Cynhelir ein cyfarfod nesaf yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth ar nos Fawrth Ebrill 24ain am 7.30. Dewch draw i glywed Cynog Dafis, Heini Gruffudd yn rhannu eu meddyliau ar ‘Obaith Newydd i’r Gymraeg’, gyda Rebecca Williams (UCAC) yn cadeirio’r drafodaeth. Croeso cynnes i bawb, fel arfer!
Archifau Categori: Dyfodol
TESTUNAU TRAFOD CYFARFOD CYHOEDDUS LLANDEILO
Diolch i bawb a ddaeth draw i’r Cottage Inn ger Llandeilo nos Lun 26ain o Fawrth. Cafwyd trafodaethau bywiog, a gobeithio i chwi fwynhau’r cyfarfod, a chael digon o waith cnoi cil dros ein syniadau.
Cyflwynodd Cynog Dafis a Heni Gruffudd yr achos dros gael Awdurdod Iaith i Gymru; corff grymus i hyrwyddo’r Gymraeg a llunio cynlluniau i’w hadfywio ar lefel genedlaethol ac yn y gymuned. Yn sicr, roedd trafodaethau’r noson yn cadarnhau’r angen am gorff o’r math, gyda throsolwg eang ar holl faterion polisi sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
Bu’r cwestiwn, addysg Gymraeg neu addysg ddwyieithog yn destun trafod. Meddai’r Cynghorydd Cefin Campbell fod Sir Gâr yn bwriadu, gydag amser, i gael gwared o ysgolion Saesneg y Sir a sefydlu ysgolion dwyieithog yn eu lle a throi’r ysgolion dwy ffrwd yn ysgolion Cymraeg.
Maes trafod arall oedd tai a chynllunio. Dywedwyd fod amcangyfrifon am nifer y tai ar gyfer Sir Gâr ymhell y tu hwnt i’r angen. Ar y llaw arall, roedd angen tai cymdeithasol ar gyfer pobl ifanc a hefyd i ddatrys digartrefedd.
Diolch o galon unwaith eto i bobl Llandeilo a’r cylch am eich gwrandawiad a’ch sylwadau. Gwerthfawrogwn yn arw’r cyfleoedd hyn i gwrdd a thrafod a chwi. Byddwn yn cyhoeddi cyfarfodydd pellach maes o law.
GOBAITH NEWYDD I’R GYMRAEG
Dyma fydd thema cyfarfod cyhoeddus a gynhelir ar nos Lun y 26ain o Fawrth am 7 o’r gloch yn y Cottage Inn ger Llandeilo. Siaradwyr y cyfarfod fydd y darlledydd Elinor Jones, Heini Gruffudd (Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith) a Cynog Dafis (cyn-AS ac aelod o Fwrdd Dyfodol i’r Iaith).
Mae’r cyfarfod hwn yn rhan o raglen Dyfodol i’r Iaith i gynnal cyfarfodydd ledled Cymru. Un nod yw cael gwybodaeth gan bobl leol: beth sy’n helpu’r iaith yn lleol? Beth yw’r heriau?
Nod arall yw cyflwyno sut mae Dyfodol i’r Iaith am weld pethau’n digwydd. Rydyn ni am roi blaenoriaeth i hyrwyddo’r iaith yn y gymdeithas, yn y cartref ac yn y gwaith, fel bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn cael cyfle i ddefnyddio’r iaith.
Ar hyn o bryd, ac efallai ers hanner canrif, mae’r prif bwyslais wedi’i roi ar ennill statws i’r Gymraeg ac ar hawliau unigolion. Erbyn hyn mae’n rhaid newid y pwyslais, i ganolbwyntio ar greu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith.
Ers ei sefydlu 5 mlynedd yn ôl mae Dyfodol i’r Iaith gweld llawer o’i gynigion yn cael eu derbyn, gan gynnwys:
- Sefydlu dwsin o Ganolfannau Cymraeg
- Sefydlu canolfan genedlaethol Cymraeg i Oedolion
- Rhoi lle i’r Gymraeg yn y ddeddf Cynllunio
- Sefydlu ail sianel radio
- £2 filiwn i hyrwyddo’r Gymraeg
Y peth nesaf mawr o bwys fydd gweld y llywodraeth yn sefydlu corff a fydd yn gyfrifol am arwain cynllunio iaith a hyrwyddo’r iaith. Dyma destun y papur gwyn y mae’r llywodraeth wedi’i baratoi. Rydyn ni’n gobeithio y caiff y corff hwn ei sefydlu erbyn 2020.
Y pwnc mawr dros yr ugain mlynedd nesaf yw cael mwy o siaradwyr Cymraeg, a’r un mor bwysig yw ei gwneud hi’n hawdd i bobl ddefnyddio’r iaith.
Fydd hyn ddim yn digwydd heb gynllunio gofalus, a gweithredu creadigol. Ddaw hyn ddim yn y drefn bresennol, lle mae newidiadau gwleidyddol yn gallu torri ar draws cynlluniau. A ddaw hi ddim tra bod cymaint o awdurdodau lleol a chyrff eraill yn llaesu dwylo.
I ddylanwadu ar y llywodraeth, fel corff lobio cyfrifol, mae ar Dyfodol i’r Iaith angen cefnogwyr, a bydd denu cefnogwyr ac aelodau, wrth gwrs, yn nod arall i’r cyfarfod.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio cadarn a chreadigol.