TARO’R CYDBWYSEDD: YMATEB DYFODOL I RAGLEN Y LLYWODRAETH AR GYFER Y GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu Rhaglen y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg. Credai’r mudiad fod y Rhaglen hon, a’r Comisiwn newydd gaiff ei sefydlu yn ei sgil, yn adeiladu ar brofiadau’r gorffennol drwy barhau i roi sylw i reoleiddio, ond gyda mwy o bwyslais nag o’r blaen ar hyrwyddo’r iaith.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y Mudiad:

“Mae yma lawer i’w groesawu. Mae Dyfodol i’r Iaith wedi bod yn pwyso o’r cychwyn am well cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn gadarnhaol, a chredwn fod angen buddsoddi mewn strwythurau a pholisïau sy’n cyflawni hyn. Mae angen gweithio i gynyddu sgiliau ieithyddol, yn ogystal â’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd o fywyd dydd-i-ddydd; y cartref, y gweithle, a’r gymuned. Mae’n rhaid ehangu ein gorwelion, ac mae Rhaglen o’r fath, sy’n cydnabod pwysigrwydd addysg ac sy’n seiliedig ar egwyddorion cynllunio ieithyddol, yn gam sylweddol i’r cyfeiriad iawn.”

Rhybuddiodd, fodd bynnag, bod llwyddiant y Rhaglen a’r Comisiwn newydd yn ddibynnol ar fuddsoddiad ac ymrwymiad:

“Mae’r Rhaglen hon yn un uchelgeisiol o safbwynt twf y Gymraeg – a da hynny, wrth gwrs – ond bydd rhaid sicrhau ymrwymiad hir dymor ac adnoddau digonol er mwyn ei gwireddu.”

DYFODOL Y GYMRAEG YN EI CHADARNLEOEDD: AI ‘ARFOR’ YDI’R ATEB?

Gyda Chyfrifiadau diweddar yn dangos y Gymraeg yn colli tir yn ei chadarnleoedd, allfudo ac ymfudo’n newid demograffeg cymunedau gwledig, ac ansicrwydd Brexit o’n blaenau, beth yw dyfodol y Fro Gymraeg? Dyma fydd y cwestiwn bydd yn cael ei ofyn yng Nghyfarfod Cyhoeddus Dyfodol i’r Iaith a gynhelir yn y Galeri, Caernarfon fore Sadwrn nesaf, Mai 26ain am 11.

Yn aml iawn, mae cwestiynau dyrys fel hyn yn galw am atebion radical, ac un ateb a awgrymwyd eisoes yw, ‘Arfor’, sef Awdurdod rhanbarthol newydd ar gyfer y gogledd a’r gorllewin (Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin). Awdurdod fyddai’n cynrychioli siroedd sy’n wynebu’r un heriau o safbwynt y Gymraeg, yr economi a diwylliant; ac a fyddai’n gallu gweithio’n strategol er budd ffyniant y rhanbarth a’r iaith Gymraeg.

Gydag ail-strwythuro llywodraethol ar yr agenda drachefn, mae’n amserol i ni groesawu Adam Price atom i drafod ei weledigaeth ar gyfer cynllun Arfor.

Ai Arfor ydi’r ateb? Dewch i’r Galeri ddydd Sadwrn nesaf i glywed, holi, a dod i’ch casgliadau. Croeso cynnes iawn i bawb

 

5ed ADRODDIAD Y DU AR WEITHREDU SIARTER EWROP AR GYFER IEITHOEDD RHANBARTHOL NEU LEIAFRIFOL

Yn ddiweddar, gwahoddwyd Dyfodol i’r Iaith gyfrannu sylwadau ar 5ed adroddiad y DU ar weithredu Siarter Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol i gyfarfod o Arbenigwyr y Siarter. Dyma ein cyfraniad:

 Cyd-Destun Polisi

 Mae Dyfodol i’r Iaith o’r farn os bydd i’r Gymraeg ffynnu yng Nghymru, yna mae’n rhaid rhoi mwy o bwyslais ar ei hyrwyddo, a chreu mwy o gyfleoedd i’w defnyddio yn y cartref, y gymuned a’r gweithle. Credwn ei bod yn amser i ehangu polisi’r iaith Gymraeg tu hwnt i reolaethu, a chyfarch gwledigaeth fwy uchelgeisiol a chynhwysol sy’n anelu at dwf yn y nifer sy’n gallu’r iaith, a chreu mwy o gyfleoedd i’w defnyddio. Yn y cyd-destun hwn, mae darpariaethau deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol i ystyried materion ieithyddol mewn perthynas â chynllunio gwlad a thref i’w croesawu, ond ymddengys fod Nodyn Cyngor Technegol y Llywodraeth ar yr un mater yn gwyro o iaith eglur y ddeddfwriaeth.

Croesawn egwyddorion Cymraeg 2050 y Llywodraeth fel cam cyntaf tuag at daro’r cydbwysedd addas rhwng rheoleiddio a hyrwyddo. Credwn fod sefydlu corff hyd-braich i hyrwyddo cynghori a chydlynu polisi ac ymarfer mewn perthynas â’r iaith, yn unol ag egwyddorion cydnabyddedig cynllunio iaith yn greiddiol i lwyddiant y strategaeth. Byddai’r corff hwn yn gwbl gydnaws â darpariaeth y Siarter, a amlinellir yn Erthygl 7, para.4; ‘ Fe’u hanogir [y Cyfranogwyr] i sefydlu cyrff, os oes angen, ar gyfer cynghori’r awdurdodau ar bob mater yn ymwneud ag ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol.’ (ein italaleiddio).

Addysg

Cydnabyddwn ddwysder y Llywodraeth wrth ystyried addysg cyfrwng Cymraeg ar bob lefel fel yr adroddwyd yn adroddiad cyfnodol diweddaraf y DU. Ym maes addysg fodd bynnag, credwn fod angen hawl statudol i addysg cyfrwng Cymraeg ar lefel cynradd ac uwchwradd, gan nad yw’r galw cynyddol yn cael ei ddiwallu, ac mae rhai awdurdodau addysg lleol yn llaesu dwylo. O ystyried y lefel uchel o gadarnhad a roddir gan y DU i addysg cyfrwng Cymraeg dan y Siarter, nid yw hwn yn alwad afresymol er mwyn sicrhau cydymffurfiad ag ymgymeriadau Erthygl 8.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mewn perthynas â’r maes hwn, tra ymddengys y bu cynnydd mewn ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iaith fel elfen o driniaeth a gwasanaeth; eto, pryderwn ynglŷn â’r diffyg staff rheng flaen sy’n gallu ymwneud â chleifion a chleientiaid mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys cadarnleoedd traddodiadol yr iaith.

Cyfryngau

Croesawn sefydlu ail sianel radio cyfrwng Cymraeg gan y BBC, ond erys pryderon ynglŷn â thoriadau llwm i gyllid y Llywodraeth ar gyfer S4C. Wrth gydnabod y bydd trefniadau’r Siarter Frenhinol newydd, ar lefel arwynebol beth bynnag. yn caniatáu cyllid gweddol i S4C, bydd y sianel yn wynebu heriau sylweddol wrth ddiwallu anghenion amrywiol siaradwyr Cymraeg mewn hinsawdd gyfnewidiol, ac o fewn cyllid sydd yn y pendraw’n llai.

Sylwadau Ychwanegol

Ni cheir gyfeiriad yn adroddiad y DU at y tueddiad cythryblus, yn dilyn Brexit, o gynnydd yn yr ymosodiadau ar ieithoedd lleiafrifol (boed hynny’r Gymraeg, Gaeleg yr Alban, neu Wyddeleg). Gwelwyd yr ymosodiadau hyn yng nghyd-destun cysylltiadau cymdeithasol a’r cyfryngau cymdeithasol; yn ogystal, ac yn frawychus, yn y cyfryngau prif lif a chenedlaethol. Yn amlach na pheidio, unigolion a mudiadau megis Dyfodol sy’n gorfod herio’r ymosodiadau hyn.

Er, yn achos y Gymraeg, bod prosesau Comisiynydd y Gymraeg yn gwarchod hawliau i ddefnyddio’r iaith, maent yn drwsgl a hirfaith, ac yn aml yn anaddas mewn sawl achos o’r math. Mae angen herio’r ymosodiadau hyn ar ieithoedd lleiafrifol gyda neges ddigyfaddawd o gydraddoldeb a pharch.

Ceir darpariaeth ar gyfer hyn yn Erthygl 7 para.3 o’r Siarter, sy’n datgan: ‘Mae’r Cyfranogwyr yn ymrwymo i hyrwyddo, drwy fesurau priodol, cyd-ddealltwriaeth rhwng pob grŵp ieithyddol yn y wlad ac yn enwedig cynnwys parch, dealltwriaeth a goddefgarwch tuag at ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol ymhlith nodau addysg a hyfforddiant a ddarperir yn eu gwledydd ac annog y cyfryngau torfol i anelu at yr un nod.’

Byddwn felly’n ail adrodd ein galw am gorff hyd-braich, gyda chylch gorchwyl hollgynhwysol, ac i’r corff hwn, yn y lle cyntaf, lunio ymgyrch eang a chenedlaethol i godi ymwybyddiaeth iaith.

Ni ellir fodd bynnag fynd i’r afael â stigmateiddio ac ymosod ar ieithoedd lleiafrifol ar lefel Cymru’n unig. Rhaid i’r broses o hyrwyddo goddefgarwch a pharch dreiddio drwy holl gymdeithas y DU. Mae’n resyn nodi yr ymddengys nad yw adroddiad diweddaraf y DU yn cynnwys llawer o fewnbwn gan Lywodraeth y DU (gyda’r eithriad o adran ar y Gernyweg). Ymddengys ei fod yn llwyr seiliedig ar gyflwyniadau gan weinyddiaethau datganoledig Cymru a’r Alban, a llywodraeth Manaw ynglŷn â safle’r ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol a gysylltir â’r tiriogaethau rheiny. Deallwn fod Erthygl 7.3 yn cyfeirio at hyrwyddo dealltwriaeth rhwng holl grwpiau ieithyddol y Wladwriaeth, ac nid yn unig o fewn y tiriogaethau ble siarader yr ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn draddodiadol, a bod gofynion erthygl 7.3 hefyd yn gymwys ar lefel y Wladwriaeth. Byddwn yn gofyn yn barchus i’r Pwyllgor Arbenigwyr holi awdurdodau’r DU pa gamau maent yn eu cymryd i ddiwallu eu hymrwymiadau dan Erthygl 7.3, a ydynt yn ymwybodol o’r broblem a amlinellir, a beth y maent yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn.