DYFODOL YN CROESAWU DATBLYGIADAU PEN-BLWYDD RADIO CYMRU

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi rhoi croeso brwd i gyhoeddiad datblygiadau diweddaraf Radio Cymru heddiw. Ar drothwy pen-blwydd y sianel yn ddeugain oed, bydd Radio Cymru’n cynnig pecyn o ddatblygiadau digidol a gorsaf dros dro yn ystod tymor yr Hydref.

Mae Dyfodol wedi bod yn pwyso am ystod ehangach o wasanaethau i Gymry Cymraeg a dysgwyr. Mae’r cyhoeddiad heddiw’n gam sylweddol tuag at ddiwallu tri o ofynion Maniffesto Dyfodol, sef; datblygu dwy orsaf radio Gymraeg, manteisio i’r eithaf ar gyfryngau electronig, a darparu’n effeithiol i bob oed a diddordeb.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: “ Dyma newyddion gwych. Rydym yn falch iawn o glywed bod Radio Cymru yn dathlu ei ben-blwydd drwy edrych ymlaen at y dyfodol, drwy arloesi a chynnig mwy o ddewis i wrandawyr a defnyddwyr y gwasanaeth. Dymunwn bob llwyddiant i’r fenter newydd, ac edrychwn ymlaen at gynnyrch creadigol a chyffrous dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”

CYHOEDDI CANLYNIADAU ETHOLIAD: DYFODOL YN GALW AM FWY O YSTYRIAETH I’R GYMRAEG

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau etholiadau’r Cynulliad bore Gwener ddiwethaf, mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn am eglurder ynglŷn â’r disgwyliadau mewn perthynas â’r Gymraeg ar achlysuron o’r math.

Wrth i’r canlyniadau ddod i mewn, daeth yn glir fod amrywiaeth sylweddol yn y pwyslais a roddir i’r Gymraeg ac yn safon y Gymraeg a ddefnyddiwyd o etholaeth i etholaeth. Er ei bod yn glodwiw clywed dysgwyr yn defnyddio’r iaith, cafwyd cyhoeddwyr yn cael trafferth sylweddol gyda’r Gymraeg, a throeon eraill, cafwyd y cyhoeddiad yn llawn yn y Saesneg, gyda’r Gymraeg yn dilyn fel ôl-ystyriaeth, gan adael i sylwebyddion y cyfryngau siarad drosti.

Mae’n allweddol bwysig fod y Gymraeg yn cael ei chlywed a’i pharchu ar achlysuron cyhoeddus fel hyn, ac mae Dyfodol wedi holi’r Comisiynydd ynglŷn â pha safonau iaith sy’n berthnasol i gyhoeddi etholiadau. Maent hefyd wedi pwyso ar i’r Comisiynydd lunio canllawiau clir, er mwyn osgoi anghysondebau o’r math at y dyfodol.