ANGEN CANLLAWIAU CADARN I REOLI DEFNYDD O’R SAESNEG AR S4C

Gyda defnydd cynyddol o’r Saesneg i’w glywed ar raglenni S4C, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am ganllawiau cadarn i sicrhau mai’r Gymraeg a glywir wrth wrando ar y sianel.

Dywedodd Eifion Lloyd Jones, Llefarydd Dyfodol ar ddarlledu:

“Mae’n bryder mawr gennym glywed cymaint o Saesneg ar raglenni. Sianel Gymraeg, nid dwyieithog yw S4C, sy’n codi’r cwestiwn a fyddai BBC Wales, dyweder, yn fodlon bod yn sianel ddwyieithog. Dymunwn i S4C roi cartref diogel i’r Gymraeg lle y mae hi’n gallu ffynnu fel cyfrwng naturiol a diofyn. Mae presenoldeb cynyddol y Saesneg mewn rhaglenni yn tanseilio ei chenadwri fel Sianel Gymraeg ac yn rhwystr i fynegiant a chynrychiolaeth yr iaith.

Yn amlwg, ceir ambell eithriad prin lle bo’r Saesneg yn anorfod – ar y Newyddion, er enghraifft, lle gall pwysau amser rwystro trosleisio – ond dim ond os yw’r cyfweliad yn ddigon pwysig i’w gynnwys yn uniongyrchol yn hytrach na’i aralleirio yn Gymraeg.

Syndod y sefyllfa, fodd bynnag, yw nad yw’n ymddangos fod polisi na chanllaw clir ynglŷn â’r defnydd o Saesneg mewn rhaglenni, hyd y deallwn o’n trafodaethau gyda’r penaethiaid. Credwn fod hwn yn ddiffyg sylfaenol, a byddwn yn parhau i drafod a phwyso ar y Sianel i lunio trefn ymarferol er mwyn diogelu S4C fel un o beuoedd pwysicaf y Gymraeg.”

 

ADOLYGIAD S4C: DYFODOL YN GALW AM DDATGANIAD I WARCHOD Y GYMRAEG

Wrth ymateb i Adolygiad S4C, Mae Dyfodol i’r Iaith wedi pwyselisio’r angen i ffurfioli rôl y sianel yn y genhadaeth o adfer a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Mae’r mudiad yn galw am fabwysiadu datganiad, ar fodel teledu’r Maori yn Seland Newydd, i gyfrannu at ffyniant yr iaith.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Byddai gweithredu ar sail datganiad o’r fath ar draws holl weithgareddau’r Sianel yn rhoi cyfeiriad pendant i’r gwasanaeth a’i berthynas â’r Gymraeg, a byddai’n gosod holl gynnyrch y Sianel yng nghalon yr ymdrech i gryfhau’r iaith.”

Pwysleisia’r mudiad bod ystyriaethau ariannol yn hanfodol os yw’r sianel am wneud cyfraniad cadarn i hyrwyddo’r Gymraeg. Mae angen sicrhau rhyddid a chefnogaeth i S4C ehangu ac arloesi er mwyn ymateb i farchnad sy’n prysur newid, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt.

Rhaid sicrhau cyllid digonol a sefydolog  i ddatblygu’n hyderus ac arloesol. Rhaid anelu at sicrhau annibyniaeth olygyddol y sianel, ond gan ymorol yr un pryd na fyddai unrhyw drefniant newydd yn cyfaddawdu sicrwydd ariannol  y dyfodol.

 

DYFODOL YN GALW AM NAWDD DIGONOL AR GYFER Y CYMRO

Gyda thrafodaethau ar y gweill ynglŷn ag ail-lansiad Y Cymro, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar i Lywodraeth Cymru roi nawdd digonol i’r papur newydd eiconig hwn er mwyn sicrhau ei ddyfodol a’i ddatblygiad.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

Y Cymro yw’r unig bapur newydd cenedlaethol cyfrwng Cymraeg, ac mae ei oroesiad a’i ffyniant yn cynrychioli cyfraniad allweddol i’n diwylliant ac i fyd y cyfryngau yng Nghymru. Byddwn yn galw ar i’r Llywodraeth roi cefnogaeth ddigonol i’r papur ar ei newydd wedd drwy ganiatáu grant sydd o leiaf yn cyfateb â’r nawdd a roddir i Golwg. Byddwn yn gobeithio y byddai modd rhoi grant brys i ddechrau, i’w ffurfioli maes o law drwy’r Cyngor Llyfrau.”