Mae Dyfodol i’r Iaith yn ymateb yn ffurfiol i wahoddiad Rhodri Talfan Davies i gymryd rhan mewn ‘sgwrs’ ar ddyfodol Radio Cymru. Mae Dyfodol yn amheus iawn o’r dewis a gynigiodd rhwng “gwasanaethu cynulleidfa” ac “achub iaith” ac yn cynnig ffordd amgenach ymlaen. Y ddogfen yn llawn yma: ‘Sgwrs Radio Cymru’
Archifau Categori: Dyfodol
Siarter Ewrop ar Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol
Yn ddiweddar ma Dyfodol wedi cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor o Arbenigwyr sy’n craffu ar Siarter Ewrop ar Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol.
Gallwch ddarllen yr holl dystiolaeth yma:
Tystiolaeth i Bwyllgor Arbenigol Ewrop — Evidence for the European Committee of Experts
Galw am wrthdroi penderfyniad tai yn Sir Gaerfyrddin
Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i alw i mewn benderfyniad Cyngor Sir Gâr i godi 289 o dai ym Mhenybanc, ger Rhydaman. Mae aelodau’r mudiad yn pryderu y bydd codi’r nifer hwn o dai mewn ardal lle nad oes ond 400 o dai ar hyn o bryd yn gwaethygu sefyllfa’r Gymraeg yn y sir.
Mae’r Mudiad hefyd yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi Nodyn Cyngor Cynllunio TAN 20 newydd ar fyrder yn sgil penderfyniad Cyngor Sir Gâr, yn arbennig felly gan fod y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros yr iaith, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi y bydd Comisiwn yn edrych ar sefyllfa’r Gymraeg yn Sir Gâr yn benodol. Parhau i ddarllen