymru Gymraeg. Yn wir, eironi chwerw’r sefyllfa bresennol yw ei bod yn anodd meddwl am garfan o bwys ym mywyd Cymru sydd wedi gwneud llai o ddefnydd o’r cyfleon a grëwyd trwy sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru na chefnogwyr yr iaith. Er bod buddiannau myrdd o achosion yn cael eu cynrychioli ym Mae Caerdydd gan wahanol lobïwyr, nid oes unrhyw un yno’n gweithio’n llawn amser yn codi llais o blaid y Gymraeg.