CYDWEITHIO RHWNG Y LLYWODRAETH AC AWDURDODAU LLEOL YN HANFODOL I GYRRAEDD NODAU’R STRATEGAETH IAITH

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu nod y Llywodraeth o weld twf addysg Gymraeg.  Bydd cael 40% o ddisgyblion Cymru mewn addysg Gymraeg erbyn 2050 yn ennill sylweddol iawn i’r Gymraeg ac i bobl Cymru, medd y Mudiad.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhybuddio, fodd bynnag, bod angen i’r Llywodraeth ddelio’n llwyddiannus ag awdurdodau lleol.  Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith,

“Mae’r Llywodraeth wedi gosod nodau ar gyfer twf addysg Gymraeg yn y gorffennol, a’r targedau heb eu cyflawni.  Digwyddodd hyn am na lwyddodd y Llywodraeth i ysgogi awdurdodau lleol i weithredu, yn enwedig yn ne a dwyrain Cymru.  Mae angen i’r Llywodraeth ddangos yn awr sut y bydd yn gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn mynd i gael cefnogaeth a chyllid i gyrraedd y nodau uchelgeisiol.

“Mae rhai awdurdodau, fel Gwynedd, ac eraill yn y gorllewin, wedi gwneud addysg Gymraeg yn flaenoriaeth.  Mae angen i’r Llywodraeth argyhoeddi awdurdodau ledled Cymru bod angen i addysg  Gymraeg fod yn flaenoriaeth am y deng mlynedd ar hugain nesaf.  Oni wna hyn, bydd y strategaeth hon yn mynd i’r gwellt.”

DYFODOL YN GALW AM NAWDD DIGONOL AR GYFER Y CYMRO

Gyda thrafodaethau ar y gweill ynglŷn ag ail-lansiad Y Cymro, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar i Lywodraeth Cymru roi nawdd digonol i’r papur newydd eiconig hwn er mwyn sicrhau ei ddyfodol a’i ddatblygiad.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

Y Cymro yw’r unig bapur newydd cenedlaethol cyfrwng Cymraeg, ac mae ei oroesiad a’i ffyniant yn cynrychioli cyfraniad allweddol i’n diwylliant ac i fyd y cyfryngau yng Nghymru. Byddwn yn galw ar i’r Llywodraeth roi cefnogaeth ddigonol i’r papur ar ei newydd wedd drwy ganiatáu grant sydd o leiaf yn cyfateb â’r nawdd a roddir i Golwg. Byddwn yn gobeithio y byddai modd rhoi grant brys i ddechrau, i’w ffurfioli maes o law drwy’r Cyngor Llyfrau.”

DYFODOL YN RHOI CROESO CYNNES I RADIO CYMRU 2

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi rhoi croeso cynnes i ddatganiad Radio Cymru ynglŷn a’r bwriad i sefydlu sianel Gymraeg amgen i ddarlledu o 7 tan 10 pob bore. Mae’r datblygiad diweddaraf hwn yn cydfynd â dyhead Dyfodol i ehangu’r arlwy o raglenni radio Cymraeg a ddarlledir gan y BBC. Credai’r mudiad y bydd hyn yn gosod sail cadarn i atgyfnerthu ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg presennol, gan ddenu cynulleidfa newydd yn ogystal, ac yn enwedig gwrandawyr ifanc.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Dyma newyddion gwych i ddarlledu Cymraeg, a datblygiad y bu Dyfodol yn pwyso amdano ers blynyddoedd bellach.

Dymunwn pob llwyddiant i’r fenter newydd, ac edrychwn ymlaen at amrywiaeth eang a chreadigol o raglenni a wnaiff, yn ychwanegol at yr arlwy bresennol, apelio at holl ystod ac amrywiaeth siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg. “