Cynhadledd – Cynaliadwyedd a’r Gymraeg

CYNHADLEDD DYFODOL – CYNALIADWYEDD A’R GYMRAEG

Dydd Gwener, Chwefror 22 rhwng 10 y bore a 4 y prynhawn
Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor
Cadeirydd: Dr. Einir Young
Siaradwyr: Gareth Clubb, Cyfeillion y Ddaear
Llyr Huws Gruffydd AC
Yr Athro Gareth Wyn Jones
Meirion Llywelyn, Menter Iaith Conwy
Nod y gynhadledd yw trafod cysylltiadau rhwng yr agenda cynaliadwyedd a’r iaith Gymraeg. A ddylai fod rhagor o gydweithio rhwng ymgyrchwyr iaith ac ymgyrchwyr amgylcheddol? Oes modd dylanwadu ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, yn enwedig y Bil Datblygu Cynaliadwy a’r Bil Cynllunio, mewn modd fydd yn fuddiol i’r Gymraeg? Parhau i ddarllen

Eos a’r BBC

LLythyr Agored at Elan Closs Stephens,  Ymddiriedolwr Cymru y BBC, oddi wrth  Bethan Jones Parry, Llywydd Dyfodol i’r Iaith

Annwyl Elan.

Ysgrifennaf i fynegi ein pryder mawr nad yw’r BBC wedi dod i gytundeb ag Eos, er bod wythnosau lawer o rybudd o’r sefyllfa bresennol wedi bod. Honnwn hefyd fod y BBC ar hyn o bryd yn torri amodau ei siarter, a bod dyletswydd ar Ymddiriedolwyr y BBC i gynnal y Siarter hwn.

Mae’r dirywiad amlwg yng ngwasanaeth Radio Cymru ers dechrau’r flwyddyn, ac mae arwyddion bod gwrandawyr yn troi at wasanaethau eraill.  Nid yw Radio Cymru bellach yn gwasanaethu Cymru, ac nid yw’n hyrwyddo creadigedd, fel y mynnir gan y Siarter. Parhau i ddarllen

Neges Calan gan ein Cadeirydd, Heini Gruffudd

Yr adeg yma y llynedd doedd dim son o gwbl am fudiad Dyfodol i’r Iaith. Bryd hynny roedd Bwrdd yr Iaith yn dal i fodoli gyda chwta tri mis i fynd cyn byddai ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo i’r Llywodraeth ac i ofal Comisiynydd y Gymraeg.

Ond roedd yna nifer yn teimlo bod angen gwneud rhywbeth amgenach o ran hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg. Mae Cymru wedi newid ers sefydlu’r Cynulliad Cendlaethol yn 1999 ac roedd cyfle bellach i ddylanwadu yn uniongyrchol er mwyn creu deddfau a pholisiau fyddai’n hyrwyddo’r Gymraeg. Parhau i ddarllen