GALW AM FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL SY’N CYFRANNU AT FFYNIANT Y GYMRAEG

Yn ystod yr haf eleni, disgwylir cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040. Dyma’r ddogfen fydd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer cynllunio gwlad a thref drwy Gymru gyfan, ac yn ôl y mudiad Dyfodol i’r Iaith, caiff ddylanwad sylweddol ar yr iaith Gymraeg.

Dywed Wyn Thomas, aelod o Fwrdd Dyfodol:

“Y Fframwaith hwn fydd y glasbrint ar gyfer cynllunio dros fwyafrif cyfnod Strategaeth y Gymraeg, ac felly byddai rhywun yn disgwyl iddo gyfrannu’n rhagweithiol tuag at y nod o greu miliwn o siaradwyr y Gymraeg. Yn anffodus, mae’r ddogfen ar ei ffurf bresennol yn colli sawl cyfle i wneud hynny.

Ni rodda’r Fframwaith unrhyw ystyriaeth arbennig i gadarnleoedd y Gymraeg, er enghraifft, ac yn wahanol i faterion amgylcheddol, nid oes gan y Gymraeg Ymgynghorai Statudol i warchod ei buddiannau. Credwn y dylai Comisiynydd y Gymraeg dderbyn y cefnogaeth angenrheidiol i ymgymryd a’r gwaith pwysig ac arbenigol hwn.

Wrth i’r Senedd drafod y Fframwaith dros y misoedd nesaf, ofnwn y gwnaiff y diffyg gwarchodaeth ac arbenigedd hyn arwain at danseilio’r ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg ac i’r cyfleoedd i’w chryfhau o fewn y gyfundrefn gynllunio. Mae’n argoeli’n ddrwg nad yw’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn barod i’n cyfarfod ein mwyn trafod ein sylwadau.

Ofnwn y gwnaiff y gwaith craffu manwl sy’n angenrheidiol o safbwynt y Gymraeg ddisgyn ar ysgwyddau nifer fach o Aelodau Cynulliad ac mae’r berthynas rhwng cynllunio gwlad a thref a’r Gymraeg yn rhy bwysig i hynny – mae’n fater o bwys strategol i’r genedl gyfan.

Mae Dyfodol wedi ysgrifennu at bob Aelod o’r Cynulliad i bwyso’r mater, codi ymwybyddiaeth ac amlygu’r egwyddor sylfaenol o drefn cynllunio sy’n ategu ymrwymiad y Llywodraeth i’r Gymraeg .”

 

GALW AM GYNYDDU ARIAN I DDYSGU’R GYMRAEG YN Y GYMUNED

Medd Ruth Richards, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith:

“Rydym yn bryderus yn dilyn sylwadau Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn y Senedd, 28 Ionawr.

“Mae Eluned Morgan fel pe bai’n cwestiynu gwerth dysgu’r Gymraeg yn gymunedol i ddysgwyr. Mae angen dathlu bod 12,680 yn dysgu’r Gymraeg yn gymunedol o dan arweiniad tiwtoriaid proffesiynol ledled Cymru.

“Mae angen cryfhau darpariaeth gymunedol dysgu’r Gymraeg, a byddai’n dda gweld y Llywodraeth yn buddsoddi yn y maes yma fel y gwna Gwlad y Basgiaid.

“O ran cynllunio tymor hir, mae angen treblu’r gwariant ar ddysgu’r Gymraeg yn y gymuned ac yn y gweithle, ond am y tro, pwyswn ar y Llywodraeth i gadw a chynyddu’r gwariant yn nhermau arian real.”

Dywedodd Eluned Morgan yn y Senedd, 28 Ionawr 2020:

“Roeddwn i eisiau edrych ar Gymraeg i oedolion yn fanwl—maen nhw’n cael £13 miliwn ac maen nhw’n dysgu tua 12,000 o bobl. Dwi jest eisiau cael golwg ar hynny, ac mae’n cymryd eithaf lot o arian y gyllideb; dwi eisiau sicrhau eu bod nhw’n gwario’r arian yna yn gywir.”

DYSGU HANES CYMRU: Y LLYWODRAETH YN COLLI CYFLE

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi eu siom o ddeall bod y Llywodraeth wedi gwrthod un o argymhellion y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynglŷn â dysgu hanes Cymru fel rhan o’r Cwricwlwm newydd.

Dywed Wyn Thomas ar ran y mudiad:

“Mae Dyfodol i’r Iaith yn gresynu fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ddysgu corff cyffredin o wybodaeth i holl ddisgyblion Cymru sydd yn astudio hanes. Collwyd cyfle di-gost i danlinellu lle creiddiol yr iaith Gymraeg yn hanes Cymru.

“Yn ei dro, wrth gwrs, byddai sicrhau ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg wedi bod yn gyfraniad pwysig tuag at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”