ANGEN SEFYDLU CYLCH RHINWEDDOL I HYRWYDDO DEFNYDD CYNYDDOL O’R GYMRAEG: YMATEB DYFODOL I YMGYNGHORIAD BIL Y GYMRAEG

Yn ôl Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad Dyfodol i’r Iaith;

“Mae bellach angen creu cylch rhinweddol o ffactorau fydd yn hyrwyddo defnydd cynyddol o’r Gymraeg ar draws y sectorau, ac ym mhob agwedd o fywyd dydd-i-ddydd . “

Dyma’r her a osodir gan y mudiad wrth i Lywodraeth Cymru wrth iddynt fynd i’r afael â llunio Bil y Gymraeg er mwyn cefnogi’r nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae Dyfodol wedi bod yn pwyso’r angen am gorff hyd-braich grymus i arwain polisi a bod yn gyfrifol am drosolwg strategol ym maes hyrwyddo’r Gymraeg, a theimlent fod lle i groesawu rhai o argymhellion y ddogfen ymgynghori ddiweddaraf.

Pwysleisia’r mudiad, fodd bynnag, bydd angen i unrhyw strwythurau a chynlluniau newydd gael eu cyllido’n ddigonol, a bod holl adrannau’r Llywodraeth (ac yn enwedig yr Adran Addysg) yn derbyn eu dyletswyddau, o ran cyllid ac ymrwymiad, mewn perthynas â gwireddu Strategaeth y Gymraeg.

Yr un mor bwysig yw datblygu arbenigedd cynllunio ieithyddol o fewn y Llywodraeth a’r Comisiwn newydd, a datblygu strwythurau cydlynol a grymus i yrru’r agenda at y dyfodol.

Wrth groesawu sawl elfen o’r ddogfen ddiweddaraf hon, ac yn enwedig y bwriad i ymestyn pŵer statudol i’r sector breifat, a’r dylestswyddau newydd ar gynllunio ieithyddol. Eto, rhybuddiai Dyfodol:

  • Nad yw sefydlu un corff (y ‘Comisiwn’), fyddai’n uno’r gwaith o hyrwyddo a rheoleiddio, yn ymateb delfrydol i’r anghenion. Mae’r ddwy elfen yn gofyn am ymatebion tra gwahanol, ac o fwrw ymlaen â sefydlu un corff, rhaid sicrhau na fydd unrhyw lastwreiddio ar y gallu i orfodi cydymffurfiaeth.

 

  • Er mwyn sicrhau llais annibynol cryf, byddwn yn dadlau’n gryf mai’r Rheolaethwyr, yn hytrach na’r Llywodraeth, ddylai fod â’r grym i osod safonau a chyhoeddi canllawiau a chodau ymarfer

 

  • Bydd angen rôl gydlynol gryf i’r Comisiwn, a hynny er mwyn cynghori’r Llywodraeth, a sicrhau bod gwahanol brosiectau a mentrau’n atgyfnerthu ei gilydd

 

  • Mae codi ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg yn allweddol i lwyddiant y gwaith, a bydd angen ymchwil ysgolheigaidd manwl ar sut i ledaenu’r neges ymysg y gwahanol sectorau a’r cyhoedd

 

  • Croesawn y bwriad i ddiwygio’r safonau, ond yn y cyfamser, rhaid sicrhau nad yw’r newid yn tanseilio gweithrediad y drefn ar ei ffurf bresennol

 

 

  • Byddwn y ffafrio trefn gwyno fwy hyblyg, fyddai’n caniatáu ymateb cyflym, neu ymchwiliad trwyadl, pan fo’n addas. Teimlwn yn ogystal bod y ddirwy o £5,000 am ddiffyg cydymffurfiaeth yn chwerthinllyd o isel.

 

  • Croesawn yn gynnes y dyletwyddau cynllunio ieithyddol, a chredwn fod dyletswyddau o’r math yn hanfodol er mwyn newid diwylliant. I sicrhau eu heffeithlonrwydd, bydd angen eglurhad manwl o’u grym cyfreithiol dros y misoedd i ddod. Byddwn hefyd yn pwyso am ddyletswydd ychwanegol i  alw am greu tirwedd sy’n ffafrio’r Gymraeg; byddai hyn yn sicrhau’r hanfod o bresenoldeb amlwg a chymunedol i’r iaith

 

GALW AM WNEUD Y GYMRAEG YN HANFODOL MEWN SWYDDI ADDYSG

Mae Dyfodol yr Iaith am i’r Gymraeg fod yn hanfodol ar gyfer swyddi Arweinyddion Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru.  Mae’r swyddi hyn, yn y pedwar Consortiwm Addysg, wedi’u hysbysebu yn y Guardian, a dim ond ‘dymunol’ yw hi bod yr ymgeiswyr yn siarad y Gymraeg.

 

Medd Dyfodol, “Mae hi’n hynod siomedig nad yw’r Consortia Addysg Rhanbarthol yng Nghymru yn gweld bod angen i arweinwyr Dysgu Ychwanegol fod yn siarad y Gymraeg.

 

Ar hyd y blynyddoedd diwethaf mae’r Gymraeg wedi cael lle annigonol ym maes addysg arbennig. Mae’n bryd newid y drefn, fel bod plant ysgolion Cymraeg yn cael eu trin yn gyfartal o ran eu sgiliau iaith a’u datblygiad addysgol.

 

Er bod dau gonsortia’n nodi bod y Gymraeg yn ‘ddymunol iawn’ ar gyfer y swyddi, dyw hyn ddim yn ddigon.  Mae angen i’r rhai sy’n cael y swyddi hyn fod â gwybodaeth drylwyr o’r sefyllfa ieithyddol yng Nghymru.  Mae gallu trafod y maes yn y Gymraeg yn rhan annatod o hyn, gan gynnwys gwybod yn drylwyr am anghenion disgyblion Cymraeg a dwyieithog.”

Eisteddfod Ynys Môn, 2017

Diolch o galon i bawb a ddaeth draw am sgwrs, ac a fanteisiodd ar ein cyflwyniadau, sgyrsiau ac adloniant yn ystod yr Eisteddfod ym Modedern. Bu’r Eisteddfod hefyd yn gyfle i ddathlu ein pumed pen-blwydd – esgus am deisen, ac edrych yn ôl ar ein llwyddiannau.

Cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau gydag arbenigwyr yn eu gwahanol feysydd, yn edrych ar ffyrdd a chyfryngau i hyrwyddo’r Gymraeg. Bu Menna Baines yn trafod y wasg Gymraeg a’i rôl gyda Menter Iaith Bangor; cafwyd cyflwyniad gan Osian Roberts ar bwysigrwydd chwaraeon fel cyfrwng anffurfiol i hyrwyddo defnydd naturiol o’r Gymraeg; Cefin Roberts wedyn yn sôn am hyrwyddo’r Gymraeg yn gymdeithasol drwy ganu; a’r Athro Enlli Thomas yn rhannu canfyddiadau ei hymchwil i’r Gymraeg mewn addysg. Roedd y cyflwyniadau oll yn ddifyr a grymus, ac yn atgoffâd o bwysigrwydd defnydd y Gymraeg ar draws amryfal sefyllfaoedd.

Cafwyd yn ogystal rhaglen gyffrous o gerddoriaeth; Gwilym Bowen Rhys, Ynyr Llwyd, Gwyneth Glyn a Thwm Morys, Glain Rhys a Meinir Gwilym. Diolch i bawb, yn siaradwyr a chantorion, am ei gwneud yn Eisteddfod mor ddifyr i ni ar stondin Dyfodol.

Cynllunio a’r Gymraeg oedd testun ein prif gyflwyniad ym Mhabell y Cymdeithasau eleni, gyda Huw Prys Jones yn amlinellu ei asesiad ieithyddol o Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn, ac Emyr Lewis yn cadeirio. Bu hon yn sesiwn lwyddiannus dros ben, gyda phabell lawn, a chwestiynau treiddgar o’r llawr. Ein bwriad dros y misoedd nesaf fydd adeiladu ar ein hymroddiad i’r maes cymhleth ac allweddol hwn, a byddwn yn eich diweddaru’n fuan o’r camau nesaf.

Cyhoeddwyd y Papur Gwyn ar Fil y Gymraeg yn ystod yr Eisteddfod, ac, yn dilyn y lansiad, cawsom sgwrs a’r Gweinidog i gadarnhau y byddwn yn cwrdd ag ef yn ystod mis Medi i rannu ein sylwadau llawn ar y ddogfen. Yn amlwg, ar ôl gwyntyllu manwl, byddwn yn rhannu ein barn gyda chwithau, a hynny cyn gynted â phosib.

Gobeithio i chwithau fwynhau’r Eisteddfod, ac y cewch gyfle i wneud y gorau o’r hyn sy’n weddill o’r haf. Yn sicr, bydd digon i’w wneud dros y misoedd nesaf…