NEGES I’R PRIF WEINIDOG: CYNLLUNIO IEITHYDDOL YN HANFODOL I DWF Y GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu llythyr i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn mynegi eu pryderon ynglŷn â dyfodol polisi cyhoeddus y Gymraeg.

Bu diddymu Bil y Gymraeg yn gam wrthdroadol, ac yn hytrach nag anelu at ymateb arloesol i anghenion yr iaith, y perygl bellach yw cadw’r pwyslais ar reoleiddio a hawliau’n unig. Mae Dyfodol yn grediniol bod angen ymateb ehangach a fframwaith strategol cadarn os am greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Trefn fyddo’n rhoi lle dyledus i’r Gymraeg ar draws yr holl feysydd polisi, gan fynd i’r afael ag oblygiadau cymdeithasol a chymunedol ei dysgu a’i defnyddio.

Mae’r mudiad yn galw am i’r Llywodraeth fabwysiadu egwyddorion Cynllunio Ieithyddol fyddai’n diwallu anghenion y Gymraeg ar draws ystod o feysydd allweddol, megis: creu aelwydydd Cymraeg, Cymreigio’r gweithle, gwarchod a chryfhau ei chadarnleoedd, yn ogystal â’i datblygu fel cyfrwng cymdeithasol naturiol.

Yn absenoldeb y math o gorff eangfrydig a addawyd ym Mil y Gymraeg, mae Dyfodol felly’n galw am sefydlu Asiantaeth i’r Gymraeg o fewn y Llywodraeth i roi arweiniad strategol a sicrhau cysondeb polisi. Byddai’r mudiad yn dymuno i Gomisiynydd y Gymraeg barhau i fod yn gyfrifol am ddatblygu a rheoleiddio’r safonau iaith, yn ogystal â gweithredu fel Ymgynghorai Statudol i’r Gymraeg ym maes cynllunio gwlad a thref.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Rydym yn awyddus iawn i agor ac ehangu’r drafodaeth allweddol hon, a gwneud hynny’n rhagweithiol a chadarnhaol. Mae’n gyfnod tyngedfennol i’r Gymraeg, ac ni allwn fforddio golli’r cyfle i fabwysiadu’r egwyddorion a strwythurau sy’n hanfodol os ydym am weld yr iaith yn ffynnu.”

DYFODOL I’R IAITH YN GALW AM SYLW HANFODOL I GYNLLUNIO IEITHYDDOL

Mae Dyfodol i’r Iaith yn edrych ymlaen at drafod gyda’r Llywodraeth y newidiadau posibl  yn rôl y Comisiynydd iaith a’r posibiliadau ar gyfer sefydlu Asiantaeth Iaith fewnol yn rhan o’r Llywodraeth.

Mae Dyfodol yr Iaith am weld y Llywodraeth, o dan ba drefn bynnag, yn rhoi blaenoriaeth i bedwar maes sylfaenol cynllunio iaith:

* y cartref: cynyddu nifer y cartrefi Cymraeg o 7% i 10% o fewn 5 mlynedd gyda gofal meithrin cyfrwng Cymraeg yn ategu hyn fel rhan greiddiol o’r gymuned leol

* y gymuned: creu rhaglen o hyrwyddo cymunedau Cymraeg, gan gynnwys creu gwahanol fodelau o Ganolfannau Cymraeg

* Cymreigio’r gweithle: creu cwotâu at gyfer cynyddu nifer gweithwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn llywodraeth leol, i gychwyn.
* Addysg Gymraeg: sicrhau twf cyflym addysg Gymraeg

Mae Dyfodol yr Iaith am weld £5 miliwn cychwynnol yn cael ei roi i ddatblygu polisïau a gweithgareddau ym mhob un o’r meysydd hyn.

Mae Dyfodol yr Iaith hefyd am weld cyrff sydd eisoes wedi cael dylanwad, fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Genedlaethol Cymraeg i Oedolion yn parhau i allu gweithredu’n greadigol ac effeithiol.

Diolch Castell Howell

Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Castell Howell, Cross Hands, Sir Gâr, am eu nawdd hael o £250 tuag at ein noson ‘Tri Gog a Hwntw’ a gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi’r Cwins yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar.

Cafwyd noson hyfryd o ganu a hwyl yng nghwmni’r criw o Lanuwchllyn. Diolch yn fawr iddyn nhw am ddod lawr yr holl ffordd i Sir Gâr a diolch hefyd i bawb ddaeth draw i’r noson i gefnogi a mwynhau. Bu’n gyfle i ni godi arian a roi sylw i’n gwaith wrth fwynhau. Diolch i bawb.