YMGYNGHORIAD CYNLLUNIO ADFERIAD Y GYMRAEG PWNC TRAFOD 7: TECHNOLEG A’R CYFRYNGAU

Y testun trafod diweddaraf yn ein hymgynghoriad ar Gynllunio Adferiad y Gymraeg yw TECHNOLEG A’R CYFRYNGAU.

Fel o’r blaen, byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni. Mae croeso i chwi ddefnyddio’r templed cwestiynau isod neu anfon eich sylwadau atom ar unrhyw ffurf arall.

Isod, ceir crynodeb o ofynion Dyfodol ynglŷn â’r berthynas rhwng technoleg a’r cyfryngau ac adfer y Gymraeg. Os ydych am weld y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn ei chrynswth, mae copi ar gael i’w darllen ar ein gwefan, dyfodol.net

Diolch drachefn i bawb sydd wedi ymateb hyd yma. Edrychwn ymlaen at glywed gennych – cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau:

[email protected]

neu ffoniwch 01248 811798

 PWNC TRAFOD 7: TECHNOLEG A’R CYFRYNGAU

 Dyma farn Dyfodol:

Mae unrhyw un sydd â dau lygad yn ei ben yn gallu gweld mai dyma’r lle y mae diwylliant, economi ac ymwneud cymdeithasol yn cael eu trawsnewid yn ein hoes ni, a hynny ar raddfa arswydus. Mae’n greiddiol i’r prosiect.

Sut mae dod i ben â defnyddio technoleg a’r cyfryngau i gryfhau’r Gymraeg ac i wasanaethu’r gymuned Gymraeg sy’n ormod o gwestiwn i’w drafod yn fanwl yma ond mae rhaid mynd ati, gydag S4C a’r BBC, y prif chwaraewyr, yn derbyn eu cyfrifoldeb nid yn unig i ddarparu cynnwys ond i hyrwyddo’r iaith yn y byd digidol yn gyffredinol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol. Cam angenrheidiol y mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu drosto yw sefydlu Ofcom Cymreig.

 YDYCH CHI’N CYTUNO Â NI? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU AR SUT Y GALL TECHNOLEG A’R CYFRYNGAU GEFNOGI TWF Y GYMRAEG?

EISTEDDFOD DYFODOL

Diolch i bawb a sicrhaodd Eisteddfod mor gofiadwy i ni eleni: boed hynny’r sawl a gyfrannodd at ein cyflwyniadau a’n trafodaethau, a fu’n diddanu ar ein stondin, neu a alwodd heibio am sgwrs a holi am ein gwaith.

CYFLWYNIADAU

Cawsom gyfle i wneud dau gyflwyniad o lwyfan Pabell y Cymdeithasau, gan gynnwys trafodaeth amserol a chadarnhaol ar gyfraniad y Cynghorau Sir i amcanion Cymraeg 2050. Credwn ei bod yn ymarferol a hanfodol i Gynghorau’r ardaloedd Cymreicaf (Môn, Ceredigion, Sir Gar, yn ogystal â Gwynedd) weithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu Dyfrig Siencyn o Wynedd a Peter Hughes-Griffiths o Sir Gâr yn trafod yr her a’r realiti o gyflawni hyn dan gadeiryddiaeth Gwerfyl Pierce Jones

Ar y dydd Gwener, bu Cynog Dafis a Dr Kathryn Jones o Iaith Cyf. yn amlinellu pwysigrwydd Cynllunio Ieithyddol a strwythurau rheoli grymus ac addas os ydym am lunio ymateb cynhwysfawr i greu’r amgylchiadau a’r ewyllys a fyddo’n caniatáu twf y Gymraeg. Dyma conglfaen ein gobeithion am adfywio’r iaith a gobeithiwn y bu’r cyflwyniad hwn yn sail at drafodaethau’r dyfodol. Braf oedd cael trafod Cynllunio Ieithyddol yng nghyd-destun datblygiadau addawol, megis cyhoeddiad diweddar Weinidog y Gymraeg i alw ar arbenigedd ieithyddol er mwyn cynllunio’r camau allweddol nesaf.

TRAFODAETHAU

Croesawyd ystod o arbenigwyr i rannu eu syniadau a’u profiadau gydag ymwelwyr i’r stondin. Bu Gareth Pierce yn trafod anghenion addysg; Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, yn amlinellu dyfodol ein sianel genedlaethol; a Simon Brooks ac Wyn Thomas yn cyflwyno problemau’r gyfundrefn gynllunio mewn perthynas â’r Gymraeg.

ADLONIANT

Yn dilyn y holl siarad, braf oedd cael ymlacio ganol prynhawn a mwynhau’r wledd o adloniant a drefnwyd ar ein cyfer. Diolch i’r cerddorion gwych a fu’n codi’n calonnau yn ystod yr wythnos!