Cynhadledd Cynaliawyedd a’r Gymraeg

Cynhaliwyd cynhadledd lwyddiannus iawn ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Gwener y 22ain Chwefror ar ‘Cynaliadwyedd a’r Iaith Gymraeg’ gyda dros 70 yn mynychu. Cafodd ei threfnu ar y cyd rhwng Dyfodol i’r Iaith a Rhwydwaith WISE, Prifysgol Bangor. Llwyddodd y gynhadledd i dynnu cynulleidfa o bob cwr o Gymru ac o nifer o wahanol sefydliadau at ei gilydd.  Roedd y cynadleddwyr yn cynnwys rhai oedd ag arbenigedd a diddordeb ym meysydd cynaliadwyedd, yr amgylchedd a’r iaith Gymraeg.

Nod y gynhadledd oedd

a) chwalu’r myth mai ystyriaethau amgylcheddol yn unig sydd i gynaliadwyedd

b) amlygu’r rhyngberthynas gymhleth sydd rhwng pobl, y blaned â’r economi os ydym am fod yn genedl gynaliadwy ac

c) datguddio fod yna gysylltiad clir a phendant rhwng cynaliadwyedd â’r Gymraeg yng Nghymru.

Erbyn diwedd y dydd roedd yn amlwg fod y grymoedd sy’n milwrio yn erbyn yr amgylchedd yn debyg iawn i’r rhai sy’n arwain at ddifaterwch at y Gymraeg ac fod yna le i’r rhai sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu i ddysgu o brofiadau ymgyrchwyr amgylcheddol wrth fynd ati i ddylanwadu ar bolisïau, yn benodol drwy sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei gweld fel elfen bwysig o gynaliadwyedd. Parhau i ddarllen

Ymateb i’r Cyfrifiad – angen Arolygiaeth Cynllunio i Gymru

Mae angen sefydlu Arolygiaeth Cynllunio ar wahân i Gymry fel cam i warchod y Gymraeg mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg.  Dyna neges Bethan Jones Parry, Llywydd Dyfodol i’r Iaith, yn sgil cyhoeddi manylion iaith Cyfrifiad 2011.

Meddai Ms JOnes Parry, “Mae Dyfodol yr Iaith yn galw am sefydlu Arolygiaeth Cynllunio Annibynnol i Gymru.  Bydd angen i wleidyddion y Cynulliad ystyried hyn ar frys fel na fydd ymdrechion ieithyddol y deng mlynedd nesaf yn cael eu chwalu gan benderfyniadau cynllunio ac economaidd niweidiol.”

Ychwanegodd Ms Jones Parry,  “Bellach mae’n amlwg bod angen i’r Gymraeg fod yn rhan annatod o gynllunio economaidd ac o gynllunio tai.  Mae angen i gynlluniau datblygu tai roi blaenoriaeth i effaith datblygiadau ar y Gymraeg.” Parhau i ddarllen

Grantiau i’r Gymraeg

Grantiau i’r Gymraeg yn y Gymuned

Mae mudiad Dyfodol yr Iaith yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parhau gyda’u hymrwymiad i ariannu sefydliadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn y gymuned. Croesawn hefyd y cynnydd bychan iawn yn y cyllid ar adeg o gyni ariannol.

Hoffai Dyfodol hefyd weld y Llywodraeth yn gwireddu un arall o’i amcanion yn ei strategaeth Gymraeg, “Iaith Fyw: Iaith Byw”  sef  amcan rhif 6: “Prif ffrydio’r Gymraeg ar draws holl weithgareddau Llywodraeth Cymru”. (tud 24) Prin yw’r dystiolaeth bod hynny yn digwydd ar hyn o bryd. Un enghraifft yw y ddogfen ymgynghorol ar Strategaeth Pobl Hŷn Llywodraeth Cymru. Does DIM UN  cyfeiriad at y Gymraeg yn y ddogfen honno. Daeth cyfnod ymgynghori y Strategaeth Pobl Hŷn i ben heddiw ac mae Dyfodol wedi cyflwyno ymateb cynhwysfawr yn tynnu sylw at y gwendid sylfaenol hwn.

Ymateb Strategaeth Pobl Hyn

Edrychwn ymlaen at gyfle i drafod gyda’r llywodraeth sut mae gweithredu amcanion “Iaith Byw; Iaith Fyw”