Cyfarfod Cyffredinol – Cynllunio

Rhaid i’r iaith Gymraeg fod yn gwbl ganolog ym maes cynllunio – dyna oedd y neges glir ddaeth o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol mudiad Dyfodol i’r Iaith yn Aberystwyth ar y 23ain o Dachwedd.

Galwodd Dyfodol am gryfhau’r TAN 20 newydd er mwyn cwmpasu datblygiadau unigol yn ogystal â chynlluniau datblygu unedol yr awdurdodau lleol. “Mae hi hefyd yn amlwg bod angen i arolygwyr cynllunio gael hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith er mwyn deall cyd-destun a phwysigrwydd y Gymraeg yn ngwead cymdeithasol cymunedau Cymru”, yn ôl Llywydd Dyfodol, Bethan Jones Parry. “Roedd yn syndod llwyr i mi glywed na chafodd yr un apêl cynllunio yn Sir Gar ei wrthod ar sail ieithyddol”, meddai Ms Jones Parry, “Mae hyn yn profi’n glir nad yw arolygwyr cynllunio yn deall arwyddocâd yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau.” Parhau i ddarllen

Datganiad y Prif Weinidog

HONNI BOD Y PRIF WEINIDOG YN ANWYBYDDU’R GYNHADLEDD FAWR

Mae Dyfodol i’r Iaith yn honni bod y Prif Weinidog yn anwybyddu prif gasgliadau’r Gynhadledd Fawr ar yr iaith, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf eleni.

“Y brif her i’r Gymraeg yn ôl y Gynhadledd yw symud poblogaeth, a bod angen polisïau economaidd, polisïau tai a chynllunio, polisïau addysg a pholisïau datblygu cymunedol i ymateb i’r her,” medd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gofidio nad yw datganiad y Prif Weinidog ar 12fed Tachwedd yn gwneud dim i ymateb i’r brif her hon.

Mae Dyfodol yr Iaith yn honni ymhellach bod datganiad y Prif Weinidog yn cynnwys ailadrodd hen bolisïau’r Llywodraeth sydd wedi’u cyhoeddi’n barod, cyn y Gynhadledd Fawr.

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu ato i gael eglurhad ar y datganiad. Llythyr i’r Prif Weinidog      Parhau i ddarllen

Cyfarfod Cyffredinol

Cynhelir Cyfarfod Cyhoeddus gan Dyfodol, ar fore Sadwrn, 23ain Tachwedd am 11 o’r gloch yng Nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth.
Prif siaradwyr y cyfarfod fydd yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth ag Eifion Bowen, Pennaeth Cynllunio Sir Gaerfyrddin a thema’r cyfarfod fydd ‘Cynllunio a’r TAN 20 Newydd’. Cadeirydd y cyfarfod fydd Heini Gruffudd. Croeso cynnes i bawb.

 Ar ôl toriad am ginio, fe gynhelir cyfarfod blynyddol Dyfodol am 1.30yp yn yr un lleoliad a’r uchod. Bydd cinio ar gael yng Nghanolfan Merched y Wawr, am £4 a bydd angen archebu cinio ymlaen llaw. Os ydych am ginio a wnewch chi rhoi gwybod i mi mor fuan â phosib os gwelwch yn dda. Cysylltwch a [email protected]