GALW AM YMGYRCH I GYSYLLTU CHWARAEON A’R GYMRAEG Wrth longyfarch Tîm Cymru ar eu campau yng Ngemau’r Gymanwlad, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am ymgyrch i hyrwyddo’r Gymraeg ym myd chwaraeon. Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “mae’n wych clywed rhai o fabolgampwyr Cymru’n siarad Cymraeg ar y radio a’r teledu, gan ddangos fod y Gymraeg yn iaith fyw yn y byd chwaraeon.” “Mae’r Urdd trwy drefnu Chwaraeon Cymru wedi rhoi arweiniad cadarn wrth ddod â’r iaith i ganol byd chwaraeon. “Yr angen yn awr yw gwneud yn siŵr bod chwaraeon, y mabolgampau a gweithgareddau nofio a hamdden ar gael trwy’r Gymraeg ar lawr gwlad ym mhob sir yng Nghymru. “Byddai’n dda i’r Safonau Iaith a gaiff eu trafod gan y Llywodraeth ym mis Tachwedd osod targedau i Awdurdodau Lleol o ran cyflwyno gweithgareddau Cymraeg i bobl ifanc. “Mae angen hefyd am ymgyrch hyrwyddo’r iaith ymysg clybiau chwaraeon. Mae rhai esiamplau gwych, fel clwb rygbi Crymych, sy’n cynnal 11 o dimau rygbi trwy gyfrwng y Gymraeg. “Mae rhai sefydliadau cenedlaethol, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cynnig gwasanaeth dwyieithog o ran gwefan a chyhoeddiadau, ond mae Undeb Rygbi Cymru’n cynnig delwedd Saesneg iawn. “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y Comisiynydd Iaith a’r Prif Weinidog yn cydweithio i greu rhaglen gynhwysfawr i hyrwyddo’r Gymraeg ym myd chwaraeon dros y blynyddoedd nesaf.”
Archifau Categori: Cynllunio Ieithyddol
Ymateb i Bwrw Mlaen
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi cyflwyno ymateb cynhwysfawr i ddogfen bolisi Llywodraeth Cymru, Bwrw Mlaen, sy’n adeiladu ar strategaeth “Iaith fyw: iaith byw.” Gallwch ddarllen y ddogfen yma Ymateb Dyfodol i Bwrw Mlaen
Llythyr i’r Pwyllgor Deseibau
Dyma lythyr anfonwyd gan Gadeirydd Dyfodol i’r Iaith i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru parthed ein deiseb yn cefnogi’r Mentrau Iaith
Annwyl aelodau’r Pwyllgor Deisebau,
Rydym yn falch o wybod y byddwch yn ystyried y ddeiseb Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith yn eich cyfarfod nesaf ar 29 Ebrill 2014, ac mawr obeithiwn y byddwch yn gallu penderfynu gweithredu ymhellach arni yn dilyn y cyfarfod hwnnw.
Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol sy’n gweithredu er budd yr iaith Gymraeg yn lleol ac maent yn darparu ystod eang o weithgareddau a phrosiectau cyfrwng Cymraeg i bobl o bob oedran a chefndir yng nghymunedau Cymru. Mae adroddiad Prifysgol Caerdydd, a gomisiynwyd gan Llywodraeth Cymru, yn datgan y dylai gwaith y Mentrau barhau a datblygu. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad yw’r Mentrau yn derbyn cyllid craidd digonol i weithredu i’w llawn botensial. Gallwch ddarllen yr adroddiad yma http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/130130-adroddiad-y-mentrau-cy.pdf
Penderfynodd Dyfodol i’r Iaith gyflwyno’r ddeiseb i gefnogi’r Mentrau yn dilyn yr arolwg o’u gwaith er mwyn galw ar y Cynulliad i ofyn i Llywodraeth Cymru gryfhau ei chefnogaeth i’r Mentrau, ac ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol yn dilyn yr arolwg hwnnw.
Roeddem yn falch iawn felly i glywed y Prif Weinidog yn datgan ei gefnogaeth i’r Mentrau Iaith mewn sawl datganiad yn ddiweddar, ac ar lawr y Cynulliad, yn dweud ei fod yn ystyried y Mentrau yn “offerynnau pwerus a gwerthfawr”, a’i fod am “sicrhau bod eu gwaith yn parhau yn y dyfodol.” Rydym yn credu nawr ei bod yn amserol bod y Prif Weinidog a’r Llywodraeth yn gweithredu er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i ddyfodol y Mentrau a’r iaith Gymraeg trwy fuddsoddi ynddynt.
Fe fyddwn ni’n falch iawn i drafod ymhellach gyda chi, ac fe fyddwn yn hapus iawn i ddod i un o’ch cyfarfodydd yn y dyfodol agos er mwyn trafod sut medrwch chi fel Pwyllgor ein cynorthwyo i gefnogi’r Mentrau Iaith er budd y Gymraeg ar draws Cymru.
Pob dymuniad da,
Heini Gruffudd