Mae cyfarfod cyhoeddus Dyfodol i’r Iaith yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych ar ddydd Mawrth 6ed o Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 1 am 4pm.
Y cyfreithiwr Emyr Lewis, sy’n un o gyfarwyddwyr Dyfodol, sy’n traddodi araith ar “Gynllunio a’r Gymraeg”
Dywed Emyr Lewis bod rhaid cael sylfaen gref i ddiogelu’r iaith Gymraeg ar wyneb y Bil Cynllunio, sy’n debygol o gael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn y sesiwn seneddol nesaf. Parhau i ddarllen