CYFARFOD CYHOEDDUS DYFODOL I’R IAITH: CYFLE I GYNLLUNIO DROS YR IAITH YN SGIL CANLYNIADAU ETHOLIADAU’R CYNULLIAD

Yn dilyn canlyniadau etholiadau’r Cynulliad nos Iau a bore Gwener, bydd Dyfodol i’r Iaith yn craffu a dadansoddi’r cyfleoedd i’r Gymraeg a ddaw yn sgil y Llywodraeth newydd. Bydd cyfle i bawb rannu’r casgliadau a chyfrannu at y drafodaeth mewn Cyfarfod Cyhoeddus a gynhelir yn Abertawe nos Fawrth nesaf. Awduron maniffesto’r mudiad, Creu Dyfodol i’r Gymraeg, Cynog Dafis a Heini Gruffudd fydd y siaradwyr, gydag aelod arall o Fwrdd Dyfodol, Emyr Lewis yn cadeirio.

Ers rhai misoedd, bu Dyfodol i’r Iaith yn trafod eu maniffesto gyda’r gwleidyddion wrth iddynt baratoi ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ar Fai 5ed.

Dywedodd Heini Gruffudd, “ Bydd hwn yn gyfle gwych i gael rhannu a thrafod ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau yng ngoleuni’r canlyniadau. Edrychwn ymlaen at gyfarfod bywiog, ac at sefydlu ein rhaglen am y pum mlynedd nesaf. Mae’n amser allweddol i’r Gymraeg, a gobeithiwn y daw llawer atom ni i ymuno â’r drafodaeth.”

Cynhelir y cyfarfod am 7 o’r gloch, nos Fawrth Mai 10 yn Nhŷ Tawe, Abertawe, ac estynnir croeso cynnes i bawb.

S4C YN CADARNHAU NAD YW IS-DEITLAU DI-OFYN YN FWRIAD I’R DYFODOL

Mae S4C wedi cadarnhau i fudiad Dyfodol i’r Iaith nad yw cael is-deitlau agored yn rhan o’u bwriad wrth ddatblygu’r sianel.

Dywedwyd hyn mewn cyfarfod rhwng Dyfodol yr Iaith ac Ian Jones, Prif Weithredwr S4C.

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr mai ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o is-deitlau oedd nod yr wythnos o is-deitlau agored a gafwyd ddechrau mis Mawrth. Nid arbrawf oedd hyn ar gyfer y dyfodol, a’r bwriad yw parhau i gynnig is-deitlau dewisol. Erys y sefyllfa yr un fath ag o’r blaen gydag is-deitlau di-ofyn ar rai ail-ddarllediadau hwyr.

Wedi cyfarfod adeiladol, Mae’r mudiad yn fodlon na fydd y sianel yn ystyried is-deitlau di-ofyn Saesneg hyd y gellir rhagweld.

Manteisiwyd ar y cyfle i drafod sut y mae’r sianel yn hyrwyddo’r Gymraeg, yn ogystal â chyfleoedd a heriau technoleg newydd.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol;

“ Roeddem yn falch iawn o’r cyfle hwn i drafod gwaith a chynnyrch y sianel gyda’i Phrif Weithredwr. Yn amlwg, mae ganddi rôl allweddol i’w chwarae mewn hyrwyddo’r iaith a’n diwylliant. Bu’n gyfle hefyd i ategu ein cefnogaeth i ddarlledu cyfrwng Cymraeg, a byddwn yn cyfrannu ein sylwadau fel rhan o’r Adolygiad sydd ar y gweill.“