GALW AM RAGLEN HYFFORDDIANT IAITH I ATHRAWON

Mae Dyfodol yr Iaith yn galw am fuddsoddiad sylweddol mewn rhaglen hyfforddiant iaith i athrawon.

Daw’r alwad yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog addysg, Kirsty Williams, y bydd Cymraeg ail iaith yn cael ei dileu.

Medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog, ond mae’n rhaid cael rhaglen ddwys o hyfforddiant iaith i filoedd o athrawon.”

“Ar hyn o bryd, ysgolion Cymraeg sy’n dysgu pynciau trwy’r Gymraeg yw’r unig fodel sy’n cyflwyno’r Gymraeg a’r Saesneg yn llwyddiannus i bob disgybl.”

“Dyw dysgu’r Gymraeg fel pwnc ddim yn ddigon – mae’n rhaid dysgu pynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.  Fydd ysgolion Cymru ddim yn gallu gwneud hyn heb fod cynnydd mawr yn nifer yr athrawon Cymraeg sydd â chymhwyster yn yr iaith, a chynnydd mawr yn nifer yr athrawon pwnc sy’n gallu dysg trwy gyfrwng yr iaith.”

“Mae’n rhaid i ni ddilyn patrwm Gwlad y Basgiaid, lle rhoddwyd buddsoddiad enfawr i gael athrawon â sgiliau ieithyddol digonol.  Heb wneud hyn, mae perygl y bydd gobeithion y Gweinidog yn mynd i’r gwellt.”

“Rydyn ni’n galw, felly, ar y Llywodraeth i gyflwyno rhaglen helaeth o hyfforddiant iaith i filoedd o athrawon.”

ANGEN CANLLAWIAU CADARN I REOLI DEFNYDD O’R SAESNEG AR S4C

Gyda defnydd cynyddol o’r Saesneg i’w glywed ar raglenni S4C, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am ganllawiau cadarn i sicrhau mai’r Gymraeg a glywir wrth wrando ar y sianel.

Dywedodd Eifion Lloyd Jones, Llefarydd Dyfodol ar ddarlledu:

“Mae’n bryder mawr gennym glywed cymaint o Saesneg ar raglenni. Sianel Gymraeg, nid dwyieithog yw S4C, sy’n codi’r cwestiwn a fyddai BBC Wales, dyweder, yn fodlon bod yn sianel ddwyieithog. Dymunwn i S4C roi cartref diogel i’r Gymraeg lle y mae hi’n gallu ffynnu fel cyfrwng naturiol a diofyn. Mae presenoldeb cynyddol y Saesneg mewn rhaglenni yn tanseilio ei chenadwri fel Sianel Gymraeg ac yn rhwystr i fynegiant a chynrychiolaeth yr iaith.

Yn amlwg, ceir ambell eithriad prin lle bo’r Saesneg yn anorfod – ar y Newyddion, er enghraifft, lle gall pwysau amser rwystro trosleisio – ond dim ond os yw’r cyfweliad yn ddigon pwysig i’w gynnwys yn uniongyrchol yn hytrach na’i aralleirio yn Gymraeg.

Syndod y sefyllfa, fodd bynnag, yw nad yw’n ymddangos fod polisi na chanllaw clir ynglŷn â’r defnydd o Saesneg mewn rhaglenni, hyd y deallwn o’n trafodaethau gyda’r penaethiaid. Credwn fod hwn yn ddiffyg sylfaenol, a byddwn yn parhau i drafod a phwyso ar y Sianel i lunio trefn ymarferol er mwyn diogelu S4C fel un o beuoedd pwysicaf y Gymraeg.”

 

DYFODOL YN GALW AM AMDDIFFYN GWASANAETH AC EGWYDDOR CANOLFANNAU IAITH GWYNEDD

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan gofid ynglŷn â thoriadau posib i Ganolfannau Iaith Gwynedd. Dyma’r gwasanaeth ar gyfer disgyblion Cynradd newydd i’r sir sy’n eu trochi yn y Gymraeg er mwyn eu paratoi ar gyfer addysg Gymraeg a hwyluso eu cyflwyniad i fywyd cymunedol Cymraeg.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Byddai unrhyw gwtogi ar y gwasanaeth amhrisiadwy hwn yn ffwlbri noeth. Mae’r Canolfannau hyn eisoes wedi profi eu gwerth a’u llwyddiant. Maent hefyd yn crisialu egwyddor sy’n greiddiol i lwyddiant Strategaeth y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef bod rhaid i’r Gymraeg fod yn hygyrch i bawb os yw am ffynnu.

Byddwn yn galw felly ar i’r Llywodraeth a Chyngor Gwynedd gydnabod a chynnal  gwaith aruthrol y Canolfannau hyn; eu dyrchafu’n wir, fel esiampl ddisglair o’r hyn y mae modd ac y dylid ei gyflawni er budd y Gymraeg.”