POLISI CYFLOGAETH CARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD A’R GYMRAEG

Copi o lythyr sydd wedi’i ddanfon at Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Claire Russell Griffiths

Cadeirydd y Bwrdd Rheoli

Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Ionawr 9, 2015

Annwyl Claire Russell Griffiths,

Polisi Cyflogaeth Cartrefi Cymunedol Gwynedd a’r Gymraeg

Ysgrifennaf atoch ar ran y mudiad, Dyfodol i’r Iaith, i nodi ein pryder dwys bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi hysbysebu dwy swydd, swydd Cyfarwyddwr Adnoddau a swydd Cyfarwyddwr Asedau ac Isadeiledd, heb fod y Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar eu cyfer.

Barn Dyfodol i’r Iaith yw mai’r Gymraeg yw priod iaith Gwynedd, a bod meddu arni’n hanfodol er mwyn ymgymryd â gwaith sy’n gysylltiedig â’r sector gyhoeddus, neu â meysydd megis rheolaeth tai a fu gynt yng ngofal y sector gyhoeddus ac sydd wedi ei allanoli i gyrff fel Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Mae’r egwyddor hon – mai’r Gymraeg yw iaith gyhoeddus Gwynedd – wedi ei hen dderbyn, ac mae’n mwynhau cefnogaeth eang ar draws y gymdeithas.

Mae hyn yn cael ei adlewyrchu wrth gwrs yn eich polisi iaith sy’n nodi fod eich staff yn medru Cymraeg, sef y polisi yr ydych wedi penderfynu mynd yn groes iddo wrth hysbysebu’r swyddi hyn.

Byddai bwrw ymlaen â phroses penodi a allai arwain at benodi unigolion na fedrant gyfathrebu yn iaith gyhoeddus, arferedig y sir yn gam enfawr yn ôl, ac nid yn unig i Gartrefi Cymunedol Gwynedd, ond i drigolion y sir i gyd.

Rydym yn cydsynio â’r Comisiynydd Iaith y dylid atal y broses benodi am y tro. Mae angen i honno gael ei chychwyn o’r newydd, a bod y gallu i siarad Cymraeg yn cael ei nodi fel sgil hanfodol ar gyfer y ddwy swydd.

Yn gywir,

Simon Brooks, Ysgrifennydd, Dyfodol i’r Iaith

DYFODOL YN CEFNOGI CANOLFANNAU CYMRAEG

Mae sefydlu Canolfannau Cymraeg mewn ardaloedd sydd wedi gweld y Saesneg yn dod yn brif iaith, yn gam allweddol wrth adfywio’r iaith yn yr ardaloedd hynny.  Dyna honiad Dyfodol i’r Iaith wrth i gynlluniau am Ganolfannau Cymraeg ddod yn agos at eu gwireddu yn Llanelli a mannau eraill. Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Wrth i sefydliadau traddodiadol sydd wedi cefnogi’r iaith a chymdeithasu trwy’r Gymraeg edwino, mae hi’n dod yn fwyfwy pwysig bod gan gymunedau yng Nghymru ganolfannau sy’n rhoi modd i bobl leol gymdeithasu a mwynhau gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.” “Mae Canolfannau Cymraeg yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn anffurfiol, ac yn rhoi cyfle hefyd i bobl ifanc fwynhau bywyd Cymraeg y tu allan i’r system addysg.” “Mae modelau ar gael yn Abertawe a Merthyr Tudful sy’n profi bod Canolfannau Cymraeg yn gallu llwyddo a dod yn ffocws i fywyd Cymraeg.  Mae cael mudiadau Cymraeg, Cymraeg i Oedolion, y Mentrau Iaith a llywodraeth leol i ddod at ei gilydd yn allwedd llwyddiant, ond yr un mor bwysig yw bod gwirfoddolwyr lleol yn ganolog i’r  fenter.” “Mae’n wych bod y Llywodraeth yn rhoi arian cyfalaf i gefnogi sefydlu Canolfannau Cymraeg mewn sawl rhan o Gymru.  Y ddelfryd yw bod y rhain yn amlhau a’u bod yn dod yn ganolfannau dysgu a chymdeithasu, yn debyg i’r 200 o ganolfannau yng Ngwlad y Basgiaid.” “Gyda’i gilydd, gallan nhw gyfrannu’n greadigol at drawsnewid ieithyddol yn ardaloedd Seisnigedig Cymru.”