Cyflwyniadau, trafodaethau a cherddoriaeth – rhywbeth at ddant pawb – a chofiwch alw heibio’r stondin unrhyw bryd am groeso cynnes!
Archifau Categori: Cynllunio Ieithyddol
DYFODOL YN GALW AR Y GWEINIDOG I YMYRRYD I WARCHOD SWYDDI ADDYSG GYMRAEG
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw ar Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, i ymyrryd er mwyn gwarchod swyddi allweddol yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.
Mae Dyfodol ar ddeall bod y Brifysgol yn bwriadu cwtogi staff dwyieithog yr Ysgol. Byddai hyn yn ergyd i’r bwriad i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, a hynny mewn cyfnod allweddol, pan mae’r angen am athrawon sy’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn argyfyngus.
Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:
“Os ydym o ddifri ynglŷn â chreu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif, yna’n amlwg, mae hyfforddi athrawon cyfrwng Cymraeg ar draws holl bynciau’r cwricwlwm yn allweddol er mwyn cyrraedd y targed. Dylem gynyddu ac nid cwtogi’r ddarpariaeth. Gan fod y toriadau hyn yn tanseilio nod strategol y Llywodraeth, rydym wedi cysylltu â’r Gweinidog i ofyn iddi ymyrryd ar fyrder yn yr achos hwn.”
MILIWN O SIARDWYR – O DDIFRI’?: GALW AM ASIANTAETH CYNLLUNIO IEITHYDDOL BWERUS
Eluned Morgan, Adam Price a Cynog Dafis yn trafod Asiantaeth i’r Gymraeg yng Nghyfarfod Dyfodol i’r Iaith, Yr Egin, Mai 25ain, 2019.
Diolch i bawb ddaeth draw i’n cyfarfod cyhoeddus yn Yr Egin, Caerfyrddin bore Sadwrn, Mai 25ain. Da oedd gweld cymaint o gynulleidfa ar gyfer trafodaeth mor allweddol ac amserol, sef beth yw’r camau allweddol nesaf os ydym am wireddu’r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Roeddem yn falch iawn o groesawu Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg ac Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru i ymateb i’n safbwynt ni fel mudiad, a gynrychiolwyd gan Cynog Dafis. Carwn ddiolch hefyd i gadeirydd y cyfarfod, Dr Mererid Hopwood am sicrhau trafodaeth glir a chytbwys.
Fel y gwyddoch, rydym ni o’r farn y bod angen strwythurau grymus i gefnogi a chyflawni’r newid cyfeiriad sylfaenol tuag at gynnydd a thwf y Gymraeg. Dadl Cynog Dafis, ar ran Dyfodol, oedd bod bellach angen Asiantaeth Gynllunio Ieithyddol bwerus i arwain y gwaith o adfer y Gymraeg yn iaith genedlaethol. “Gallai’r asiantaeth,” meddai, “fod yn gorff hyd-braich neu yn uned amlwg a dylanwadol o fewn Llywodraeth Cymru.” Nododd fod y strwythurau presennol yn gwbl anaddas i’w pwrpas.
Wrth i’r trafodaethau ddatblygu, daeth yn glir bod consensws ynglŷn â’r angen i symud pwyslais polisi i gynllunio ieithyddol cynhwysfawr, gan barhau i ddiogelu hawliau siaradwyr. Dyma’r math o weledigaeth holistaidd a chytbwys bu Dyfodol yn dadlau o’i phlaid o’r cychwyn.
Amlinellodd Adam Price dair blaenoriaeth ar gyfer cyrraedd y miliwn. Yn ogystal â chynllun Arfor i fynd i’r afael â’r cyfleoedd a bygythiadau economaidd yng nghadarnleoedd y Gymraeg ac ystyried rhinweddau cael Deddf Addysg Gymraeg, ymrwymodd hefyd i sefydlu Asiantaeth i’r Gymraeg. Byddai’r nod hwn yn cael ei osod fel un o flaenoriaethau 100 diwrnod cyntaf i Lywodraeth Plaid Cymru.
Wrth siarad am safbwynt y Llywodraeth, dywedodd Eluned Morgan eu bod ar hyn o bryd yn ystyried pa newidiadau oedd eu hangen. Roedd hi yn erbyn creu corff hyd-braich ychwanegol ond roedd Asiantaeth i’r Gymraeg o fewn y Gwasanaeth Sifil, yn meddu ar y gallu i ddylanwadu ar bolisi ar draws adrannau’r Llywodraeth ac yn atebol i’r Gweinidog, yn opsiwn sydd dan ystyriaeth.
Cafwyd cyfle’n dilyn cyflwyniadau’r panel i agor y drafodaeth i’r llawr. Ymysg y testunau oedd yr angen i ennill cefnogaeth eang i’r Gymraeg, y pwysau dirfawr am fwy o athrawon i ddysgu drwy gyfrwng yr iaith, rôl y Mentrau Iaith, a’r angen i ddiwygio’r gyfundrefn cynllunio gwald a thref. Daeth yn amlwg o amrywiaeth a thaerineb y testunau bod angen ewyllys, adnoddau a phennu cyfrifoldebau clir er mwyn bwrw ymlaen gydag agenda Cymraeg 2050.
Ar ddiwedd cyfarfod llwyddiannus a chadarnhaol, meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol I’r Iaith, “Roedd y consensws ymhlith y gynulleidfa niferus yma yn gryf o blaid sefydlu Asiantaeth bwerus i yrru strategaeth adfer y Gymraeg yn ei blaen,