MILIWN O SIARDWYR – O DDIFRI’?: GALW AM ASIANTAETH CYNLLUNIO IEITHYDDOL BWERUS

Eluned Morgan, Adam Price a Cynog Dafis yn trafod Asiantaeth i’r Gymraeg yng Nghyfarfod Dyfodol i’r Iaith, Yr Egin, Mai 25ain, 2019.

Diolch i bawb ddaeth draw i’n cyfarfod cyhoeddus yn Yr Egin, Caerfyrddin bore Sadwrn, Mai 25ain. Da oedd gweld cymaint o gynulleidfa ar gyfer trafodaeth mor allweddol ac amserol, sef beth yw’r camau allweddol nesaf os ydym am wireddu’r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Roeddem yn falch iawn o groesawu Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg ac Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru i ymateb i’n safbwynt ni fel mudiad, a gynrychiolwyd gan Cynog Dafis. Carwn ddiolch hefyd i gadeirydd y cyfarfod, Dr Mererid Hopwood am sicrhau trafodaeth glir a chytbwys.

Fel y gwyddoch, rydym ni o’r farn y bod angen strwythurau grymus i gefnogi a chyflawni’r newid cyfeiriad sylfaenol tuag at gynnydd a thwf y Gymraeg. Dadl Cynog Dafis, ar ran Dyfodol, oedd bod bellach angen Asiantaeth Gynllunio Ieithyddol bwerus i arwain y gwaith o adfer y Gymraeg yn iaith genedlaethol. “Gallai’r asiantaeth,” meddai, “fod yn gorff hyd-braich neu yn uned amlwg a dylanwadol o fewn Llywodraeth Cymru.” Nododd fod y  strwythurau presennol yn gwbl anaddas i’w pwrpas.

Wrth i’r trafodaethau ddatblygu, daeth yn glir bod consensws ynglŷn â’r angen i symud pwyslais polisi i gynllunio ieithyddol cynhwysfawr, gan barhau i ddiogelu hawliau siaradwyr. Dyma’r math o weledigaeth holistaidd a chytbwys bu Dyfodol yn dadlau o’i phlaid o’r cychwyn.

Amlinellodd Adam Price dair blaenoriaeth ar gyfer cyrraedd y miliwn. Yn ogystal â chynllun Arfor i fynd i’r afael â’r cyfleoedd a bygythiadau economaidd yng nghadarnleoedd y Gymraeg ac ystyried rhinweddau cael Deddf Addysg Gymraeg, ymrwymodd hefyd i sefydlu Asiantaeth i’r Gymraeg. Byddai’r nod hwn yn cael ei osod fel un o flaenoriaethau 100 diwrnod cyntaf i Lywodraeth Plaid Cymru.

Wrth siarad am safbwynt y Llywodraeth, dywedodd Eluned Morgan eu bod ar hyn o bryd yn ystyried pa newidiadau oedd eu hangen.  Roedd hi yn erbyn creu corff hyd-braich ychwanegol ond roedd Asiantaeth i’r Gymraeg o fewn y Gwasanaeth Sifil, yn meddu ar y gallu i ddylanwadu ar bolisi ar draws adrannau’r Llywodraeth ac yn atebol i’r Gweinidog, yn opsiwn sydd dan ystyriaeth.

Cafwyd cyfle’n dilyn cyflwyniadau’r panel i agor y drafodaeth i’r llawr. Ymysg y testunau oedd yr angen i ennill cefnogaeth eang i’r Gymraeg, y pwysau dirfawr am fwy o athrawon i ddysgu drwy gyfrwng yr iaith, rôl y Mentrau Iaith, a’r angen i ddiwygio’r gyfundrefn cynllunio gwald a thref. Daeth yn amlwg o amrywiaeth a thaerineb y testunau bod angen ewyllys, adnoddau a phennu cyfrifoldebau clir er mwyn bwrw ymlaen gydag agenda Cymraeg 2050.

Ar ddiwedd cyfarfod llwyddiannus a chadarnhaol, meddai Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol I’r Iaith, “Roedd y consensws ymhlith y gynulleidfa niferus yma yn gryf o blaid sefydlu Asiantaeth bwerus i yrru strategaeth adfer y Gymraeg yn ei blaen,