CYFARFOD Â CHADEIRYDD GRŴP TRAWSBLEIDIOL YR IAITH GYMRAEG

Cawsom gyfarfod calonogol ac adeiladol gyda Jeremy Miles, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Gymraeg yr wythnos hon.

Testun y drafodaeth oedd addysg Gymraeg – mater sy’n gwbl allweddol i lwyddiant Strategaeth y Gymraeg, a blaenoriaeth brys ar gyfer cynllunio tuag at gynnydd. Dyma fu ein prif neges, yn ogystal â phwysigrwydd gwella ansawdd ac ymrwymiad Cynlluniau Strategol y Gymraeg yr awdurdodau addysg lleol, gan sicrhau eu bod yn ymateb yn ystyrlon at y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Pwysleisiwyd mai canolbwyntio ar greu ysgolion Cymraeg a symud tuag at newid cyfrwng ysgolion i’r Gymraeg fyddai’n arwain at y canlyniadau gorau o safbwynt sicrhau siaradwyr y dyfodol

Yn unol â neges gyson Dyfodol, pwysleisiwyd yn ogystal bod rhaid i unrhyw gynllunio digwydd yng nghyd-destun hyrwyddo defnydd eang o’r iaith. Mewn perthynas ag addysg, byddai’r cyd-destun hwn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o fanteision y Gymraeg, yn ogystal â sicrhau gweithlu digonol o athrawon cymwys ac ymroddgar.

Edrychwn ymlaen at drafod gofynion addysg ymhellach ymlaen y mis hwn gyda’r Ysgrifennydd Addysg a Gweinidog y Gymraeg.

DYFODOL YN TALU TEYRNGED I GWILYM PRYS-DAVIES

Dymunai Dyfodol I’r Iaith dalu teyrnged i’r Arglwydd Gwilym Prys-Davies, a fu farw yn gynharach yr wythnos hon.

Gwerthfawrogwn ei holl waith diflino dros y Gymraeg. Bu’n weithgar ac arloesol mewn sawl maes, gan gynnwys datblygiad y Ddeddf Iaith 1993, a bu’n gefnogwr cadarn i ddatblygu addysg Gymraeg.

Fel brodor o Lanegryn, Meirionnydd, credai’n gryf y bod angen gwarchod a sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol.

 

Y GYMRAEG: TU HWNT I FFINIAU’R YSGOL

Sion Aled

Diolch i bawb a ddaeth draw i Ganolfan Arad Goch yn Aberystwyth i’n Cyfarfod Cyhoeddus; gobeithiwn i chwi gael amser difyr a thestun meddwl.

Cawsom gyflwyniad hynod ddifyr a diddorol gan Siôn Aled Owen; Y Gymraeg: Tu Hwnt i Ffiniau’r Ysgol. Roedd y cyflwyniad hwn yn seiliedig ar ei ymchwil pwysig i’r defnydd a wneir o’r Gymraeg gan ddisgyblion ysgolion Cymraeg y tu allan i’r dosbarth.

Er bod ymateb y plant a’r bobl ifanc i’r Gymraeg yn hynod gadarnhaol, dywed Dr Owen bod rhaid gweithredu ar fyrder i droi’r ewyllys da’n wirionedd. Rhaid gwneud llawer mwy o safbwynt creu cyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg ac ennyn hyder i’w defnyddio o ddydd i ddydd. Dengys yr ymchwil nad gorfodi yw’r ateb, ond yn hytrach newid ymddygiad, gan adnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan y teulu (a’r teulu estynedig) a’r cyfryngau.

Roeddem yn falch iawn o glywed fod yr ymchwil hwn yn cadarnhau un o negeseuon sylfaenol Dyfodol; sef bod angen i bolisi iaith ganolbwyntio ar greu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol, a chyda hyder a balchder. Dengys ymchwil Siôn Aled Owen bod y sylfaen mewn lle o safbwynt ewyllys, ond i’r Llywodraeth fwrw ymlaen i adeiladu arni.