Y testun trafod diweddaraf yn ein hymgynghoriad ar Gynllunio Adferiad y Gymraeg yw HYRWYDDO DEFNYDD Y GYMRAEG.
Fel o’r blaen, byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni. Mae croeso i chwi ddefnyddio’r templed cwestiynau isod neu anfon eich sylwadau atom ar unrhyw ffurf arall.
Isod, ceir crynodeb o ofynion Dyfodol ynglŷn â chreu siaradwyr drwy ddatblygu’r gweithlu. Os ydych am weld y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn ei chrynswth, mae copi ar gael i’w darllen ar ein gwefan, dyfodol.net
Diolch drachefn i bawb sydd wedi ymateb hyd yma. Edrychwn ymlaen at glywed gennych – cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau:
neu ffoniwch 01248 811798
PWNC TRAFOD 5: HYRWYDDO DEFNYDD Y GYMRAEG
Dyma farn Dyfodol:
Fel y gwyddon ni i gyd, un peth yw ‘gwybod’ Cymraeg a pheth arall yw ei defnyddio. Mae tuedd disgyblion ysgolion Cymraeg i siarad Saesneg yn ddihareb, ond does dim cymaint o sylw yn cael ei roi i’r Aelod Cynulliad rhugl ei Gymraeg sy’n dewis siarad Saesneg yn ein Senedd genedlaethol, er bod pob cyfleustra iddi/o i’w defnyddio, neu’n wir y tyst Cymraeg o flaen pwyllgor sy’n dewis defnyddio Saesneg. Yr hyn y mae hyn yn ei ddangos yw’r angen am newid agwedd, newid diwylliant, magu hyder, balchder a chadernid.
Mae’n amlwg felly bod rhaid mynd ati’n egnïol a deallus i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.
Dadleuwyd bod gwreiddio defnydd o’r iaith yn y blynyddoedd cynnar yn allweddol. Ond nid yw hynny’n ddigon. Beth felly yw’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad ieithyddol? Dyma rai:
- Presenoldeb yr iaith yn yr amgylchedd cymdeithasol, yn weledol ac yn glywedol.
- Bod gwasanaeth yn Gymraeg ar gael, yn cael ei gynnig, yn rhwydd i’r cwsmer, ar lafar yn enwedig, mewn siop a chaffi a thafarn ac ati. Cam rhwydd, rhad ond hynod effeithiol fyddai i bob siaradydd Cymraeg sy’n rhoi gwasanaeth wisgo bathodyn pwrpasol.
Ein barn ni yw y dylai Comisiynydd y Gymraeg a phroses y Safonau roi pwyslais arbennig ar y ddwy agwedd yna.
Maes arall tra phwysig yw datblygu’r Gymraeg yn y gweithle. Mae angen datblygu’r gweithlu Cymraeg ond hefyd weithleoedd Cymraeg – gan ddechrau gydag awdurdodau cyhoeddus yr ardaloedd Cymreiciaf.
Pwysicach fyth, fodd bynnag, yw amrediad ac ansawdd y gweithgareddau a’r profiadau o bob math sydd ar gael yn Gymraeg.
Yng ngwreiddiau’r gymdeithas y mae cyflawni llawer o’r gwaith yma, drwy rwydwaith o Ganolfannau Iaith yn cydweithio’n agos â’r Mentrau, yr ysgolion Cymraeg, Mudiad Meithrin a mudiadau eraill. Y nod fydd creu rhwydwaith grymus, egnïol, creadigol, byrlymus sy’n meithrin hoen a hyder y gymuned Gymraeg ac yn creu tynfa tuag ati.
YDYCH CHI’N CYTUNO Â NI? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU AR SUT I HYRWYDDO DEFNYDD Y GYMRAEG, UN AI’N GYFFREDINOL NEU MEWN UNRHYW FAES NEU SECTOR PENODOL?