RHESYMAU DROS WRTHOD MABWYSIADU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD GWYNEDD A MÔN

Ar y cyd â’r mudiadau iaith canlynol; Cylch yr Iaith, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai a Chymdeithas yr Iaith, cynrychiolir Dyfodol i’r Iaith ar Bwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn. Sefydlwyd y Pwyllgor hwn i herio a gwrthwynebu’r Cynllun Datblygu Lleol, sydd ar fin cael ei benderfynu gan y ddwy Sir.

Os ydych chwithau’n bryderus ynglŷn ag oblygiadau’r Cynllun i’r Gymraeg, yna, byddwn yn gofyn i chwi ysgrifennu at eich Cynghorydd Sir, a dangos eich gwrthwynebiad drwy ymgynnull tu allan i Swyddfeydd Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon am 1.15 ar Orffennaf 28, a Swyddfeydd Cyngor Môn, Llangefni am 9.15 ar Orffennaf 31.

Nodir isod ein rhesymau dros wrthwynebu’r Cynllun.

  • NIFEROEDD Y TAI YN RHY FAWR 

Mae’r Cynllun yn datgan bod niferoedd y tai, sef 7,902 rhwng y ddwy sir, yn darparu ar gyfer twf yn y boblogaeth. Mae’r twf hwn yn seiliedig ar fewnlifiad, felly mae’r Cynllun yn darparu ar gyfer mewnlifiad a thrwy hynny yn ei hyrwyddo. Y drefn oedd pennu cyfansymiau sirol ar gyfer Gwynedd ac ar gyfer Môn a dosrannu’r niferoedd i’r cymunedau. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Dylai’r cyfansymiau fod wedi cael eu seilio ar ddiwallu angen lleol yn y cymunedau.

 

  • ASESIAD IAITH DIFFYGIOL

Yn wahanol i asesiadau ar agweddau eraill o’r Cynllun, ni chomisiynodd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd asesiad annibynnol o’i gynaliadwyedd ieithyddol. Cyflawnwyd y gwaith gan yr Uned,  er ei bod yn cydnabod nad oedd o’i mewn arbenigedd yn y maes. Penderfynodd y mudiadau iaith gomisiynu asesiad annibynnol gan ymgynghoriaeth iaith Hanfod. Daeth yr astudiaeth i’r casgliad bod y Cynllun yn darparu gormod o dai ac mai’r canlyniad fyddai gwanychu sefyllfa’r Gymraeg. Cafodd yr asesiad annibynnol ei ddiystyru gan yr Uned.

 

  • POLISI IAITH DIFFYGIOL

Nid yw Polisi Strategol 1 (Yr Iaith a’r Diwylliant Cymraeg) y Cynllun yn gwarchod yr iaith. Mae’r polisi yn caniatáu datblygiadau niweidiol os gellir lleihau rhyw gymaint ar y niwed trwy fesurau lliniaru. Mae Siân Gwenllian AC a Llyr Huws Gruffydd AC wedi datgan bod y polisi hwn yn annerbyniol.

 

  • AROLWG DIFFYGIOL

Fel rhan o’u tystiolaeth yn sail i’r Cynllun, cynhaliodd y ddau gyngor sir ‘Arolwg Tai ac Iaith Gwynedd ac Ynys Môn’ rhwng Medi a Thachwedd 2013, ond dangosodd yr ystadegydd Hywel Jones (Statiaith) fod diffygion difrifol yn y fethodoleg a ddefnyddiwyd. Ei asesiad ef o’r  arolwg oedd ei fod yn annilys yn ystadegol a’r casgliadau’n annibynadwy.

 

  • CANRAN TAI FFORDDIADWY YN RHY ISEL

Mae canran y tai fforddiadwy mewn datblygiad wedi ei gosod mor isel â 10%. Mae tystiolaeth o’r angen am dai fforddiadwy yn dangos y dylai’r ganran fod yn llawer iawn uwch. Bydd y polisi hwn yn golygu mai tai marchnad agored fydd 90% o’r datblygiadau tai hyn.

 

  • NIFER CYMUNEDAU’R POLISI MARCHNAD TAI LLEOL YN RHY FACH

Dim ond mewn nifer cyfyngedig iawn o gymunedau y bydd y polisi o gyfyngu tai i bobl leol yn unig yn cael ei weithredu.

 

  • LLAI O ARDALOEDD I GAEL CLWSTWR

Bydd llai o fân bentrefi ac ardaloedd gwledig yn cael clwstwr, sef nifer fach o dai. Bydd hyn yn nacáu’r cyfle i nifer o gymunedau sicrhau cynaliadwyedd a thwf naturiol trwy ddiwallu angen lleol.

 

  • DIM DATBLYGU GRADDOL

Ni fydd modd gosod amod ar ddatblygwyr i ddatblygu’n raddol, sef codi nifer penodol o dai ar y tro yn unol ag amserlen gytunedig.

 

DYFODOL YN COLLFARNU’R CASGLIADAU’R LLYWODRAETH AR DDATBLYGIAD PEN Y FFRIDD

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gresynu y bod Llywodraeth Cymru ar fin caniatáu datblygiad o 336 o dai newydd ym Mhen y Ffridd, Penrhosgarnedd, Bangor. Cyhoeddwyd hyn er waethaf gwrthwynebiad lleol a sirol, yn ogystal ag asesiad annibynnol sy’n dod i’r casgliad y byddai’r datblygiad yn niweidiol i’r Gymraeg yn ardal Penrhosgarnedd a hwnt.

Dengys yr achos nad yw buddiannau’r Gymraeg yn cael blaenoriaeth ddigon uchel, ac ym marn Dyfodol, mae’n ddadl bellach dros yr angen i’r Gymraeg gael rôl statudol gryfach ym maes cynllunio

Y GYMRAEG: TU HWNT I FFINIAU’R YSGOL

Sion Aled

Diolch i bawb a ddaeth draw i Ganolfan Arad Goch yn Aberystwyth i’n Cyfarfod Cyhoeddus; gobeithiwn i chwi gael amser difyr a thestun meddwl.

Cawsom gyflwyniad hynod ddifyr a diddorol gan Siôn Aled Owen; Y Gymraeg: Tu Hwnt i Ffiniau’r Ysgol. Roedd y cyflwyniad hwn yn seiliedig ar ei ymchwil pwysig i’r defnydd a wneir o’r Gymraeg gan ddisgyblion ysgolion Cymraeg y tu allan i’r dosbarth.

Er bod ymateb y plant a’r bobl ifanc i’r Gymraeg yn hynod gadarnhaol, dywed Dr Owen bod rhaid gweithredu ar fyrder i droi’r ewyllys da’n wirionedd. Rhaid gwneud llawer mwy o safbwynt creu cyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg ac ennyn hyder i’w defnyddio o ddydd i ddydd. Dengys yr ymchwil nad gorfodi yw’r ateb, ond yn hytrach newid ymddygiad, gan adnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan y teulu (a’r teulu estynedig) a’r cyfryngau.

Roeddem yn falch iawn o glywed fod yr ymchwil hwn yn cadarnhau un o negeseuon sylfaenol Dyfodol; sef bod angen i bolisi iaith ganolbwyntio ar greu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol, a chyda hyder a balchder. Dengys ymchwil Siôn Aled Owen bod y sylfaen mewn lle o safbwynt ewyllys, ond i’r Llywodraeth fwrw ymlaen i adeiladu arni.