Dyma ymateb Dyfodol i’r Iaith i ymgynghoriad y Llywodraeth ar y safonau iaith draft – YMATEB I YMGYNGHORIAD SAFONAU
Archifau Categori: Cynllunio Ieithyddol
AD-DREFNU LLYWODRAETH LEOL YN GYFLE I’R GYMRAEG
Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio ad-drefnu i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gwaith. Dyna mae Dyfodol i’r Iaith am ei weld, wrth i awdurdodau lleol Cymru gyflwyno eu cynlluniau uno y mis hwn i’r Gweinidog Llywodraeth Leol.
Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’r ad-drefnu’n gyfle euraid i ehangu’r Gymraeg yn iaith gwaith. Mae Gwynedd wedi rhoi esiampl o sut i fynd ati, ac mae angen yn awr i gynghorau uno yn ôl eu cefndir ieithyddol.”
“Mae hyn yn golygu y bydd yn briodol bod Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr yn rhan o drefniant a fydd yn gwneud y Gymraeg yn iaith gwaith y rhan fwyaf o weithwyr yr awdurdodau lleol newydd yn eu hardal, o arfordir y de hyd at arfordir y gogledd.”
“Byddai hyn yn rhoi cyfle i filoedd o weithwyr Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol, a bydd gan hyn effaith gadarnhaol ar y defnydd o’r iaith gan bawb fydd yn delio â’r cynghorau hyn.”
Ychwanegodd, “dylai ehangu’r defnydd o’r Gymraeg fod yn un o’r prif flaenoriaethau yn yr ad-drefnu.”
DYFODOL YN CEFNOGI SEFYDLU AWDURDOD IAITH
Mae angen cael awdurdod iaith fydd yn arwain y gwaith o adfywio’r Gymraeg. Dyna honiad Dyfodol i’r Iaith yn dilyn galwad Gareth Jones am sefydlu corff o’r fath.
Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni ers yr haf wedi galw am gorff o’r fath. Daeth yn fwyfwy amlwg bod angen trefn newydd a fydd ar y naill law yn gwarchod y Gymraeg, fel y caiff yr amgylchedd ei gwarchod, ond trefn a fydd ar y llaw arall yn mapio dyfodol llewyrchus i’r iaith.”
“Er pob ewyllys da o du’r Llywodraeth, daeth yn amlwg bod penderfyniadau tameidiog yn cael eu gwneud, ac nad oes cyswllt yn aml rhyngddyn nhw. Mae angen polisïau ar draws adrannau’r Llywodraeth sy’n cysylltu â’i gilydd ac sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn greadigol.”
“Dyw trefniadaeth y Comisiynydd – er mor werthfawr yw hyn – nac ewyllys da gweision sifil ddim eto wedi gosod system sy’n gwneud gwahaniaeth i’r Gymraeg. Mae cael awdurdod iaith, wedi’i redeg gan arbenigwyr mewn cynllunio iaith, a gyda mwy o bwerau na hen Fwrdd yr Iaith, yn angenrheidiol.”
“Bydd gwaith yr Awdurdod yn ymwneud â chael y Gymraeg yn iaith gwaith awdurdodau lleol, gosod rhaglen twf uchelgeisiol i’r system addysg, hyrwyddo gweithgareddau pobl ifanc, a chryfhau Cymraeg i Oedolion ymysg materion eraill.”
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at argyhoeddi’r pleidiau gwleidyddol bod hyn yn fater o flaenoriaeth i’r Cynulliad ac i’r iaith.”