Cefnogi’r Mentrau Iaith

Mae Dyfodol i’r Iaith yn falch iawn bod dros 1,800 o bobl wedi arwyddo ein deiseb yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi gwaith holl Fentrau Iaith Cymru.

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, William Powell AC,  ar ddydd Mercher yr 2il o Ebrill gan Elin Maher o Fenter Iaith Casnewydd ac Emily Cole o Fentrau Iaith Cymru.

William Powell AC, Elin Maher, Emily Cole, Russell George AC

William Powell AC, Elin Maher, Emily Cole, Russell George AC

Penderfynodd  Dyfodol i’r Iaith fynd ati i baratoi’r ddeiseb mewn ymateb i’r adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd am waith y Mentrau yn gynharach eleni. Roedd yr adroddiad hwnnw yn dweud y dylai gwaith pwysig y Mentrau barhau a datblygu ond nad yw’r Mentrau’n cael eu hariannu’n deg nac yn ddigonol i weithredu i’w potensial llawn.

Gallwch ddarllen datganiad Mentrau Iaith Cymru yn croesawu cefnogaeth Dyfodol i’r Iaith yma. Datganiad Mentrau Iaith Cymru

Deiseb Mentrau Iaith

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi cyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn tynnu sylw at waith y Mentrau Iaith ac yn galw am drefn ariannu deg i’r mentrau.

“Galwn ar y Cynulliad i ofyn i Lywodraeth Cymru:

longyfarch y Mentrau Iaith am eu gwaith arloesol yn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Cymru; cadarnhau fod y Mentrau yn bartner allweddol i’r Llywodraeth yng nghyswllt gwireddu ei Strategaeth Iaith; ymateb yn brydlon i arolwg Prifysgol Caerdydd ar waith y Mentrau, gan sicrhau fod y cyllid a roddir iddynt yn adlewyrchu’n deg faint y dasg sy’n eu hwynebu – tra’n derbyn fod angen cynyddu, yn sylweddol iawn, yr arian sydd ar gael iddynt; derbyn bod angen cysondeb rhwng y Mentrau o ran eu hariannu, a bod angen dod â’r anghysondeb presennol i ben; ariannu Mentrau Iaith Cymru yn deg, gan sicrhau ei fod yn gallu chwarae rôl gyflawn wrth gydlynu gwaith y Mentrau a chynnig cymorth ac arweiniad iddynt; sicrhau y bydd y Safonau Iaith yn gorfodi awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gwaith y Mentrau, a bod yr awdurdodau yn gweithio’n agos gyda’r Mentrau; chwarae rôl lawn er mwyn cynnig arweiniad strategol yng nghyswllt cynllunio cymunedol.”

Os allech lofnodi’r ddeiseb a rhannu’r manylion gyda’ch cyfeillion byddem yn ddiolchgar

Deiseb y Mentrau Iaith