Ymateb i’r Ymgynghoriad ar Fil Cynaliadwyedd

Mae’r ymadrodd ‘datblygu cynaliadwy’ yn deillio o’r mudiad amgylcheddol. Ymgais yw i geisio sefydlu egwyddor sy’n sicrhau nad yw twf economaidd yn digwydd ar draul yr amgylchedd naturiol. Ond mae’n ymadrodd sydd hefyd wedi cael defnydd ehangach mewn cyd-destunau eraill lle ofnir bod datblygu yn digwydd ar draul rhywbeth y dymunir ei gynnal megis cyfiawnder, tegwch cymdeithasol, diwylliant – ac wrth gwrs iaith leiafrifol.

Cafodd papur gwyn Llywodraeth Cymru am fil datblygu cynaliadwy ei feirniadu’n hallt am nad oes sôn ynddo am yr iaith Gymraeg. Ac yn sgil canlyniadau cyfrifiad 2011, lle gwelwyd cwymp sylweddol yng nghanrannau’r nifer sy’n siarad Cymraeg yn y siroedd hynny a ystyrir yn gadarnleoedd yr iaith, cafwyd galwadau pellach i fynnu lle teilwng i’r Gymraeg yn y bil. Parhau i ddarllen

Cynhadledd Cynaliawyedd a’r Gymraeg

Cynhaliwyd cynhadledd lwyddiannus iawn ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Gwener y 22ain Chwefror ar ‘Cynaliadwyedd a’r Iaith Gymraeg’ gyda dros 70 yn mynychu. Cafodd ei threfnu ar y cyd rhwng Dyfodol i’r Iaith a Rhwydwaith WISE, Prifysgol Bangor. Llwyddodd y gynhadledd i dynnu cynulleidfa o bob cwr o Gymru ac o nifer o wahanol sefydliadau at ei gilydd.  Roedd y cynadleddwyr yn cynnwys rhai oedd ag arbenigedd a diddordeb ym meysydd cynaliadwyedd, yr amgylchedd a’r iaith Gymraeg.

Nod y gynhadledd oedd

a) chwalu’r myth mai ystyriaethau amgylcheddol yn unig sydd i gynaliadwyedd

b) amlygu’r rhyngberthynas gymhleth sydd rhwng pobl, y blaned â’r economi os ydym am fod yn genedl gynaliadwy ac

c) datguddio fod yna gysylltiad clir a phendant rhwng cynaliadwyedd â’r Gymraeg yng Nghymru.

Erbyn diwedd y dydd roedd yn amlwg fod y grymoedd sy’n milwrio yn erbyn yr amgylchedd yn debyg iawn i’r rhai sy’n arwain at ddifaterwch at y Gymraeg ac fod yna le i’r rhai sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu i ddysgu o brofiadau ymgyrchwyr amgylcheddol wrth fynd ati i ddylanwadu ar bolisïau, yn benodol drwy sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei gweld fel elfen bwysig o gynaliadwyedd. Parhau i ddarllen