Meysydd Carafannau Gwyliau

Mae’r Aelod Cynulliad Darren Millar yn bwriadu cyflwyno cyfraith newydd yng Nghymru fydd yn mynd i’r afael a phryderon  ynghylch rheoli a rheoleiddio meysydd carafannau gwyliau .

Rhaid cyflwyno’r Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru) cyn mis Mawrth 2014 ac mae Darren Millar yn awyddus i glywed barn ystod eang o fudiadau ac unigolion er mwyn iddyn nhw fedru dylanwadu ar gynnwys y Bil.

Gan bod meysydd carafannau gwyliau yn fater sy’n achosi pryder mawr mewn nifer o ardaloedd sy’n gadarnleoedd Cymraeg,  penderfynodd Dyfodol gyflwyno ymateb yn canolbwyntio ar effaith diffyg rheoleiddio carafannau ar y Gymraeg.

Ymateb Dyfodol i’r Bil Meysydd Carafannau

Cymunedau Cymraeg

Yn 2012  sefydlodd LLywodraeth Cymru Grwp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Cymraeg gyda’r nod o lunio cynllun i gynyddu’r nifer o gymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith.

Dr Rhodri Llwyd Morgan yw cadeirydd y Grwp ac mae hefyd yn cynnwys

  • Sali Burns
  • Dyfed Edwards
  • Owain Gruffydd
  • Lynne Reynolds
  • Elin Rhys
  • Yr Athro Elan Closs Stephens

Mae’r Grwp wedi galw am dystiolaeth i’w helpu yn eu gwaith ac mae Dyfodol wedi cyflwyno ymateb i’r Grwp Ymateb Dyfodol i’r Grwp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Cymraeg

Eisteddfod Dyfodol

Cafodd Dyfodol wythnos lwyddiannus iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych. Hoffem ddiolch i bawb wnaeth ymaelodi, ac yn enwedig i’r person dienw gyflwynodd rodd o £350 i’r mudiad.

Cafwyd cyfarfod adeiladol gyda’r Prif Weinidog,  Carwyn Jones, fydd yn sail i drafodaethau pellach cyn diwedd y flwyddyn, gobeithio.

Carwyn Jones yn cyfarfod a Bethan Jones Parry a Heini Gruffudd o Dyfodol.

Ddydd Mawrth roedd Pabell y Cymdeithasau yn llawn ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus lle bu Emyr Lewis yn traddodi cyflwyno araith am Gynllunio a’r Gymraeg. Ei ddadl oedd bod rhaid gweld y Gymraeg ar wyneb y Bil Cynllunio arfaethedig os ydyn ni o ddifri am ddiogelu’r iaith.

Emyr Lewis yn annerch ym Mhabell y Cymdeithasau

Fe fydd  Cyfarfod Cyffredinol i aelodau yn yr hydref ac fe gyhoeddir manylion cyn hir