Diolch Castell Howell

Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Castell Howell, Cross Hands, Sir Gâr, am eu nawdd hael o £250 tuag at ein noson ‘Tri Gog a Hwntw’ a gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi’r Cwins yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar.

Cafwyd noson hyfryd o ganu a hwyl yng nghwmni’r criw o Lanuwchllyn. Diolch yn fawr iddyn nhw am ddod lawr yr holl ffordd i Sir Gâr a diolch hefyd i bawb ddaeth draw i’r noson i gefnogi a mwynhau. Bu’n gyfle i ni godi arian a roi sylw i’n gwaith wrth fwynhau. Diolch i bawb.

Bydd y Gymraeg ar drugaredd ffolinebau gwleidyddion a gweision sifil

“Trychineb ieithyddol” yw penderfyniad y Llywodraeth i beidio bwrw ymlaen i sefydlu Corff Cynllunio Iaith, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.

Bu Dyfodol yr Iaith yn galw am gorff o’r fath i arwain cynllunio ieithyddol yng Nghymru, gan ddilyn egwyddorion cynllunio iaith sydd wedi’u derbyn ledled y byd.

“Mae’r Llywodraeth wedi gwastraffu saith mlynedd trwy beidio hyrwyddo’r iaith yn iawn,” medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “ond maen nhw’n awr yn gwrthod mynd y cam nesaf angenrheidiol, sef cynllunio dyfodol y Gymraeg yn ôl egwyddorion cydnabyddedig.”

“Mae angen cynlluniau ar frys i gryfhau’r Gymraeg mewn cartrefi, ac i adeiladu cymunedau Cymraeg, ar lawr gwlad ac ym myd technoleg, ond does neb yn cymryd cyfrifoldeb am y darlun cyflawn.”

“Mae syniadau gwallgo’r Llywodraeth, fel gwneud y Saesneg yn orfodol mewn cylchoedd chwarae Cymraeg, yn profi mor ddi-glem mae’r Llywodraeth o ran cynllunio iaith.”

“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i greu corff mewnol i arwain ar gynllunio iaith, os nad yw’n fodlon creu corff hyd braich.  Mae’r angen am gael arbenigwyr ieithyddol, yn lle gwleidyddion, yn amlwg

 

Y CWRICWLWM NEWYDD YN ANELU SAETH AT GALON ADDYSG GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ymateb yn chwyrn i gymal ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth ar Gwricwlwm Newydd i Gymru. Dywed y cymal bod rhaid i addysg a gyllidir, gan gynnwys Cylchoedd Meithrin, addysgu Saesneg fel elfen orfodol o’r cwricwlwm. Mae hyn yn tynnu’n groes a’r drefn bresennol, lle caniateir i’r Saesneg cael ei gyflwyno’n raddol o 7 oed ymlaen.

 

“Mae’r cymal hwn yn anelu saeth at galon addysg Gymraeg,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad. “Mae’r cyfnod sylfaenol yn dyngedfennol o safbwynt dysgu. Rhaid mynnu ar ofod arbennig i’r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn os ydym am i’n plant ddysgu a dod yn rhugl yn y Gymraeg. Ni allaf feddwl am unrhyw gynsail i’r fath gynnig; yn wir, mae’r Papur Gwyn yn cydnabod ei hun nad yw’r Saesneg yn bwnc sydd angen y fath statws statudol.”

 

“Ffolineb arall, wrth gwrs, yw bod y Llywodraeth yn dadwneud yr ymdrechion i gefnogi’r Gymraeg ac yn tanseilio ei nod o greu miliwn o siaradwyr. Ni allwn dderbyn y fath ergyd hurt. Mae’n gam digyffelyb i’r gorffennol, ac yn tanseilio rhai o egwyddorion sylfaenol addysg Gymraeg.”