Ymgynghoriadau Iechyd a Gofal

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi cyflwyno ymatebion i nifer o ymgynghoriadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Fe gyflwynwyd ymateb i’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol Gwasanaethau Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru

Bu Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal ymholiad i wasanaethau iechyd yn y Gymraeg gan gasglu ymatebion gan ddefnyddwyr. Cyflwynodd Dyfodol Sylwadau i ymholiad iechyd y Comisiynydd

Maes arall gafodd sylw gan Lywodraeth Cymru oedd diweddaru’r Strategaeth Gofalwyr

Maes arall o bwysigrwydd mawr o safbwynt y Gymraeg yw Pobl Hyn ac fe gyflwynodd Dyfodol ymateb i  Strategaeth Pobl Hyn LLywodraeth Cymru

Yn ogystal fe gyflwynodd Dyfodol sylwadau ar raglen waith y Comisiynydd Pobl Hyn

Cyfarfod Cyffredinol – Cynllunio

Rhaid i’r iaith Gymraeg fod yn gwbl ganolog ym maes cynllunio – dyna oedd y neges glir ddaeth o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol mudiad Dyfodol i’r Iaith yn Aberystwyth ar y 23ain o Dachwedd.

Galwodd Dyfodol am gryfhau’r TAN 20 newydd er mwyn cwmpasu datblygiadau unigol yn ogystal â chynlluniau datblygu unedol yr awdurdodau lleol. “Mae hi hefyd yn amlwg bod angen i arolygwyr cynllunio gael hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith er mwyn deall cyd-destun a phwysigrwydd y Gymraeg yn ngwead cymdeithasol cymunedau Cymru”, yn ôl Llywydd Dyfodol, Bethan Jones Parry. “Roedd yn syndod llwyr i mi glywed na chafodd yr un apêl cynllunio yn Sir Gar ei wrthod ar sail ieithyddol”, meddai Ms Jones Parry, “Mae hyn yn profi’n glir nad yw arolygwyr cynllunio yn deall arwyddocâd yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau.” Parhau i ddarllen