DYFODOL I’R IAITH YN CROESAWU MWY O GANOLFANNAU IAITH

Rhoddodd Dyfodol i’r Iaith groeso cynnes i ddatganiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y bydd £1.5 miliwn ar gael i sefydlu canolfannau Cymraeg ledled Cymru.

Ariannir prosiectau ym Môn, Caerdydd, Tregaron, Bangor, Aberteifi a Phontardawe.

Mae Dyfodol i’r Iaith o’r farn y bod canolfannau o’r math yn allweddol bwysig i adnewyddiad y Gymraeg. Dengys llwyddiant y canolfannau a sefydlwyd eisoes eu bod yn fodd i greu rhwydweithiau arloesol, anffurfiol a hwyliog i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“Ein gobaith yw gweld canolfannau’n cael eu sefydlu ledled y wlad, yn bwerdai i’r iaith. Daw y datganiad hwn â ni gam ymlaen at wireddu ein gweledigaeth. Gobeithiwn yn ogystal y bydd yn gam cyntaf tuag at strategaeth newydd ac ehangach i ddysgu Cymraeg i oedolion.”

Popeth Cymraeg yn Esiampl i Gymru

Mae angen rhwydwaith o ganolfannau dysgu Cymraeg i oedolion tebyg i rai Popeth Cymraeg.  Dyna alwad Dyfodol i’r Iaith, wrth i newidiadau yn nhrefn cyllido Cymraeg i Oedolion gael ei sefydlu. Mae Popeth Cymraeg wedi sefydlu canolfannau dysgu yn Ninbych, Llanrwst, Prestatyn a Bae Colwyn.

“Mae cael rhwydwaith o ganolfannau cymdeithasu a dysgu Cymraeg yn allweddol i roi cyfleoedd siarad ac i ddod â siaradwyr, dysgwyr a phobl ifanc at ei gilydd,” medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

Ychwanegodd, “Mae Ioan Talfryn a’i swyddogion wedi dangos dewrder a menter wrth sefydlu eu canolfannau.  Maen nhw wedi cael cefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych a’r Loteri Genedlaethol.  Maen nhw’n cynnig model ardderchog i’w efelychu ledled Cymru.”

Meddai, “Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd trefn newydd cyllido Cymraeg i Oedolion yn dal i roi’r un gefnogaeth i’r canolfannau hyn ag yn y gorffennol, gan gynnig patrwm o gydweithio creadigol.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £1.25 miliwn i sefydlu canolfannau i hyrwyddo’r Gymraeg, ac mae datblygiadau ar y gweill yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Wrecsam.

Meddai Mr Gruffudd, “Rydyn ni’n gobeithio hefyd y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda sefydliad Popeth Cymraeg, a gyda chanolfannau eraill sydd eisoes yn bod, fel Saith Seren Wrecsam, fel bod cydlynu call yn digwydd rhwng Llywodraeth ganol, Cymraeg i Oedolion, a’r canolfannau Cymraeg unigol.”

 

Dyfodol i’r Iaith yn croesawu gwelliant i’r Bil Cynllunio

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r gwelliant i’r Bil Cynllunio a gynigir gan William Powell ac a gefnogir gan Llyr Huws Griffiths a’r Gweinidog, Carl Sargeant.
Yn sgil y gwelliant, bydd rhaid i awdurdodau cynllunio dalu sylw i ystyriaethau yn ymwneud â defnyddio’r Gymraeg wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, lle bo hynny’n berthnasol i’r cais.  Mae hyn yn gam mawr ymlaen, ac fe ddylai roi diwedd ar yr ansicrwydd sydd wedi golygu methu ystyried yr effaith ar y Gymraeg o gwbl, rhag ofn nad oedd hynny’n gyfreithlon.

Cyflwynodd cynrychiolwyr Dyfodol, Meirion Davies ac Emyr Lewis ddadleuon polisi a chyfreithiol cryf dros welliant o’r math hwn gerbron y Pwyllgor Cynllunio, dadleuon a bwysleisiwyd yn eu cyfarfodydd gyda Charwyn Jones a swyddogion cynllunio’r Llywodraeth.

Testun llawenydd i Dyfodol yw bod gwleidyddion o bob plaid ac o bob rhan o Gymru wedi cefnogi’r gwelliant hwn.  Mae’n dangos bod cefnogaeth eang ar draws Cymru gyfan i’r angen i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae’r Gweinidog, a’r gwleidyddion oll, i’w llongyfarch am eu hymateb goleuedig i’r lobio.

Mae hi’n ofid serch hynny na welwyd y ffordd yn glir i fabwysiadu argymhellion eraill y Pwyllgor fyddai wedi adeiladu ymhellach ar y sylfaen y mae’r gwelliant yma wedi ei gosod.

Mae Dyfodol yn parhau i alw am gorff statudol, strategol, lled-braich oddi wrth y Llywodraeth, gyda’r cyfrifoldeb dros hyrwyddo’r Gymraeg a chynllunio er ei lles.